twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Hafan
  • Croeso
  • Gwybodaeth
  • Diogelwch a Chymorth
  • Dechrau Arni
  • Syniadau ar Gyfer Newid
  • Gwneud I Bethnasoedd Cadarhaol Gyfri
  • DIY
  • Gwneud I Agenda Gyfrif
  • Lawrlwytho Agenda
  • Adnodd Agenda
  • Crush

 

Mae mwy a mwy o grwpiau ffeministaidd a chydraddoldeb rhywedd a arweinir gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc yn cael eu sefydlu mewn ysgolion. Gallant fod yn fan cefnogol i ddysgu, trafod a rhannu eich safbwyntiau am sut mae rhywedd ac anghydraddoldebau rhywedd yn effeithio ar eich bywyd chi a bywydau pobl eraill. 

Darllenwch am y gwahanol grwpiau ysgol ffeministaidd yng Nghymru a Lloegr a beth maen nhw wedi bod yn ei wneud: gan gynnwys gwasanaethau ysgol ar gasineb at wragedd du a beth mae’n ei olygu i fod yn ffeminyddes fwslimaidd ifanc, profiadau bechgyn o rywiaeth pob dydd, mannau poeth ffeministiaeth a chofnodion dyddiadur dychymyg ffeministaidd a ysbrydolwyd gan y prosiect iwtopia ffeministaidd.

Gadewch i’r SPARK Movement eich ysbrydoli, sef “sefydliad gweithredu gan ferched o bob oed sy’n gweithio ar-lein i danio mudiad cyfiawnder rhywedd gwrth-hiliol”.

Beth mae gweithredwyr ffeministaidd ifanc yn ei wneud o amgylch y byd?

13 llyfr grymusol ar gyfer ffeministiaid ifanc ac 19 llyfr plant sydd â storïau ffeministaidd.

I gael adnoddau a chymorth ar sut i gychwyn eich grŵp ffeministiaeth a chydraddoldeb rhywedd eich hun yn yr ysgol, cyfeiriwch at UK Feminista, Fearless Futures, y Rhwydwaith Cydraddoldebau Rhywedd ac Arweinyddiaeth mewn Ysgolion (GELS) a’r Grŵp Facebook Addysgu Ffeministiaid.

 

Lawrlwythwch y PDF Syniad am Newid yma:

PDF ICON

Lawrlwythwch yr adnodd AGENDA cyfan yma!