twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Hafan
  • Croeso
  • Gwybodaeth
  • Diogelwch a Chymorth
  • Dechrau Arni
  • Syniadau ar Gyfer Newid
  • Gwneud I Bethnasoedd Cadarhaol Gyfri
  • DIY
  • Gwneud I Agenda Gyfrif
  • Lawrlwytho Agenda
  • Adnodd Agenda
  • Crush

PARATOI

Darllenwch yr astudiaeth achos KISSTORY, yr animeiddiadau a’r stori ddigidol i gael syniadau ynghylch sut i  greu gweithdy neu weithgaredd am gydsyniad i gefnogi’r gweithgaredd DIY hwn. 

CREU COMIGAU

1. Gwyliwch un neu fwy o’r animeiddiadau KISSTORY a thrafod storïau posibl mewn grwpiau neu barau. 

2. Yn unigol neu mewn parau, dewiswch un o’r saith stribed comig neu stribed comig gwag.

3. Edrychwch ar y dudalen gyntaf sy’n cyflwyno’r stori un ffrâm ar y tro. Fesul ffrâm, soniwch am beth allai fod yn digwydd. Pwy yw’r cymeriadau? A fydd ganddyn nhw enwau? Beth sydd yn eu meddyliau? Sut maen nhw’n teimlo o bosib?

4. Gan ddefnyddio’r swigod meddwl a siarad, lluniwch eich stori eich hun am sut mae cydsyniad yn bwysig i’r cymeriadau yn y stribed comig. 

5. Lliwiwch y cymeriadau gan ddefnyddio’r paled lliwiau cwmwl teimladau.   

6. Pan fyddwch chi wedi gorffen eich comig, beth am ffilmio neu greu sgrin-lun o bob tudalen, fel bod eraill  yn gallu eu gweld a’u darllen. Neu dewiswch gomig arall, neu lyfr comig gwag. 

7. Gallech chi greu sain-lun, gyda deialog ar gyfer  un o’r animeiddiadau sy’n symud. Pa stori rydych chi am ei hadrodd ynghylch sut mae cydsyniad yn cyfri i berthnasoedd cadarnhaol?

   Cliciwch yma i ddarllen astudiaeth achos Kisstory!

Cyn i chi ddechrau, darllenwch yr adran Diogelwch a Chefnogaeth ar sut i greu amgylchedd diogel, cadarnhaol a chynhwysol ar gyfer archwilio materion a allai fod yn sensitif.

Lawrlwythwch y gweithgarwch DIY hwn yma:

 

PDF ICON

Lawrlwythwch yr adnodd AGENDA cyfan yma!