twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

Trawsffurio Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

#RSEDAY - Dydd Iau 24 Mehefin 2021
0830 - 1530 

 

Am y digwyddiad hwn

Mae ACRh yng Nghymru yn newid. Bydd Hawliau, Tegwch, Cynhwysiant a Grymuso yn ganolog wrth gynllunio a darparu cwricwlwm statudol. I gael rhagor o wybodaeth a dysgu sut i lunio ACRh o ansawdd uchel, ymunwch â ni yn y gynhadledd undydd hon i ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig.

Rhagor o Fanylion

Rydym yn gwahodd pob athro ac arweinydd sydd â chyfrifoldeb dros ACRh i gofrestru ar gyfer y digwyddiad dysgu proffesiynol ACRh hwn. Byddwn yn archwilio agweddau ar addysg cydberthynas a rhywioldeb wrth baratoi ar gyfer y Cwricwlwm ACRh statudol newydd (2022).

Bydd y prif gyflwyniadau’n cynnwys Sally Holland (Comisiynydd Plant Cymru), yr Athro EJ Renold (Prifysgol Caerdydd), cadeirydd panel arbenigol ACRh Llywodraeth Cymru, (Renold a McGeeney 2017), Dr Ester McGeeney a Dr Leanne Coll, ymchwilwyr sydd â phrofiad helaeth o hyfforddi athrawon i ddatblygu a chyflwyno ACRh. Bydd y prif gyflwyniadau'n egluro'r newidiadau arfaethedig i gwricwlwm ACRh Cymru ac yn rhannu'r dystiolaeth ryngwladol yn ymwneud ag arfer gorau mewn ACRh.

Bydd athrawon o ysgolion cynradd, uwchradd, arbennig a chyfrwng Cymraeg sy'n ymwneud â dysgu proffesiynol ACRh hefyd yn rhannu eu gwaith ar ddal ac ymateb i lais y dysgwr a datblygu dull ysgol gyfan o gyflwyno ACRh, i gyd-fynd â'r canllawiau ACRh sydd wedi'u cyhoeddi.

Hefyd bydd gennym gyfraniadau gan nifer o arbenigwyr ac ymchwilwyr ACRh eraill, yn ogystal â chynrychiolwyr darparwyr gwasanaeth ACRh allweddol, fydd yn hwyluso cyfres o weithdai carwsél ar feysydd craidd ACRh a gweithgareddau rhannu adnoddau.

Trwy gydol y digwyddiad cewch gyfleoedd i ddod yn gyfarwydd â goblygiadau'r cwricwlwm ACRh newydd, gyda digon o awgrymiadau i chi gael bwrw iddi.

Cofrestrwch yma

 

 

Trawsffurio Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

Download the entire AGENDA resource here!