twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

Pan ofynnir ynghylch ‘llais’ mewn ysgolion, gallech feddwl am Gynghorau Myfyrwyr, myfyrwyr-lywodraethwyr, neu grwpiau tebyg ag enwau gwahanol (llysgenhadon, hyrwyddwyr, ymchwilwyr, pwyllgorau, Seneddau myfyrwyr...). Mae’r rhain yn aml yn cael eu trefnu fel mathau o ddemocratiaeth gynrychioliadol - mae myfyrwyr yn cael eu hethol, neu eu dewis, neu’n gwirfoddoli; maen nhw i fod i gynrychioli corff mwy o faint, i siarad ar ran eraill; maen nhw’n gweithio ar faterion sy’n bwysig i’r ysgol (o bolisïau, i’r amgylchedd, cyfleusterau, cyfathrebu, i sut mae’n cael ei rhedeg, i addysgu a dysgu); ac maen nhw’n aml yn ‘swyddogol’ neu’n weladwy i (o leiaf rai) oedolion a myfyrwyr yn yr ysgol. 

Neu, gallech feddwl am fathau o ‘ymgynghori’, fel arolygon neu grwpiau ffocws gyda dosbarthiadau, grwpiau blwyddyn neu’r ysgol gyfan, lle y ceisir barn pobl ifanc am agweddau ar y ddarpariaeth addysgol, yn aml gydag addewid i weithredu ar yr adborth i wella gwasanaethau (“fe ddywedoch chi ...fe wnaethon ni”). 

Mae’r rhain i gyd yn ffyrdd sefydledig a gwerthfawr o feddwl am gyfranogiad ieuenctid a dinasyddiaeth weithgar. Mae Erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn rhoi hawl i blant fynegi eu safbwyntiau ac iddynt gael eu hystyried o ddifrif, ac mae’n sail i hawliau eraill sy’n ymwneud â chyfranogiad yn y Confensiwn. Mae gwaith ymchwil yn amlygu manteision y gwaith hwn, ond mae hefyd yn dangos anghydraddoldebau o ran mynediad at gyfranogiad, sydd wedi’i strwythuro gan wahaniaethau sy’n gysylltiedig â ffactorau cymdeithasol-economaidd, rhywedd, hil ac ati. 

Mae awduron Youthquake 2017, James Sloam a Matt Henn,  yn dadlau bod pobl ifanc yn “ailddyfeisio gweithredaeth wleidyddol”, gan gyfranogi trwy ddeisebau, boicotiau a gwrthdystiadau ar-lein, yn hytrach na gwleidyddiaeth etholiadol draddodiadol. Gellir eu hystyried yn ‘ddinasyddion parod’ sy’n ymwneud ag achosion unigol pan fydd mater yn bwysig iddynt. Efallai nad yw gweithredaeth o’r fath yn amlwg iawn mewn gwleidyddiaeth draddodiadol, ond nid yw’n llai teilwng o sylw a pharch. 

Mae Sevasti-Melissa Nolas yng Ngholeg Goldsmiths, Llundain, yn disgrifio’r grwpiau a’r mathau hyn o weithredaeth, sy’n aml yn anffurfiol, fel ‘grwpiau mater penodol’, ac mae’n ymddiddori’n arbennig mewn sut maen nhw’n ein helpu ni i feddwl am fywydau pob dydd a gweithredu cymdeithasol plant a phobl ifanc mewn ffyrdd newydd. 

Gallwch ei chlywed yn trafod ei hymchwil gyda’r Athro Rachel Thomson yma a darllen erthygl a ysgrifennodd am hyn ar gyfer cyfnodolyn Children & Society Biwro Cenedlaethol y Plant yma. Mae ei blog yma.

Fodd bynnag, mae llawer o’r hyn a welwch yn nhudalennau AGENDA yn ymwneud â ffyrdd gwahanol o fodoli neu weithredu yn y byd: grwpiau o bobl ifanc sy’n dod at ei gilydd, yn aml gyda chymorth oedolion, weithiau’n lleol ac weithiau ar draws ardaloedd daearyddol, i fynd i’r afael â materion penodol sy’n achosi pryder. Gallai’r materion hyn fod yn gysylltiedig â’r ysgol, ond maen nhw’n aml yn ymestyn y tu hwnt i hynny hefyd. Mae eu lleisiau’n cael eu mynegi mewn sawl ffordd - nid dim ond trwy siarad mewn cyfarfodydd, ond yn greadigol, trwy ddawns, celfyddyd weledol, cylchgronau, arteffactau, baneri, gorymdeithiau. Maen nhw’n cymryd rhan mewn gweithredaeth ar y cyd wedi’i chyfeirio at wleidyddion, penaethiaid ac eraill sydd mewn pŵer, ond hefyd mewn ymgyrchoedd mwy personol sydd wedi’u cyfeirio at eu cyfoedion. Gallent ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol fel blogiau, blogiau fideo, hashnodau, memynnau, lle maen nhw’n gadael olion dros amser. Gallent ‘fynd yn feirysol’, gan ddod yn symudiadau cymdeithasol sy’n adnabyddus i gynulleidfa ehangach, a pharhau; neu, gallent fod yn fyrhoedlog wrth i’r rhai sy’n gysylltiedig symud ymlaen i faterion a phryderon eraill. Gallai un person ifanc ymwneud â mwy nag un grŵp o’r fath ar unrhyw un adeg, a thros amser. 

Tyfodd AGENDA o weithredu tebyg gan grwpiau bach o bobl ifanc a ysgrifennodd gardiau Sain Ffolant i wleidyddion, ac a anfonodd negeseuon trydar ynglŷn â’r angen am weithredu a arweinir gan bobl ifanc i wneud i berthnasoedd cadarnhaol gyfri, gyda chymorth academyddion, sefydliadau’r sector gwirfoddol, ac eraill.  

Un o nodau AGENDA yw helpu addysgwyr i ‘weld’ y grwpiau a’r mathau hyn o weithredu, nad ydynt bob amser yn cyfateb i ddealltwriaeth gonfensiynol o gyfranogiad ieuenctid, er mwyn sylweddoli sut y gallent weithio’n wahanol, a dysgu o’u creadigrwydd a’u hegni. 

Mae ysgolion yn bwysig yn hyn o beth hefyd - maen nhw’n fannau lle mae staff a phobl ifanc yn dod at ei gilydd ar draws gwahaniaethau cymdeithasol oedran, rhywedd, ethnigrwydd, dosbarth, rhywioldeb, ac yn dysgu byw gyda’i gilydd. Gall ysgolion helpu pobl ifanc i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed, i wrando ar safbwyntiau eraill a thystiolaeth arall, i fyfyrio ar eu safbwyntiau eu hunain ac i ehangu eu ffordd o feddwl. Gallant gyfryngu rhwng lleisiau er mwyn sicrhau eu bod nhw i gyd yn cael eu clywed ond nad yw’r rhai sy’n gas, yn sarhaus neu’n waharddol yn dominyddu, a sicrhau bod arferion llais myfyrwyr yn hyrwyddo hawliau, cyfiawnder cymdeithasol, cynhwysiant ac amrywiaeth. 

Mae AGENDA yn wahoddiad i ymuno â’r sgyrsiau a’r grwpiau trafod penodol hyn.

Rhai cwestiynau i’w gofyn am ‘Lais Ieuenctid’

Pwy sy’n siarad?

Pwy sy’n cael ei gynnwys? Sut maen nhw’n cymryd rhan? Os ydynt yn cael eu dewis, gan bwy, a pha negeseuon y gallai’r prosesau dethol eu cyfleu? Ym mha ffyrdd eraill y gellid annog plant a phobl ifanc i gymryd rhan, a beth yw manteision ac anfanteision pob un? (Sut) mae gwahaniaethau rhwng ac ymhlith pobl ifanc yn cael eu hystyried? Pwy / beth allai gael ei ddistewi?

‘Pwy’ maen nhw’n siarad ar ei ran?

Pa hunaniaethau sy’n cael eu cynnig i blant a phobl ifanc yn y broses hon, pwy y gofynnir iddynt esgus bod (er enghraifft: ‘dysgwyr’, merched, bechgyn, ‘pobl ifanc’, ‘arbenigwyr’ neu ‘nofisiaid’, ‘dioddefwyr’ neu asiantiaid, dinasyddion, gweithredwyr...)? Sut maen nhw’n cael eu hannog i’w gweld eu hunain? Sut gallai’r hunaniaethau hyn gysylltu â hunaniaethau eraill sydd ganddynt, yn yr ysgol a’r tu allan iddi? Pa fodelau rôl sydd ganddynt neu a allai fod ganddynt?

Beth maen nhw’n siarad amdano?

Pa bynciau yr ystyrir eu bod yn addas i’w lleisio? A oes rhai meysydd sydd wedi’u gwahardd, yn benodol neu’n ymhlyg? Beth sy’n cael ei ddadlau / sy’n ddadleuol? Beth yw rôl gwybodaeth flaenorol plant a phobl ifanc, eu diddordebau, eu profiadau, eu bywydau y tu allan i’r ysgol yn ogystal ag ynddi, yn y broses hon? 

Sut maen nhw’n siarad?

Sut gallai gwahanol ddulliau, deunyddiau neu dechnolegau effeithio ar yr hyn sy’n cael ei ddweud a sut? A roddir cyfle i gyfathrebu’n greadigol (trwy gerddoriaeth, celfyddyd, ffilm), neu a flaenoriaethir dulliau academaidd traddodiadol yn bennaf (sgwrs neu waith ysgrifennu ffurfiol)? Pa deimladau y caniateir iddynt gael eu mynegi: a oes lle ar gyfer llid, hiwmor, rhwystredigaeth, amheuaeth, dryswch? Sut mae plant a phobl ifanc yn cael eu helpu i ddysgu’r sgiliau i fyfyrio ar eu hemosiynau? Pa sianeli a phlatfformau sy’n cael eu defnyddio - (ble a sut) mae cyfryngau cymdeithasol yn ymddangos? Pa arteffactau mae’r llais hwn yn eu cynhyrchu a sut maen nhw’n cael eu dosbarthu? 

Gyda phwy maen nhw’n siarad?

Pwy yw’r gynulleidfa? Pa berthnasoedd sy’n cael eu sefydlu? Pa fathau o ddeialog sy’n cael eu galluogi? Pwy/beth allai fod yn awyddus i glywed a phwy allai wrthwynebu clywed? Pwy sy’n dehongli llais a sut?

Beth all llais ei wneud?

Sut mae llais yn gwneud gwahaniaeth, a sut gallwn esbonio hyn? Pa deimladau, galluoedd i weithredu, cysylltiadau a chymwyseddau newydd sy’n cael eu datblygu trwy brosesau llais ieuenctid, a sut? 

Ym mha gyd-destunau a lleoedd?

I ba raddau mae ‘llais myfyrwyr’ wedi’i ymgorffori mewn arferion dyddiol ysgolion neu sefydliadau eraill? Beth yw diwylliant trechaf y sefydliad? Sut mae cyd-destunau mwy yn ffurfio sut mae llais yn cael ei glywed a’i dderbyn, a sut y gweithredir arno, o ddiwylliannau ysgolion lleol i bolisïau cenedlaethol?

Beth yw rôl oedolion yn y broses hon?

Pa oedolion sy’n rhan ohoni - a pha rai nad ydynt?

Gofynnwch y cwestiynau hyn mewn perthynas â rhai o’r enghreifftiau isod:

Lleisiau dros Ddistawrwydd 

Chwalu Rhywiaeth Fasnachol

Mwy na’n graddau

Prosiect Rotifer

Mae Croestoriadeddyn Cyfri

Gwneud i Lais Gyfri

Megino Tanau Ffeministaidd

Pob CORFFyn Bwysig

Amrywiaeth Ddigidol

Melt Down?

Pawb ohonon ni

Kisstory

Crefftio Cydraddoldeb

I-motion

Codi Llais!

Ruler heART

 

Awgrymiadau Da i Athrawon

  • Mae’r broses yr un mor bwysig â’r canlyniad.

  • Gosodwch rai rheolau syml ar gyfer llais: a yw’n barchus, a yw’n gwella pethau, a yw’n hyrwyddo hawliau, cyfiawnder cymdeithasol, amrywiaeth a chydraddoldebau?

  • Darparwch rywbeth go iawn - hysbysfwrdd neu gyllideb, efallai - fel bod y plant a’r bobl ifanc yn gallu teimlo eu bod yn berchen arno/arni. 

  • Mae arnoch angen sawl ffordd o fynegi llais - gan gynnwys Lego!

  • Ehangwch y rolau sydd ar gael fel bod myfyrwyr yn gallu rhoi cynnig ar rywbeth os ydynt yn awyddus. 

  • Peidiwch â’i wneud ar ddiwedd y flwyddyn; dechreuwch arni yn yr Hydref.

  • Peidiwch â labelu yn ôl oedran neu gyfnod - trefnwch grwpiau mewn ffyrdd gwahanol. 

  • Crëwch ganllaw i rieni.

  • Mae’n fwy derbyniol pan fydd yn dod o’r plant a’r bobl ifanc.

Download the entire AGENDA resource here!