Pan ofynnir ynghylch ‘llais’ mewn ysgolion, gallech feddwl am Gynghorau Myfyrwyr, myfyrwyr-lywodraethwyr, neu grwpiau tebyg ag enwau gwahanol (llysgenhadon, hyrwyddwyr, ymchwilwyr, pwyllgorau, Seneddau myfyrwyr...). Mae’r rhain yn aml yn cael eu trefnu fel mathau o ddemocratiaeth gynrychioliadol - mae myfyrwyr yn cael eu hethol, neu eu dewis, neu’n gwirfoddoli; maen nhw i fod i gynrychioli corff mwy o faint, i siarad ar ran eraill; maen nhw’n gweithio ar faterion sy’n bwysig i’r ysgol (o bolisïau, i’r amgylchedd, cyfleusterau, cyfathrebu, i sut mae’n cael ei rhedeg, i addysgu a dysgu); ac maen nhw’n aml yn ‘swyddogol’ neu’n weladwy i (o leiaf rai) oedolion a myfyrwyr yn yr ysgol.
Neu, gallech feddwl am fathau o ‘ymgynghori’, fel arolygon neu grwpiau ffocws gyda dosbarthiadau, grwpiau blwyddyn neu’r ysgol gyfan, lle y ceisir barn pobl ifanc am agweddau ar y ddarpariaeth addysgol, yn aml gydag addewid i weithredu ar yr adborth i wella gwasanaethau (“fe ddywedoch chi ...fe wnaethon ni”).
Mae’r rhain i gyd yn ffyrdd sefydledig a gwerthfawr o feddwl am gyfranogiad ieuenctid a dinasyddiaeth weithgar. Mae Erthygl 12 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn rhoi hawl i blant fynegi eu safbwyntiau ac iddynt gael eu hystyried o ddifrif, ac mae’n sail i hawliau eraill sy’n ymwneud â chyfranogiad yn y Confensiwn. Mae gwaith ymchwil yn amlygu manteision y gwaith hwn, ond mae hefyd yn dangos anghydraddoldebau o ran mynediad at gyfranogiad, sydd wedi’i strwythuro gan wahaniaethau sy’n gysylltiedig â ffactorau cymdeithasol-economaidd, rhywedd, hil ac ati.