Rydw i’n fyfyriwr blwyddyn 11. Heriodd ein Pennaeth Addysg Bersonol a Chymdeithasol ni i gynnal darn o waith ymchwil ar fater o’n dewis yr oedden ni’n credu ei fod yn bwysig i bobl ifanc mewn cymdeithas gyfoes. Yna, bydden ni’n ysgrifennu ein prosiect fel prosiect unigol ar gyfer Cymhwyster Bagloriaeth Cymru.
Er mwyn dysgu sut i gynnal gwaith ymchwil yn iawn, gwnaeth ein hathro ei fodelu, gan ddefnyddio pwnc Cydraddoldeb Rhywedd a Thrais ar sail Rhywedd. Yn ystod un o’n gwersi, fe ddysgon ni am GamerGate (gweler y dudalen nesaf). Roeddwn i’n credu bod hyn yn ddiddorol iawn ac, oherwydd fy mod i’n fachgen sy’n chwarae gemau’n rheolaidd, roeddwn i eisiau deall mwy am sut mae merched sy’n chwarae gemau’n cael eu trin.
Nid oedd yn gymhleth; creais ddau gymeriad ar Grand Theft Auto (GTA) 5 ac yna chwarae am awr fel y ddau afatar unigol. Penderfynais ganfod sut mae chwaraewyr sy’n cyflwyno eu hunain fel menywod yn cael eu trin, o gymharu â chwaraewyr sy’n cyflwyno eu hunain fel dynion. Ni fyddai’r chwaraewyr eraill yn gwybod fy mod i’n fachgen sy’n cyflwyno ei hun fel rhywun o rywedd gwahanol.
Creais ddau afatar gwahanol: ar gyfer awr gyntaf fy ymchwil roeddwn yn Bob, a chofnodais faint o wahoddiadau, negeseuon a cheisiadau ffrind ges i. Yna chwaraeais eto fel Jennifer.
Fel Bob, ges i ddim byd. Ces i ddim sylw! O fewn y pum munud cyntaf fel Jennifer, anfonwyd neges ata i’n dweud ‘Helô’. Yna, ces i fy nilyn gan Jaguar [car] gwyn, yn canu ei gorn ac yn fy nilyn i lawr strydoedd cefn. Roedd llawer o’r cymeriadau eraill yn y gêm ar y pryd yn ddynion, er nad ydych chi’n gwybod beth yw rhywedd y chwaraewr mewn gwirionedd, ac roedd Jennifer yn sicr wedi denu mwy o sylw. Ces i brofiad go iawn o ba mor agored i niwed y gall menywod fod, hyd yn oed wrth chwarae am awr yn unig!
Roedd rhaid i mi gynnal ymchwil eilaidd, yn ogystal â’r brif ymchwil ymarferol a wnes i fy hun. Mae llawer o waith ymchwil wedi cael ei wneud gan bobl mewn prifysgolion, yn ogystal ag erthyglau papurau newyddion ac ar-lein am chwarae gemau a rhywedd. Mae hefyd yn ddiddorol darllen sylwadau pobl ar fforymau chwarae gemau.