Drwy weithio gyda’u teimladau, yn dilyn gwers perthnasoedd iach ar FGM (anffurfio organau rhywiol merched), treuliodd myfyrwyr Blwyddyn 5 a 6 ddiwrnod yn dysgu am grefftau gweithredol a gweithredaeth pwythau croes.
Aethant ati i greu baner pwythau croes ar ffurf calon. Mae’r Galon Gelf hon yn rhannu eu negeseuon ar gyfer hawliau a chydraddoldeb rhywedd a rhywioldeb ac mae’n hongian yn neuadd yr ysgol.