twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Hafan
  • Croeso
  • Gwybodaeth
  • Diogelwch a Chymorth
  • Dechrau Arni
  • Syniadau ar Gyfer Newid
  • Gwneud I Bethnasoedd Cadarhaol Gyfri
  • DIY
  • Gwneud I Agenda Gyfrif
  • Lawrlwytho Agenda
  • Adnodd Agenda
  • Crush

Gall protestio gydag eraill am rywbeth rydych chi’n ei wrthwynebu ac rydych chi eisiau ei newid ddigwydd ar sawl ffurf. Gall protestiadau fod yn lleol neu’n fyd-eang a digwydd ar-lein neu all-lein. Maen nhw’n aml yn gymysgedd o’r ddau.

Ym mis Mawrth 2015, arweiniodd pobl ifanc o bob rhan o Gymru ddigwyddiad gweithredu uniongyrchol i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cadw ei haddewid i flaenoriaethu addysg yn rhan o’i mesurau atal i fynd i’r afael â thrais yn erbyn merched a menywod. Gyda chefnogaeth Citizens Cymru, dosbarthodd dros 40 o bobl ifanc Gardiau Sain Ffolant personol i bob Aelod o’r Cynulliad a oedd yn cynnwys tri datganiad a ysgrifennwyd â llaw a gasglwyd o fwy na 1000 o fyfyrwyr mewn gwasanaethau ysgol ynglŷn â’r rhesymau pam yr oeddent angen addysg ar berthnasoedd go iawn. Seliwyd y cardiau â chusan finlliw i gysylltu â’r ymgyrch Red My Lips (protest fyd-eang i gynyddu ymwybyddiaeth o drais rhywiol a beio dioddefwyr). Dilynwyd y gweithredu gan ymgyrch Twitter. Roedd llawer o Aelodau’r Cynulliad o bob rhan o Gymru wedi trydar eu cefnogaeth i’r ymgyrch a chanmol creadigrwydd y bobl ifanc.

Wedi’u hysbrydoli gan y Weithredaeth Cardiau Ffolant a arweiniwyd gan bobl ifanc yng Nghymru i sicrhau addysg well ynghylch perthnasoedd iach, dyluniodd dros 120 o blant 11-12 oed, o 10 dosbarth ysgol yn Oulu, y Ffindir, eu gweithredaeth greadigol eu hunain. Fe wnaethon nhw bostio 210 o gardiau ffolant at bob aelod o Senedd y Ffindir, gan gynnwys enghreifftiau dienw o aflonyddu rhywiol, er mwyn rhoi gwybod i’r gwleidyddion fod yr ymgyrch #MeToo yn effeithio ar blant o’u hoedran nhw. 

Roedd @wegiveconsent yn ymgyrch ar Facebook, Twitter a Tumblr a arweiniwyd gan ddau fyfyriwr Blwyddyn 8 o Toronto yng Nghanada i gynnwys pwnc cydsyniad yng Nghwricwlwm Addysg Iechyd Ontario. 

Mae Girlguiding UK wedi trefnu ymgyrchoedd ar gyfer  ‘addysg ryw well’. Dysgwch sut gallwch chi gymryd rhan i weithredu.

Mae OBJECT yn ymgyrchu dros gynrychioli menywod a merched yn well yn y cyfryngau.

Darllenwch am brotestiadau eraill sy’n creu newid o amgylch y byd. 

Beth yw perthynas gamdriniol? 

Beth petaem ni’n trin cydsyniad o bob math yn yr un ffordd ag y mae cymdeithas yn trin cydsyniad rhywiol?

Sut beth yw cydsyniad mewn rhyw a pherthnasoedd mewn byd modern, digidol? 

 

Lawrlwythwch y PDF Syniad am Newid yma:

 

Lawrlwythwch yr adnodd AGENDA cyfan yma!