twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Hafan
  • Croeso
  • Gwybodaeth
  • Diogelwch a Chymorth
  • Dechrau Arni
  • Syniadau ar Gyfer Newid
  • Gwneud I Bethnasoedd Cadarhaol Gyfri
  • DIY
  • Gwneud I Agenda Gyfrif
  • Lawrlwytho Agenda
  • Adnodd Agenda
  • Crush

Mae ymchwilwyr gwyddorau cymdeithasol yn archwilio’r berthynas rhwng pobl â’i gilydd ac yn ceisio defnyddio eu canfyddiadau i wneud y byd yn lle tecach. Mae llawer o wahanol ffyrdd o ymchwilio i’r byd cymdeithasol, o gyfweliadau ac arolygon i arsylwadau a dulliau creadigol, fel lluniadau neu adrodd storïau digidol. 

Gwnaeth pedwar myfyriwr Blwyddyn 10 Stori Cardiau Fflach ynglŷn â pham y dylai ysgolion fod yn gwneud mwy i fynd i’r afael â chydraddoldeb rhywedd, trais yn erbyn menywod a merched, a thrais rhywiol ac ar sail rhywedd. Fe ddefnyddion nhw amrywiaeth o ddulliau i gael adborth o’u prosiect a’u hymgyrch. 

Fe ddylunion nhw holiadur ticio blychau byr a oedd yn cynnwys lle i ychwanegu sylwadau ysgrifenedig hirach. Yn ogystal, gwahoddwyd staff a myfyrwyr i lenwi ‘swigen siarad’ ar sut oedd y prosiect wedi gwneud iddyn nhw deimlo (e.e. “hapus, trist, syfrdan”). Trwy ofyn i bawb beidio ag “ysgrifennu eu henw” ar y ffurflenni, sicrhawyd bod yr holl ymatebion yn ddienw - rhan bwysig o’u moeseg ymchwil. 

Ysgrifennodd Katie a Craig, o ysgol gynradd yn yr Alban, lythyr at gwmni cardiau mawr yn gofyn iddyn nhw gynhyrchu cardiau bechgyn a merched oedd yn llai o stereoteip, ar sail eu harolwg ar-lein. Canfu eu gwaith ymchwil fod bron 60% o’r merched yn hoffi glas yn fwy na phinc, ac y byddai dros hanner yn dewis cymeriad Marvel yn hytrach na Barbie. Dangosodd hefyd fod bron 60% o’r bechgyn a holwyd yn hoffi dawnsio.

Darllenwch fwy am eu gwaith ymchwil a’i effaith yma. 

Mae gan Ganolfan Ymchwil Plant y Brifysgol Agored lawer o enghreifftiau o sut mae plant a phobl ifanc wedi bod yn cynnal eu gwaith ymchwil eu hunain i feysydd sydd o ddiddordeb iddynt. 

Mae gan y prosiect What Kids Can Do ganllawiau defnyddiol ar gynnal prosiect ymchwil gymunedol, gan gynnwys sut i weithredu ar ganfyddiadau eich ymchwil.

Lawrlwythwch y PDF Syniad am Newid yma:

PDF ICON

Lawrlwythwch yr adnodd AGENDA cyfan yma!