twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

   

BETH YW PROSIECT KISSTORY? 

Yn 2017, bu’r Athro Emma Renold yn gweithio gydag ymchwilydd yn y Ffindir (Dr. Tuija Huuki), artist gweledol (Seth Oliver) a chwmni animeiddio (Spin the Yarn) yng Nghymru i greu cyfres o saith animeiddiad a stribed comig wedi’u seilio ar ganfyddiadau ymchwil ynghylch diwylliannau perthnasoedd plant (5-11 oed). 

Mae pob animeiddiad yn cyflwyno taith cusan ym myd plant ifanc. Animeiddiadau moel yw’r rhain, heb sain na siarad na thestun. Y syniad yw bod athrawon ac addysgwyr sy’n gyfoedion yn gallu galluogi’r plant i greu eu hanesion eu hunain yn fan cychwyn ar gyfer trafodaethau ynghylch materion pŵer a chydsyniad mewn amrywiaeth o berthnasoedd a chyd-destunau. 

Gwahoddodd y tîm ymchwil, gan gynnwys Vicky Edwards, fyfyrwyr ac athrawon o ddwy ysgol uwchradd yng Nghaerdydd a Rhondda Cynon Taf i gydgynhyrchu’r gwaith o ddylunio a chyflwyno gweithdy dan arweiniad cyfoedion gyda phlant ym Mlynyddoedd 5 a 6 (9-11 oed). Eu nod oedd creu gweithdy rhyngweithiol i blant ddysgu am gydsyniad a datblygu eu ‘kisstories’ eu hunain ar sut mae cydsyniad yn bwysig iddyn nhw.

Beth yw addysg cyfoedion?

“Mae dulliau addysg cyfoedion yn gosod gwerth ar farn a phrofiadau pobl ifanc, gan eu gwneud nhw’n arbenigwyr a chydnabod eu bod yn gallu dylanwadu ar ei gilydd a chefnogi ei gilydd. Gall ymwneud â hyn feithrin hyder addysgwyr sy’n gyfoedion a’u hymdeimlad o ymgysylltu â’u hysgol a’u cymunedau. Gallan nhw fod o fudd i bob person ifanc, ond gall fod iddynt werth penodol fel modd o gynnwys pobl ifanc sy’n aml yn cael eu heithrio o’r brif ffrwd” 

Canllaw ar gyfer sefydlu addysg cyfoedion ym maes rhyw a pherthnasoedd, yr Adran Iechyd

A WYDDOCH CHI... 

fod y gair Saesneg CONSENT yn dod o’r  Lladin Con (cysylltedd) a Sent (teimladau)

Ystyr cydsyniad yw gallu rhannu a chysylltu â theimladau pobl eraill wrth geisio caniatâd i rywbeth ddigwydd. Gall hyn gael ei gyfleu trwy beth rydyn ni’n ei ddweud, sut rydyn ni’n ei ddweud, a beth rydyn ni’n ei wneud (e.e. iaith y corff).

 

Beth yw cydsyniad? 

Cydsyniad: ceisio a rhoi caniatâd i rywbeth ddigwydd

 

1: #WAM yn cwrdd â Newid-Ffem

Wrth i ddau grŵp ieuenctid ffeministaidd o ysgolion ddod ynghyd o wahanol rannau o Gymru, mae LLAWER i’w rannu. Roedd rhai ohonon ni wedi cwrdd o’r blaen yng nghynhadledd Addysgu Agenda 2017 ac ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched 2017. Roedd yn wych cael cwrdd eto a dysgu am angerdd ein gilydd dros gydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau rhywedd a rhyw, yn ogystal â thrafod heriau gwneud gwahaniaeth ar y materion hyn yn ein gwahanol ysgolion. Gwyliwch #WAM ar waith yma a darllenwch am Newid-Ffem yma. 

2: Beth mae pŵer a chydsyniad yn ei olygu i ni 

Ar y diwrnod cyntaf, buon ni’n gwylio’r animeiddiadau KISSTORY ac yn siarad am beth mae pŵer a chydsyniad yn ei olygu i ni, ar ein hoed ni, a phan oedden ni yn yr ysgol gynradd. Rhannodd Hywel beth roedd e wedi bod yn ei ddarllen ar wefan Everyday Feminism am addysgu cydsyniad i blant a mynd i’r afael â diwylliant treisio a’i ddeinameg rhywedd.  Rhannodd Emma a Vicky eu gwybodaeth gyda myfyrwyr ac athrawon o’r ymchwil ar gydsyniad yn y maes hwn. 

Fe gytunon ni fod dysgu am gydsyniad yn ifanc yn bwysig. Fe sylweddolon ni nad oedden ni’n cael llawer o gyfle i siarad amdano pan oedden ni’n blant. Roedd animeiddiadau KISSTORY yn ffordd ddifyr o wneud hyn, ac roedden ni’n hoffi’r ffaith eu bod wedi’u dylunio i fod yn gynhwysol! Ac roedd mor ddiddorol gallu newid rhywedd pob cymeriad o fachgen i ferch ac ystyried cymeriadau anneuaidd a hylif o ran rhywedd, neu gymeriadau â galluoedd gwahanol. Trwy greu ein hanesion ein hunain, buon ni hefyd yn meddwl am le, 

cyd-destun, ffydd a diwylliant. Yr elfennau ALLWEDDOL oedd bod yn GROESTORIADOL a’r CYD-DESTUN!   

3: Creu’r stribedi comig 

Fe ddewison ni’r pedwar animeiddiad roedden ni’n meddwl fyddai’n gweithio orau yn ein gweithdy: IE, NA, Y SIANT a’r RHODD. Byddai IE a NA yn galluogi plant i greu storïau a theimladau am geisio a gwrthod cydsyniad; roedd y SIANT yn ymwneud â phwysau rhywedd gan gyfoedion i greu cyplau bachgen a merch; roedd y RHODD yn ffordd ddatblygiadol briodol o ddechrau archwilio rheolaeth a chamfanteisio (rhywiol).

Wedyn fe ddewison ni fframiau rhewi o’r animeiddiadau i greu’r llyfrau stribed comig. Fe wnaethon ni hefyd ddatblygu’r syniad o gynnwys paled lliwiau cwmwl teimladau. Bu’r tîm dylunio (Seth a Dan) yn eu creu a’u hargraffu i ni eu golygu. Buon ni hefyd yn creu ein rhai ein hunain. 

 

 

4: Ymchwil ymchwil ymchwil 

Ar ddiwrnod dau buon ni’n braslunio strwythur a chynnwys cyffredinol ein gweithdy. Fe rannon ni’n dri grŵp, ac edrych ar feysydd ymchwil unigol: beth yw cydsyniad; cusanu yn ffilmiau Disney; a diwylliannau cusanu ar draws y byd.

Rhannodd Emma y fideo CYDSYNIAD I BLANT ac roedden ni’n meddwl y gallai weithio’n dda ar ddiwedd y wers. 

Yna, fe dreulion ni ddwy sesiwn brynhawn yn paratoi ein cynllun gwers a’n sleidiau PowerPoint, ac yn ymarfer ein gwers gydag Emma, Vicky a’n hathrawon. 

 

MYFYRDODAU ARWEINWYR Y GWEITHDY 

“Roeddwn i wrth fy modd yn gweld ymatebion blwyddyn 6 i’n gweithgareddau yn y wers. Rwy’n credu bod angen mwy o wersi fel hyn yn ein hysgol”

“Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio fel rhan o’r tîm kisstory, ac fe wnes i fwynhau datblygu’r gwersi, roedd cwrdd â myfyrwyr o’r ysgol arall yn brofiad gwych, ac fe wnes i fwynhau gweld y disgyblion (blwyddyn 6) yn ymateb cystal i’r wers ar gydsyniad, sy’n bwnc mor bwysig i ddysgu amdano’n ifanc”

“Roeddwn i’n teimlo bod y prosiect hwn yn rhoi mewnwelediad go iawn. Mae cydsyniad mor bwysig oherwydd mae ei angen arnon ni ym mhob agwedd ar ein bywydau, ac fe wnes i fwynhau’n fawr ymgysylltu â disgyblion ifanc am hyn”

“Mewn ymateb i ddigwyddiadau cyfredol, fel symudiad #MeToo, yn fy marn i mae’n bwysig iawn addysgu plant am gydsyniad”

 

MYFYRDODAU GWEITHDY KISSTORY ar ffurf GEIRIAU ac WYAU (10/11 oed) 

“Da, oherwydd digwyddodd hyn i fi!”

“Mae’n hwyl ... mae’n gwneud i chi feddwl am bethau .. ydy”

“Rwy’n credu dylen ni wneud llawer mwy o bethau fel hyn”

“Fe wnes i fwynhau gwneud hyn” 

“Yn fy marn i mae’n wers dda. Mae’n well ym Mlwyddyn 6,  achos rydyn ni’n henach ac yn gallu deall mwy”

“Roeddwn i’n hoffi’r cyfan” 

Gwyliwch stori ddigidol ein gweithdy KISSTORY yma:

 

Kisstory Project from Emma Renold on Vimeo.

 

 

Gwyliwch Animeiddiadau KISSTORY:

Kisstories from Emma Renold on Vimeo.

 

 

LAWRLWYTHWCH Y STRIBEDI COMIG KISSTORY

 

Ymarferwch sut mae cydsyniad yn teimlo trwy ysgwyd llaw!! Edrychwch ar y Gweithgaredd Ysgwyd Llaw 3 Gwaith gan Meg John Barker a Justin Hancock

Ewch i SYNIADAU AR GYFER NEWID i gael rhagor o syniadau ar gyfer creu comigau a chylchgronau a dysgu am eu hanes gwleidyddol cyfoethog o ran mynegi materion tanseiliol a sensitif. 

 

Adnoddau CUSANU

Cusanu mewn gwaith celf

Sut mae pobl yn cusanu ar draws y byd

Cusanu mewn hanes: llinell amser

Cusanu mewn cartwnau Disney

Animeiddiad addysgol cydsyniad i blant

Sut i addysgu cydsyniad i blant

Addysgu cydsyniad yn ystafell ddosbarth y blynyddoedd cynnar

5 ffordd rydyn ni’n anwybyddu gweithrediad plant sy’n parhau â diwylliant o dreisio

40 llyfr ar reoli emosiynau

3 chamgymeriad mae rhieni’n eu gwneud wrth addysgu cydsyniad ac ymreolaeth y corff - a sut i’w cywiro

Ymchwil ar bobl ifanc a chydsyniad rhywiol

Ymchwil ar ddiwylliannau perthnasoedd plant a chydsyniad

 

 

Cliciwch yma i wneud eich Comig Kisstory eich hun!

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos yma:

 

PDF ICON

 

Download the entire AGENDA resource here!