Ymgyrchoedd hashnod yw pan fydd pobl yn cefnogi neu’n cychwyn ymgyrch ar gyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Twitter, Google+ a gwefannau rhwydweithio eraill. Yn aml, mae ymgyrchoedd hashnod yn cael eu defnyddio i roi’r si ar led a chysylltu sylwadau a syniadau am bwnc neu achos penodol trwy Twitter neu Instagram.
Mae #helpinghands yn ymgyrch hashnod sy’n gwahodd pobl i ysgrifennu addewid personol ar eu dwylo a’i bostio ar gyfryngau cymdeithasol i helpu i gynyddu ymwybyddiaeth o Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant.
Mae llawer oymgyrchoedd hashnod byd-eang sy’n mynd i’r afael â chydraddoldeb rhywedd, trais rhywiol a cham-drin domestig.
Ymgyrchodd y trydarathon #ICommit, dan arweiniad Cymuned Gweithredaeth Ifanc (YFA) y Gymdeithas er Datblygiad Menywod (AWID), i gynyddu ymwybyddiaeth fyd-eang o sut mae pobl o bob oed yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi gwaith a gweithredaeth cydraddoldeb rhywedd.
Mae’r symudiad #MeToo yn ymgyrch yn erbyn aflonyddu rhywiol ac ymosodiad rhywiol. Lledaenodd #MeToo yn gyflym iawn ym mis Hydref 2017, ond fe’i sefydlwyd gan Tarana Burke yn 2006. Mae’n cael clod am ddod â sgyrsiau ynghylch trais rhywiol i’r brif ffrwd. metoomvmt.org
Mae Bridge yn sefydliad Mudiadau Rhywedd a Chymdeithasol lle gallwch ddod o hyd i lawer o waith ymchwil a deunyddiau ar-lein am sut mae pobl a grwpiau wedi cyflwyno safbwynt rhywedd i fudiadau cyfiawnder cymdeithasol ar draws y byd. Mae ganddyn nhw restr termau ddefnyddiol iawn am fudiadau rhywedd a chymdeithasol hefyd.
Mae YFA (Gwifren Ffeministiaid Ifanc) yn gymuned ar-lein sy’n cael ei chynnal ar gyfer a chan ffeministiaid ifanc sy’n gweithio ar hawliau dynol menywod, cydraddoldeb rhywedd a chyfiawnder cymdeithasol ar draws y byd. Mae ganddyn nhw lawer o adroddiadau a phecynnau cymorth sy’n gallu helpu pobl ifanc â’u gwaith creu newid, gan gynnwys canllaw ‘gwneud drosoch eich hun’ gwych ar ddiogelwch ar y rhyngrwyd i weithredwyr ifanc.
TUMBLR
Gwefan blogio yw Tumblr lle gallwch rannu lluniau, giffiau, fideos, cerddoriaeth, dyfyniadau, sgyrsiau, dolenni, a thestun i ganfod a dilyn yr hyn y dymunwch. Mae safleoedd Tumblr, fel blogiau, yn gallu cael eu gwneud yn bersonol ac yn breifat.
Dechreuodd Rose flogio ar Tumblr pan oedd hi’n 14 oed: “Mae’n fan diogel lle gallwch ddysgu a thrafod materion efallai na fyddech yn gallu sôn amdanynt mewn bywyd go iawn, fel iechyd meddwl neu ddelwedd y corff”.
Erbyn hyn, mae Rose, a fagwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn cymedroli’r safle Tumblr swyddogol ar gyfer y Prosiect Rhywiaeth Pob Dydd. Mae’r Prosiect Rhywiaeth Pob Dydd yn wefan lle gall menywod lanlwytho enghreifftiau o’r rhywiaeth maen nhw’n ei hwynebu bob dydd. Trwy rannu’r storïau hyn, mae’r prosiect yn cynyddu ymwybyddiaeth o’r “rhywiaeth fach, pob dydd, rydych ni bron â’i derbyn am ei bod mor gyfarwydd”.
Mae YoungMindsVs yn ymgyrchu dros newid y maen nhw’n gobeithio y bydd yn gwellaiechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae pynciau’n cynnwys bwlio, rhywioli, diweithdra, straen yn yr ysgol a chwnsela. Dysgwch sut i ddod yn weithredwr YoungMinds neu dilynwch #gettingthroughit.
I gael gwybod sut mae rhywiaeth pob dydd yn ffurfio bywydau plant a phobl ifanc, darllenwch y storïau a’r dyfyniadau o’r prosiect Girls and Boys Speak Out a’r cardiau post y gellir eu lawrlwytho ar rywiaeth pob dydd, aflonyddu rhywiol a newid.
Gwnewch eich memyn eich hun ymagan ddefnyddio’r crëwr memyn.
Edrychwch ar yr ‘atebion aur’ ZipIt a grëwyd gan Childlinei ddelio â negeseuon neu geisiadau rhywiol digroeso.
Beth fyddech chi’n ei wneud?
FLOGIO
Flogio yw pan fydd pobl yn rhannu eu syniadau trwy fideo.
Gwrandewch ar sut mae merched yn eu harddegau’n gwyrdroi agweddau negyddol cyfryngau cymdeithasol. Mae rhai yn creu safleoedd sy’n annog sylwadau wedi’u tagio sy’n grymuso menywod ifanc yn hytrach na’u barnu. Mae eraill yn ymladd yn ôl yn erbyn codau gwisg rhywiaethol.
Gan ddefnyddio eu llais, testun, delweddau ac ap ‘celf glitch’, crëodd grŵp o fyfyrwyr Blwyddyn 6 flog am sut mae’r cyfryngau’n canolbwyntio ar storïau negyddol, fel trais ac arswyd, ac yn hidlo allan yr hyn mae pobl yn ei wneud i newid pethau.
Darllenwch am y mudiad SlutWalk trawsgenedlaethol lle mae pobl o bob oed yn gorymdeithio i alw am ddiwedd ar ddiwylliant sy’n esgusodi trais rhywiol trwy gyfeirio at unrhyw agwedd ar olwg merch neu fenyw.
Gweler Project Awesome i gael gwybod sut mae blogwyr a flogwyr ifanc yn codi arian ar gyfer materion go iawn, gan gynnwys materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb rhywiol a rhywedd.