MYFYRDODAU ARWEINWYR Y GWEITHDY
“Roeddwn i wrth fy modd yn gweld ymatebion blwyddyn 6 i’n gweithgareddau yn y wers. Rwy’n credu bod angen mwy o wersi fel hyn yn ein hysgol”
“Roeddwn i wrth fy modd yn gweithio fel rhan o’r tîm kisstory, ac fe wnes i fwynhau datblygu’r gwersi, roedd cwrdd â myfyrwyr o’r ysgol arall yn brofiad gwych, ac fe wnes i fwynhau gweld y disgyblion (blwyddyn 6) yn ymateb cystal i’r wers ar gydsyniad, sy’n bwnc mor bwysig i ddysgu amdano’n ifanc”
“Roeddwn i’n teimlo bod y prosiect hwn yn rhoi mewnwelediad go iawn. Mae cydsyniad mor bwysig oherwydd mae ei angen arnon ni ym mhob agwedd ar ein bywydau, ac fe wnes i fwynhau’n fawr ymgysylltu â disgyblion ifanc am hyn”
“Mewn ymateb i ddigwyddiadau cyfredol, fel symudiad #MeToo, yn fy marn i mae’n bwysig iawn addysgu plant am gydsyniad”
MYFYRDODAU GWEITHDY KISSTORY ar ffurf GEIRIAU ac WYAU (10/11 oed)
“Da, oherwydd digwyddodd hyn i fi!”
“Mae’n hwyl ... mae’n gwneud i chi feddwl am bethau .. ydy”
“Rwy’n credu dylen ni wneud llawer mwy o bethau fel hyn”
“Fe wnes i fwynhau gwneud hyn”
“Yn fy marn i mae’n wers dda. Mae’n well ym Mlwyddyn 6, achos rydyn ni’n henach ac yn gallu deall mwy”
“Roeddwn i’n hoffi’r cyfan”