twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

 

1. Pwysigrwydd rhywedd ym mywydau pob dydd plant 

Mae ymchwil i fywydau plant wedi astudio’r ffyrdd cymhleth a chyferbyniol y gall anghydraddoldeb ac arferion ynghylch rhywedd ddylanwadu ar y modd mae plant yn eu hystyried eu hunain, yr hyn y gallan nhw ei wneud â’u cyrff, eu ffyrdd o drin a thrafod pobl, â phwy maen nhw’n cael meithrin perthynas, pa mor ddiogel ac anniogel maen nhw’n teimlo, pa swyddi yr hoffen nhw eu llenwi a’u gobeithion iddyn nhw eu hunain a’i gilydd yn y byd.  

 

“Gall anghydraddoldeb rhywedd yn ein cymdeithas fod yn achos ac yn ganlyniad trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol” #DYMAFI @bywhebofn

“Er bod rhywedd yn lens dadansoddol pwysig ac yn wahaniaeth arwyddocaol, rydyn ni’n cydnabod mai’r modd mae’n ymwneud â gwahaniaethau eraill (megis dosbarth cymdeithasol,  rhywioldeb ac ethnigrwydd, ar adegau ac mewn lleoedd penodol) sy’n rhoi ystyr a grym iddo.” (Thomson, Berriman a Bragg 2018)

“Mae’r gweithredu o ran rhywedd yn llawer mwy cyferbyniol a chymhleth na’r hyn a awgrymir trwy straeon am hunaniaeth a phrofiadau plant, o bosibl.” (Renold 2013). 

 

 

What if #thisisme? : making gender justice matter with rulers, ribbons and kites from Emma Renold on Vimeo.

Gall y syniad o ‘gasgliadau’ ein helpu i archwilio’r ffyrdd egnïol, amryfal  a chystadleuol o gynhyrchu rhywedd yn y byd. 

Trwy ymchwil, daeth y canlynol i’r amlwg 

  • Gall dylanwad rhywedd ar fywydau plant eu hatal a’u grymuso fel ei gilydd mewn cyd-destunau sefydliadol ac amgylcheddol ac ar y we.

  • Yn aml, bydd plant yn teimlo ac yn cynnal dryswch ynghylch rhywedd, yn arbennig yng nghanol eu plentyndod, pan ddaw rhywioldeb fwyfwy i’r amlwg (Renold 2013) 

  • Hanfod gweithredu yn ôl rhywedd – trwy ddulliau anarferol – yw mynd i’r afael â thraddodiadau cymdeithasol-hanesyddol cryf a brofir yn wahanol pan ddaw ffyrdd cymdeithasol, economaidd, diwylliannol, crefyddol ac ati o nodi gwahaniaeth i effaith.

 

Beth yw Cydraddoldeb Rhywedd? 

Mae cydraddoldeb rhywedd yn golygu, pa grŵp rhyw bynnag a roddwyd i rywun ar adeg geni, a beth bynnag yw eu hunaniaeth rywedd neu eu mynegiant rhywedd, bod pobl yn gwireddu’r un hawliau, adnoddau, cyfleoedd ac amddiffyniadau yn gymdeithasol, yn economaidd ac yn wleidyddol. 

Beth yw Tegwch Rhywedd? 

Mae tegwch rhywedd yn cyfeirio at y gwahanol anghenion a diddordebau y mae ar bobl eu hangen i sicrhau a chyflawni cydraddoldeb rhywedd.

Sut olwg sydd ar ddull gweithredu ysgol gyfan o ymdrin â chydraddoldeb rhywedd, a beth all athrawon ei wneud i gyflawni hyn?

 

 

2. Materion rhywedd ymhlith plant yn yr ysgol gynradd

 

Gofynnodd ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd (Emma Renold,  Vicky Edwards a Catherine Phillips) i 50 o blant ysgolion cynradd y de (10-11 oed) fynegi barn amgydraddoldeb ac anghydraddoldeb o ran rhywedd. 

 

Hoffwn i newid byd y dyfodol 

Mae’n bryd rhoi’r gorau i stereoteipio! Rhaid dechrau derbyn pethau!

Hoffwn i newid y modd mae pobl yn ystyried merched a bechgyn

Rwy’n rhan o gymuned LGBTQI ac yn falch o hynny.

Rwy’n casáu elfennau creulon stereoteipio!

Pryd y bydd stereoteipio’n diflannu?

Mae’n bryd rhoi’r gorau i farnu

Byddwch yn ddigon dewr i fod yn wahanol

Rydyn ni’n mynnu newidiadau!!

Dylwn i gasáu mwd am fy mod yn ferch, ond rwyf i wrth fy modd ynddo!

Rwy’n anfodlon ar gael fy meirniadu yn ôl y swydd sydd orau gyda fi!

Rwy’n anfodlon bod dynion yn cael mwy o arian na merched am wneud yr un gwaith!

Pam na chaiff bachgen hoffi deunydd coluro? Dylai fod modd iddo weithredu yn ôl ei natur!

Does dim ots a ydych chi’n drawsrywiol

Dylai fod hawliau i bob rhyw

Peidiwch ag ofni rhannu’ch syniadau

Does dim eisiau cymar i fod yn hapus

3. Pe bai?

Gofynnodd yr ymchwilwyr i’r plant hefyd ddychmygu byd heb  stereoteipiau rhywedd. 

Pe na bai stereoteipiau rhywedd yn y byd...

 

Beth yw stereoteip? 

Mae stereoteipiau'n deillio o agweddau, gwerthoedd, arferion a rhagfarnau sydd â gwreiddiau dwfn. Byddant yn amrywio ar draws diwylliannau, lleoedd ac amser.

 

4. #DYMAFI

Wedyn, gofynnwyd i dri dosbarth o blant 10-11 oed edrych ar bosteri ymgyrch #DYMAFI Llywodraeth Cymru am gydraddoldeb dynion a merched. 

Trafododd pob grŵp yr amryw stereoteipiau roedd yr ymgyrch yn ceisio codi ymwybyddiaeth ohonynt neu eu herio, ym marn y plant. Lluniodd rhai plant eu posteri eu hunain wedyn. 

Soniodd y dosbarth am y ffaith bod angen i bawb gefnogi cydraddoldeb rhywedd a rhyddid mynegi i wireddu’r delfryd a’i bod yn anos i rai pobl amlygu eu cefnogaeth.

 

5. Newid y Rheolau er Cyfiawnder Rhywedd

Gwylion ni ffilm fer lle roedd pobl ifanc yn dweud eu dweud  am gyfiawnder rhywedd yng Nghynulliad Cydraddoldeb Rhywedd Ifainc Cymru, Neuadd y Ddinas, Caerdydd. 

Wedi’n hysbrydoli, ysgrifennon ni ar brennau mesur beth yn union y byddai rhaid ei newid er diogelwch a thegwch ynghylch rhywedd. 

Penderfynon ni ar gamau gweithredu. Ond aeth y trywydd o chwith! Bob tro y digwyddodd hynny, bydden ni’n meddwl am y ffaith bod “cynifer o fylchau ledled y byd o ran cydraddoldeb rhywedd” a bod angen “mynd ati i’w cau” (merch, 10 oed).

Edrychon ni ar y rheolau. Tynnon ni luniau o bob llathen fesur. A dawnsion ni  yn ôl rhythm y rheolau newydd yn ein coridorau ac ar iard a maes chwarae’r ysgol.



  

6. Ein Rhubanau Enfys

Mae rhubanau wedi’u defnyddio mewn sawl ymgyrch. Gall rhubanau codi ymwybyddiaeth ddod â phobl ynghyd i gefnogi achos a thynnu sylw ato. 

Defnyddion ni ein rhubanau i ddathlu adeg pan ddigwyddodd rhywbeth i leddfu effaith niweidiol arferion rhywedd ac anghydraddoldeb ehangach. 

Defnyddion ni rubanau o sawl lliw i dynnu sylw at amryw ffyrdd o fynegi rhywedd  ledled y byd.

 

7. Galluogi cydraddoldeb rhywedd i hedfan!

Rhoddwyd i bob grŵp farcut y gallai’r plant ysgrifennu sloganau codi ymwybyddiaeth neu negeseuon dros newid arno. Atodwyd pob rhuban i gynffon ein barcut.  Glynon ni nhw wrth ffon fambŵ hir, cyn i bawb gymryd ei dro i redeg gyda’r barcut fel y gallai cydraddoldeb rhywedd hedfan!

 

8. Dwlu ar Gydraddoldeb rhwng y Rhywiau

Dywedodd rhai ohonon ni ein negeseuon dros newid trwy gyfrwng cardiau ‘recordio eich neges eich hun’ gan addurno’r cardiau a’u lledaenu yn ystod lansiad AGENDA Addysg Gynradd.

9. Myfyrdodau 

Drwy gydol y gweithdy ac wedyn, lledaenon ni ein syniadau a’n sylwadau trwy flwch postio enfys. 

 

I gael rhagor o wybodaeth, hyfforddiant ac adnoddau ar hybu cydraddoldeb a thegwch rhywedd mewn ysgolion ac yn y gymdeithas, gweler:

Chwarae Teg a Sylfeini Teg

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Everyday Feminism

Cymdeithas Fawcett

Fearless UK

Full Circle Education

Y Gymdeithas Rhywedd ac Addysg

Gender Respect Project

Gendered Intelligence

GenderAgenda.net

GenderTrust: i’r holl rai y mae materion hunaniaeth o ran rhywedd yn effeithio arnynt

Prosiect Sbectrwm Hafan Cymru

Let Toys be Toys

Mermaids

Yr Undeb Addysg Cenedlaethol

PlanUK

SexGen Lab

Stonewall

Tiger: addysgu unigolion am gydraddoldeb a pharch o ran rhywedd

Yr Ystafell Ddosbarth (Addysgu LGBTQ+)

UK Feminista

Umbrella Cymru

UNSESCO

Cymorth i Ferched

Rhwydwaith Cydraddoldeb Merched Cymru

 

 

Dyma ragor o astudiaethau achos i helpu plant i hybu cydraddoldeb rhywedd: Bingo Gwylio Rhywedd, Dadlau ynghylch Stereoteipiau Rhywedd, Chwalu Rhywiaeth Fasnachol, Pawb Ohonon Ni

Mae modd addasu’r gweithgareddau DIY canlynol: Teganau i Bawb, Pwytho ein Hawliau, Cwtsh Hunaniaeth, y Llinell Drafod, Parau Snap Rhywedd

 

Adnoddau ar gyfer ymarferwyr

Mynd i'r afael â stereoteipiau rhywedd yn y blynyddoedd cynnar

Prosiect Parch Rhyweddol: cefnogi plant a phobl ifanc i ddeall, cwestiynu, a herio anghydraddoldeb a thrais rhwng y rhywiau

Cynlluniau gwers i helpu ysgolion i herio stereoteipiau rhywedd

Cliciwch yma i greu rhubanau Enfys dros Gydraddoldeb rhwng y rhywiau eich hun!

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos yma:

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!