Mae rhai pobl ifanc yn cael trafferth enwi neu fynegi’r teimladau sydd ganddyn nhw am bwysau rhywedd o fewn y gymdeithas i edrych neu symud mewn ffordd arbennig. Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn elwa o fannau diogel i fynegi teimladau anodd (e.e. dicter, bod yn ddi-rym, rhwystredigaeth) yn eu diwylliannau cyfoedion eu hunain a’u perthnasoedd ehangach. Mae’r rhain yn cynnwys teimladau am faterion byd go iawn nad oes ganddyn nhw fawr ddim rheolaeth drostyn nhw, fel anghyfiawnder cymdeithasol, tlodi, gwahaniaethu.
Mae’r astudiaeth achos hon yn dod o ysgol gynradd dinas fewnol yn Llundain. Mae tua 1000 o ddisgyblion yn yr ysgol sydd bron i gyd yn dod o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, ac mae Saesneg yn iaith ychwanegol i’r rhan fwyaf ohonyn nhw. Mae’r ysgol eisoes yn gwneud llawer o waith Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb, ond roedd eisiau gwrando a dysgu mwy am ddealltwriaeth plant o stereoteipiau rhywedd. Felly, fe wahoddon nhw Nicole Rodden, o Same Difference, i gynllunio a chyflwyno rhai gweithgareddau gyda disgyblion blwyddyn 5 i archwilio hyn.