twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

 

 

Grŵp o fyfyrwyr blynyddoedd 7 - 11 ydyn ni a helpodd i sefydlu Feminist Fridays clwb amser cinio yn ein hysgol. 

Fe ddechreuon ni trwy refru am yr holl ymddygiad rhywiaethol roedden ni wedi dod ar ei draws yn yr ysgol, fel aflonyddu rhywiol a chodi cywilydd ar bobl am eu cyrff. Roedd hyn wedi’n helpu ni i sylweddoli nad ydyn ni ar ein pen ein hunain, a gwnaeth i ni deimlo’n fwy hyderus i ymateb i bobl eraill.

Mae’r grŵp yn darparu lle cadarnhaol i ni siarad, rhoi hwb i’n gilydd ac arllwys ein teimladau, ond rydyn ni hefyd yn cyfeirio’r egni hwn i wahanol weithgareddau, fel codi arian at elusennau, gwasanaethau ysgol ac ymgyrchoedd poster.

 

Codi arian

Rydyn ni’n falch iawn o’n hymdrechion codi arian ar gyfer elusennau hawliau menywod lleol a rhyngwladol. Hyd yma, rydyn ni wedi cynnal gwerthiant cacennau yn ogystal â dylunio a phaentio crysau T cydraddoldeb rhywedd. Mae’r arian a godwyd gennym wedi cefnogi goroeswyr trais domestig. 

Roedd yn wych gweithio gyda’n gilydd a gweld yr effaith gadarnhaol y gallen ni ei chael ar y byd. Mae’r gwerthiant cacennau a’n crysau T hefyd wedi helpu i godi proffil ein clwb Dydd Gwener Ffeministaidd o amgylch yr ysgol.

Gwasanaethau ysgol a chyfryngau cymdeithasol

Rydyn ni hefyd wedi hybu undod ffeministaidd trwy wasanaeth ysgol a gynllunion ni ar gyfer Blwyddyn 11. Ysgrifennodd pob un ohonon ni neges ddienw am sut mae bywyd yn gallu bod yn anodd iawn i ferched ar ein pen ein hunain, heb orfod lladd ar ein gilydd, a sut gallen ni fod gymaint yn gryfach petaen ni’n gweithio gyda’n gilydd. 

Wedi’n hysbrydoli gan yr ymgyrch cyfryngau cymdeithasol ‘Rydw i’n Pwyso’, mae ein grŵp hefyd wedi creu posteri sy’n herio codi cywilydd ar bobl am eu cyrff a ffobia tewdra, yn ogystal â dathlu priodoleddau sy’n gwneud i ni deimlo’n dda yn ein cyrff, fel ffrindiau da, chwerthin, ffeministiaeth, pitsa, gwyddoniaeth, cerddoriaeth a mwy.

Beth mae Feminist Fridays yn ei olygu i ni

“Rydw i wedi cael cyfle i siarad am fy mhrofiad a nawr rydw i eisiau clywed safbwynt pobl eraill” 

“Mae’n rhoi cyfle i mi frwydro yn erbyn chwibanu ar ferched a  chodi arian ar gyfer elusennau amrywiol” 

“Mae’n wych teimlo fy mod i’n cyflawni newid, hyd yn oed os yw’n fach” 

“Mae’r Clwb Ffeministaidd yn rhoi rhywbeth i mi edrych ymlaen ato yn ystod yr wythnos” 

“Rydw i’n dwlu bod yn y grŵp ffeministaidd oherwydd...mae’n rhoi hwb i fi a’r merched eraill yn lle chwalu fy hunan-barch”

Addysgwr: ‘Un o’r pethau y sylwais arno gyntaf oedd y tân oedd ynddyn nhw a oedd yn tyfu ym mhob cyfarfod.’

 

Deunydd i fegino Tanau Ffeministaidd

Ymchwil NEU i Rywiaeth mewn Ysgolion

Canllaw ffeminydd yn ei harddegau i’r byd sydd ohoni 

Pam mae ffeministiaeth yn bwysig i bobl ifanc o hyd 

Ysbryd yr Arddegau: Arwyr Ffeministaidd Ifanc

Siarad â Ffeminyddion Ifanc y Flwyddyn

Hyrwyddo Ffeministiaeth yn yr Arddegau -  Un Blog ar y Tro

Y Gair Ff, Beth mae ffeministiaeth yn ei olygu i bobl ifanc yn eu harddegau nawr

Ffeministiaeth y Bedwaredd Don

Fideo Bechgyn Ysgol Uwchradd ynghylch Pam mae Ffeministiaeth yn Bwysig yn lledaenu

Ffeministiaeth Pontio’r Cenedlaethau

Brwydro yn erbyn rhywiaeth yn yr ysgol: damcaniaeth ffeministaidd yn cyrraedd yr ystafell ddosbarth

Pam mae’n rhaid i’n ffeministiaeth fod yn groestoriadol a 3 ffordd i’w hybu

#Arthoe: y bobl ifanc yn eu harddegau a gychwynnodd fudiad celf ffeministaidd

Adroddiadau person cyntaf, cyfweliadau ac astudiaethau achos

Siarad â ffeministiaid ffyrnig 

Paid â bod yn ffeminydd achos fydd bechgyn ddim yn hoffi hynny 

Cyfweliad â’r ffeminydd gweithredol Perla Vasquez, gan Mama Cash 

Rydw i’n fy ngalw fy hun yn ffeminydd, gan Amy Annette,  Yas Necati, Isabel Adomakoh Young 

Astudiaethau achos grŵp ysgol ffeministiaid yn eu harddegau 

Dilynwch y ffrydiau Twitter #YOURVOICE2019 #FHSfemco o’r gynhadledd Cydweithfa Ffeministaidd ysgolion uwchradd yn Awstralia, sef ‘Uno, Grymuso ac Aflonyddu’, a ddyluniwyd gan bobl ifanc i ysbrydoli POBL IFANC i greu cymuned, dyfnhau eu dealltwriaeth o ffeministiaeth ac ystyried newid y byd. 

Gwefannau Ffeministiaeth 

Mae Gwifren Ffeministiaid Ifanc yn gymuned ar-lein sy’n cael ei chynnal ar gyfer a chan ffeministiaid ifanc sy’n gweithio ar hawliau dynol menywod, cydraddoldeb rhywedd a chyfiawnder cymdeithasol ar draws y byd.

Mae’r SPARK Movement yn sefydliad gweithredu gan ferched o bob oed sy’n gweithio ar-lein i danio mudiad cyfiawnder rhywedd gwrth-hiliol

Y dudalen ar ‘Ffeministiaeth’ yn y cylchgrawn diwylliant ieuenctid DAZED

Ffeministiaid yn eu Harddegau: ffeministiaeth o safbwynt pobl ifanc

Mae FBomb.org yn flog/cymuned a grëwyd gan ac ar gyfer unigolion yn eu harddegau ac oed coleg sy’n frwd ynghylch eu hawliau ac sydd eisiau cael eu clywed.

Mae www.feministing.com yn gymuned ar-lein sy’n cael ei chynnal gan ac ar gyfer ffeministiaid ifanc. Mae’n cynnig dadansoddiad ffeministaidd o bopeth o ddiwylliant pop i wleidyddiaeth ac mae’n ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau ffeministaidd yn y byd go iawn, ar-lein ac all-lein.

UK Feminista

Feminist Teacher

 

Llyfrau

50 o lyfrau ffeministaidd i oedolion ifanc

Barn pobl ifanc yn eu harddegau: fy 5 hoff lyfr am ffeministiaeth

14 o gerddi slam sy’n ymwneud â ffeministiaeth

Dyma Ni:  Ffeministiaeth ar gyfer y Byd Go Iawn

Rhowch gynnig ar ein gweithgareddau cychwynnol ffeministaidd!

Croesair Ffeministiaid

Bingo Gwylio Rhywedd

Bwrw’ch Llid mewn Hun-lun

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos yma:

 

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!