Ym mis Chwefror 2015, cymerodd dros 40 o bobl ifanc, a gefnogwyd gan Citizens Cymru, a’r Athro Emma Renold ran mewn protest a arweiniwyd gan bobl ifanc i annog Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu pwysigrwydd addysg yn yBil Trais yn erbyn Menywod newydd.
Gwnaethant ddosbarthu Cardiau Sain Ffolant personol â llaw i bob gwleidydd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, a oedd yn cynnwys negeseuon ysgrifenedig gan bobl ifanc ynglŷn â pham oeddent yn credu bod addysg go iawn am berthnasoedd sy’n mynd i’r afael â’u hanghenion a’u profiadau yn hollbwysig. Seliwydy cardiau â chusan finlliw i gysylltu â’r ymgyrch Red My Lips sy’n ymwneud â thrais rhywiol. Dilynwydhyn gan ymgyrch Twitter.
Roedden nhw’n llwyddiannus. Ym mis Gorffennaf 2015, pan basiwyd y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru), gweithiodd Llywodraeth Cymrugyda Chymorth i Ferched Cymru i gyhoeddi “Canllaw Arfer Da” i ymarferwyr addysgol ar
sut i hyrwyddo lles o ran rhywedd a chydraddoldeb rhywiol ar gyfer perthnasoedd llawn parch. Mae rhan allweddol o’r canllaw cenedlaethol hwn yn annog pobl ifanc i gychwyn neu gymryd rhan mewn ymgyrchoedd lleol a byd-eang i atal trais wedi’i seilio arrywedd a thrais rhywiol yn eu hysgolion a’u cymuned. Byddai hyn ond yndigwydd pe byddai gan bobl ifanc becyn ysgogi newid arbennig i’w helpunhw ac eraill i gychwyn arni.
Yn rhan o’r ymgyrch, gofynnwyd am hyn mewn neges drydar feiddgar at y Gweinidog a basiodd y ddeddf. Ysgogodd hyn rywfaint o ddiddordeb ac ychydig fisoedd yn ddiweddarach daeth Prifysgol Caerdydd, NSPCC Cymru, Cymorth i Ferched Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru at ei gilydd i greu AGENDA: Canllaw i Bobl Ifanc ar Wneud i Berthnasoedd Cadarnhaol Gyfri.
Mae’r adnodd wedi bod yn boblogaidd iawn, ac nid dim ond ymhlith pobl ifanc. Roedd ymarferwyr yn gofyn a allai rhai o’r gweithgareddau creadigol gael eu haddasu ar gyfer ysgolion cynradd fel y gallai athrawon helpu plant i leisio’u barn yn ddiogel ac yn greadigol a gwneud gwahaniaeth i’r hyn oedd yn bwysig iddynt.
Yn ei ddwy flynedd gyntaf, mae’r adnodd AGENDA wedi cyrraedd cynulleidfaoedd rhyngwladol, o lansiad pecyn cymorth estynedig a rhyngweithiol AGENDA yn America mewn partneriaeth â SPARK Movement yn Efrog Newydd, i ddulliau gweithredu Cerdyn Sain Ffolant yn y Ffindir. Postiodd mwy na 120 o blant (11-12 oed) 210 o Gardiau Sain Ffolant at bob aelod o Senedd y Ffindir i roi gwybod i wleidyddion fod yr ymgyrch #MeToo yn effeithioar blant o’u hoedran nhw.
I sicrhau bod AGENDA yn gallu parhau i ysbrydoli ymarferwyr addysgol i gefnogi plant a phobl ifanci wneud i berthnasoedd cadarnhaol gyfri yn eu hysgolion a’u cymunedau, yn 2018, cefnogodd yr Uned Addysg Cenedlaethol ddatblygu astudiaethau achos newydd ac adnoddau newydd i ymarferwyr, a chwblhau’r broses o drawsnewid yr adnoddau PDF gwreiddiol yn blatfform mwy hygyrch sy’n addas i’r we.
Gobeithiwn y bydd AGENDA yn parhau i dyfu a datblygu, wrth i fwy o blant, pobl ifanc ac ymarferwyr ymgysylltu a rhannu eu harferion gyda ni a chyda’i gilydd.