Adnodd dysgu proffesiynol yw CRUSH ar gyfer gwneud ACRh yn bwysig mewn ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion arbennig yng Nghymru. Gyda chefnogaeth y canllawiau Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb statudol newydd, mae'r adnodd wedi'i seilio ar wrando ar athrawon, dysgwyr ac ymchwilwyr a dysgu ganddynt.
Mae CRUSH yn adnodd ymatebol a chyfrifol. Bydd yn cael ei adolygu’n barhaus a bydd yn ehangu, crebachu ac yn addasu wrth iddo esblygu i ystyried syniadau, gwaith ymchwil, canllawiau, deddfwriaeth newydd a pha mor ddefnyddiol ydyw yn ymarferol. Hawliau, cydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a grymuso fydd yn llywio’r broses hon.
Cliciwch ar unrhyw un o'r adrannau canlynol i archwilio CRUSH!