Mae creadigrwydd wrth wraidd yr adnodd. Mae AGENDA wedi cael ei ysgrifennu fel cyfres o awgrymiadau i chi ychwanegu atynt yn greadigol.
Un o nodau allweddol AGENDA yw dangos i chi sut mae gweithio’n greadigol yn gallu helpu plant a phobl ifanc i rannu’r hyn sy’n bwysig iddyn nhw ar draws amrywiaeth o faterion addysg perthnasoedd a rhywioldeb (RSE).
Gallwn ddechrau trwy ofyn y cwestiwn, ‘Beth mae’n ei olygu i fod yn greadigol?’
Mae’r holl weithgareddau ac astudiaethau achos ar wefan AGENDA yn cyfuno dulliau creadigol (e.e. drama, tynnu lluniau, dawns) ag addysgeg greadigol (h.y. pan fydd ansicrwydd a chwilfrydedd yn cael eu hychwanegu).
Mae ffyrdd creadigol o weithio, fel adrodd stori, crefftwaith, symud neu gerddoriaeth, yn ein galluogi i ddod yn fwy ymwybodol o beth sy'n bwysig i blant a phobl ifanc.
Gallant eich galluogi i ganfod beth mae plant a phobl ifanc yn ei wybod a beth nad ydynt yn ei wybod, a beth yr hoffent ddysgu mwy amdano a pham. Weithiau, cyfeirir at y broses hon fel addysgu ‘priodol i oedran’ neu ‘ddatblygiadol briodol’.
Mae bod yn greadigol yn cynnwys y chwe elfen a amlinellir yn yr adran hon.