twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Hafan
  • Croeso
  • Gwybodaeth
  • Diogelwch a Chymorth
  • Dechrau Arni
  • Syniadau ar Gyfer Newid
  • Gwneud I Bethnasoedd Cadarhaol Gyfri
  • DIY
  • Gwneud I Agenda Gyfrif
  • Lawrlwytho Agenda
  • Adnodd Agenda
  • Crush

 

1: Syniadau ar gyfer Newid - Gan ddefnyddio syniadau o unrhyw un o weithgareddau cychwynnol AGENDA (e.e. Rhedfa at Newid, Beth sy’n Aflonyddu arnoch Chi, ac ati), dewiswch un pwnc neu neges i’w r(h)annu ar eich sgwâr pwythau croes. Mae syniadau ac adnoddau ynghylch gwahanol brosiectau crefftyddiaeth a phwythau croes ar draws y byd ar gael yn yr astudiaeth achos ‘Crefftio Cydraddoldeb’.

2: Fersiwn ddrafft - Gan weithio’n unigol neu mewn parau, lluniwch fersiwn ddrafft o’ch dyluniad ar bapur sgrap. Gallwch ddefnyddio pwythau croes i greu slogan (e.e. Cydraddoldeb Rhywedd i Bawb, Malala yw’r Seren!) neu symbol (e.e. symbol heddwch). Efallai gallech dorri’r defnydd lliw golau i’ch hoff siâp, ysgrifennu neges â phennau ffelt a’i phwytho i mewn i’ch sgwâr. 

3: Ewch ati i Bwytho - Lluniwch ac addurnwch eich sgwariau (e.e. â chlychau, gleiniau, llathr)

4: Pawb ar y cyd - Pan fydd y sgwariau pwythau croes wedi’u cwblhau, trafodwch sut gallech chi eu cyfuno i greu cyfanwaith (e.e. gludwaith siâp calon, baner siâp petryal, clogyn)

5: Pinio - Defnyddiwch y pinnau cau i gysylltu’r sgwariau, a gweithiwch gyda’ch gilydd i greu’r cyfanwaith terfynol.

6: Arddangos - Dewiswch ble i arddangos eich arteffact pwythau croes. Rhowch enw iddo! Rhannwch ef mewn gwasanaeth ysgol, neu ar Twitter.

Beth yw pwythau croes?

Pwythau croes yw math o wnïo lle mae pwythau siâp X mewn patrwm teils yn cael eu defnyddio i greu llun.

Cyn i chi ddechrau addasu’r gweithgaredd hwn ar gyfer y plant a’r bobl ifanc yn eich lleoliad, darllenwch yr adran ar Ddiogelwch a Chefnogaeth.

  Cliciwch yma i ddarllen yr astudiaeth achos Crefftio Cydraddoldeb!

Lawrlwythwch y gweithgarwch DIY hwn yma:

 

PDF ICON

Lawrlwythwch yr adnodd AGENDA cyfan yma!