NI YW LLEISIAU DROS DDISTAWRWYDD
Grŵp o fenywod ifanc 15 oed ydyn ni sydd wedi dod at ein gilydd o ysgolion a cholegau ar draws Caerdydd yn ystod y 6 mis diwethaf. Rydyn ni’n cael ein huno gan ein dymuniad i fod yn rhan o rywbeth mwy na ni ein hunain a brwydro dros ddyfodol gwell i bob plentyn, menyw a merch.
Ein cenhadaeth yw helpu pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau i sbarduno sgwrs ynghylch hawliau merched ac arferion niweidiol fel Anffurfio Organau Rhywiol Merched (FGM). Rydyn ni yma oherwydd ein bod ni eisiau addysgu a herio ac, yn y pen draw, dileu FGM.