twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

    

Rydyn ni’n grŵp o bum myfyriwr 13 - 17 oed sydd wedi cynnal a siarad mewn cynadleddau am faterion sy’n ymwneud â rhywedd a rhywioldeb mewn ysgolion. Rydyn ni i gyd yn frwd ynghylch yr angen i newid y ffordd mae addysg rhyw yn cael ei haddysgu i bobl ifanc. Mae ein cymdeithas ffeministaidd ac LGBTQ+ ar y cyd wedi darparu cyfle i ddysgu mwy am yr anghyfiawnderau rhywedd a rhywiol cysylltiedig mewn addysg rhyw brif ffrwd, ac i feddwl am sut gallwn ni ysgogi newid.

Cynhadledd (enw) 1550au ‘gweithred ymgynghori â’n gilydd’ o’r Lladin conferre ‘dod ynghyd’

“Creodd y bleth ymdeimlad braf o gymuned gefnogol” 

“Roeddwn i’n hoffi bod yn ymarferol, ac roedd pawb yn cymryd rhan oherwydd roeddech chi’n gallu cyffwrdd â hi. Mae ’na  rywbeth am gyffwrdd â phethau sy’n ei gwneud yn fwy real”

Plethu dros Gynnydd

 

Gyda chefnogaeth ein haddysgwr, cawson ni gyfle i gynnal cynhadledd yn ein hysgol ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched. Daeth y digwyddiad hwn â gwahanol bobl ynghyd, gan gynnwys ffeministiaid gweithredol ifanc eraill, ymgyrchwyr dros gydraddoldeb rhywedd, athrawon ac ymchwilwyr. Cawson ni i gyd gyfle i glywed amrywiaeth o  syniadau pobl ifanc am beth fyddai’n helpu i wneud cymdeithas yn fwy cyfartal a theg o ran rhywedd. 

Un o uchafbwyntiau’r diwrnod oedd annog pawb oedd yn bresennol yn y gynhadledd i gymryd rhan yn greadigol trwy greu #plethdrosgynnydd:

 

 

1: Ar stribedi o ffabrig, fe ysgrifennodd pob un ohonon ni sut yr hoffen ni weld ffeministiaeth groestoriadol yn datblygu yn ein hysgolion, ac yna fe blethon ni’r stribedi hyn â’i gilydd mewn grwpiau bach.

2: Cysylltwyd pob un o’r plethau hyn â’i gilydd i greu pleth enfawr â phum cainc. 

3: Roedd y bleth enfawr yn ymestyn trwy gynulleidfa’r gynhadledd, gan feddiannu lle, a phlethu rhyngon ni wrth i ni drafod ein syniadau ar gyfer newid.

 

 

Aeth Plethu dros Gynnydd ati i adfer gwehyddu, sef crefft cartref yr ystyriwyd yn hanesyddol ei bod yn waith menywod ac yn israddol i gyfryngau artistig eraill fel paentio neu gerflunio. Ysbrydolwyd Plethu dros Gynnydd gan weithredoedd artistiaid ffeministaidd yn ystod Mudiad Rhyddhau’r Merched, a’i nod oedd herio’r hierarchaethau esthetig hyn ac ysgogi potensial dulliau artistig fel gwehyddu i bontio ffiniau a chyfleu syniadau gwleidyddol. 

 

Beth yw croestoriadedd? 

 Mae croestoriadedd yn lens sy’n eich galluogi i weld o ble mae pŵer yn dod ac yn gwrthdaro, ble mae’n cyd-gloi ac yn trawstorri. Mae’n fwy na mater syml bod problem hil fan hyn, problem rhywedd fan hyn, a phroblem dosbarth neu LGBTQ fan yna. Mae’r fframwaith hwnnw’n aml yn dileu beth sy’n digwydd i bobl sy’n dioddef yr holl bethau hyn. (Kimberlé Crenshaw) 

Sgyrsiau Sydyn 

O ganlyniad i’r gynhadledd, cawson ni wahoddiad i rannu ein syniadau am weddnewid addysg rhyw mewn cynhadledd arall ar gydraddoldeb rhywedd. Paratôdd pob un ohonon ni sgwrs sydyn dwy funud ar y pynciau a oedd bwysicaf i ni, pam roedden ni eisiau iddyn nhw gael eu haddysgu a’u pwysigrwydd i’r cwricwlwm addysg rhyw.

Roedd ein pynciau’n cynnwys:

Hawliau menywod i ddysgu am bleser rhywiol a mastyrbio heb gywilydd

Pam dylen ni gael ein haddysgu am ymosodiad rhywiol,  camdriniaeth a thrais, a’r gwahaniaethau rhyngddyn  nhw 

Sut rydych chi’n cyrraedd yr eiliad cydsynio 

Atgenhedlu amgen a hunaniaethau a pherthnasoedd LGBTQ+

 

“Daeth llawer o bobl i siarad â ni ar y diwedd i ddweud cymaint oedden nhw wedi mwynhau ein sgyrsiau” 

“Ar ôl y gynhadledd, cawson ni wahoddiad i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd eraill ar gyfer addysg rhyw gynhwysol”

 

 

Pam cynadleddau? 

 “Doeddwn i ddim wedi bod i gynadleddau fel hyn o’r blaen, ac roeddwn i’n credu ei bod hi’n dda iawn gallu siarad â phobl a chanolbwyntio ar geisio newid y materion.” 

“Roeddwn i’n hoffi’r sesiynau grŵp yn fawr, lle gallech chi ddewis pwy i wrando arno oherwydd efallai bod gennych chi fwy o ddiddordeb mewn un pwnc nag un arall.” 

“Roedd yn dda clywed gan fyfyrwyr eraill, rwy’n credu bod cynhadledd dda yn cyflwyno amrywiaeth o safbwyntiau.” 

“Mewn cynadleddau, rydych chi’n cael gwrando ar safbwyntiau pobl eraill a beth sydd ganddyn nhw i’w ddweud, sy’n ehangu eich safbwynt a’ch dealltwriaeth o’r pwnc.” 

“Mae’n annog pobl i siarad. Ar ôl y gynhadledd, fe soniais i wrth fy nhad amdani gartref, ac yna aeth fy nhad i’r gwaith a dywedodd wrth bobl eraill amdani. Mae’n annog pawb i siarad p’un a oeddech chi yno ai peidio.”

Ein hawgrymiadau ar gyfer ysgrifennu araith

1: Ysgrifennwch mewn arddull sy’n teimlo’n iawn i chi

2: Peidiwch â meddwl gormod amdano 

3: Os yw’n bwnc sy’n agos at eich calon ac mae gennych chi safbwyntiau cryf arno, peidiwch â phoeni beth allai pobl eraill ei feddwl

Os ydych chi eisiau cynnal eich cynhadledd eich hun,  gallai’r canllaw hwn fod yn ddefnyddiol.

Gwyliwch gynhadledd AGENDA pobl ifanc ar addysg perthnasoedd a rhywioldeb gynhwysol yng Nghymru yma 

Edrychwch ar y weithrediaeth ffeministaidd “ratlo riwleri” yng Nghynulliad Ieuenctid Cydraddoldeb Rhywedd cyntaf Cymru yma 

Gweler yr astudiaeth achos CODI LLAIS! am syniadau ar gynnwys pobl ifanc wrth gynnal cynhadledd ar gyfer ysgolion cynradd ar rywedd, rhywioldeb a lles. 

Dilynwch y ffrydiau Twitter #YOURVOICE2019 #FHSfemco o’r gynhadledd Cydweithfa Ffeministaidd ysgolion uwchradd yn Awstralia, sef ‘Uno, Grymuso ac Aflonyddu’, a ddyluniwyd gan bobl ifanc i ysbrydoli POBL IFANC i greu cymuned, dyfnhau eu dealltwriaeth o ffeministiaeth ac ystyried newid y byd. 

Mae’r Gronfa Ffeministiaid Ifanc wedi cyhoeddi “Dewr, Creadigol, Gwydn: cyflwr byd-eang gweithredu gan ffeministiaid ifanc”, sydd ar gael i’w lawrlwytho am ddim, sy’n mapio’r ffyrdd arloesol y mae grwpiau ffeministiaid ifanc yn mynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion o amgylch y byd a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu, gan gynnwys diffyg capasiti, adlach a ffwndamentaliaeth, a bygythiadau i ddiogelwch. 

Am fwy o adnoddau grwpiau ieuenctid a gwefannau ffeministaidd, gweler Megino Tanau Ffeministaidd 

Gweler y mudiad ffeministaidd trawstoriadol SPARKmovement.org gan gynnwys Pecynnau SPARK i Weithredwyr. 

Ar gyfer blogiau ymchwil ar rywioldeb a materion rhywedd, ewch i www.sexgenlab.org

Cliciwch yma i gael tro ar Blethu dros Gynnydd Ffeministaidd!

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos yma:

 

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!