sicrhau bod Addysg Bersonol, Gymdeithasol ac Iechyd wedi’i hymsefydlu yng nghwricwlwm eich ysgol o’r dechrau. Dyma’r unig ffordd ddiogel o siarad am bynciau sensitif.
gynllunio’n ofalus. Mae’n rhaid amseru cyflwyno’r sesiwn hon ar gamfanteisio’n rhywiol ar blant yn ofalus. Mae angen iddyn nhw gael amser i brosesu’r hyn maen nhw wedi’i drafod gyda chefnogaeth yn yr ysgol. Mae angen amser yn ystod y tymor ac yn ystod yr wythnos ysgol i gael sgyrsiau dilynol. Felly, nid ar brynhawn dydd Gwener na diwrnod olaf y tymor, a cheisiwch osgoi gwrthdaro ag adegau eraill pan fyddan nhw dan bwysau.
gynnwys rhieni. Rydyn ni’n gwneud hyn trwy ein cyngor rhieni sy’n agored i bawb (mae hwn ar wahân i’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon neu riant-lywodraethwyr, er bod croeso iddyn nhw hefyd, wrth gwrs). Rydyn ni’n rhannu cofnodion y cyngor myfyrwyr a’r cyngor rhieni â’r ddau grŵp, a thrwy hynny’n agor deialog.
gynllunio dull cydlynol a chyson o weithredu gydag amcanion clir sy’n cynnwys rhieni, gofalwyr a’r holl staff proffesiynol ac asiantaethau ymweliadol. Mae hyn yn allweddol i gyflwyno addysg ar bynciau sensitif yn llwyddiannus. Datblygwch a chynhaliwch gysylltiadau â’ch cymuned leol, gofynnwch am gymorth a chynhwyswch eich cymuned leol.