twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

Grŵp cyfeillgarwch rhywedd cymysg ydyn ni ym Mlwyddyn 10, a’r tymor diwethaf, fe gawson ni wers ar drais domestig gan ein helusen Cymorth i Ferched leol. Bryd hynny sylweddolon ni cyn lleied roedden ni’n ei wybod am y mater hwn ac am gynifer o faterion eraill cysylltiedig.

Roedden ni’n gwybod llawer am bob pwnc arall yn y cwricwlwm, ond y nesaf peth i ddim am berthnasoedd iach, na llesiant rhywedd a chydraddoldeb rhywedd. Doedden ni ddim yn sylweddoli bod herio anghydraddoldeb rhywedd yn gallu helpu i ymdrin â thrais yn erbyn merched a menywod. Fe ddechreuon ni gysylltu’r dotiau a meddwl am anghydraddoldeb rhywedd a pha mor annheg mae’r byd yn gallu bod i fechgyn, merched, dynion a menywod.

Wedi’n hysbrydoli gan storïau cardiau flach ar YouTube lle mae pobl yn codi arwyddion gyda negeseuon a ysgrifennwyd â llaw i bobl eu darllen, fe benderfynon ni greu ein bwrdd stori ein hunain, a rhoi’r gair ar led ein bod ni’n fwy na’n graddau (#morethanourgrades).

Gall creu storïau Cardiau Fflach dienw fod yn ffordd syml, ddiogel ac effeithiol o gynyddu ymwybyddiaeth o faterion sensitif.

“Daeth #morethanourgrades yn brosiect her gymunedol Bagloriaeth Cymru i ni. Fe fuon ni’n dosbarthu taflenni ac yn siarad ag aelodau’r gymuned am gydraddoldeb rhywedd, ac yn dylunio holiadur  graddfa likert i  ganfod barn myfyrwyr a staff am ein stori cardiau fflach.” 

Mae ysgolion y dyddiau hyn fel tasen nhw’n ein gweld a’n gwerthfawrogi ni’n fwy fel graddau ar bapur, yn hytrach na phobl. Mae ein lles yr un mor bwysig â’n graddau TGAU.

BETH WNAETHON NI?

1: Gweithio ar draws y cwricwlwm

Fe ddechreuon ni weithio ein ffordd drwy bob pwnc ar y cwricwlwm, a chymryd ein tro i ddweud  yn uchel rhywbeth roedden ni’n ei wybod neu’n ei gofio o wahanol bynciau, fel Mathemateg neu Addysg Gorfforol.

2: Ymchwilio i’r pethau doedden ni ddim yn eu gwybod

Fe lunion ni fap meddwl o’r holl bethau doedden ni ddim yn eu gwybod am gydraddoldeb rhywedd a lles rhywedd, a defnyddio adnoddau ‘gwybodaeth’ AGENDA ar y we i ddysgu mwy.

3: Creu tudalennau ddim yn gwybod /yn gwybod

Yna fe lunion ni lyfr stori cardiau fflach, gydag un dudalen yn amlygu’r pethau roedden ni ‘yn eu gwybod’ ac un dudalen yn amlygu’r pethau doedden ni ‘ddim yn eu gwybod’.

4: Darlunio

Fe roeson ni ddarluniau ar bob tudalen, a thynnu llun ein hoff gymeriadau Disney ar y clawr blaen. Mae pob un o’r cymeriadau, yn ein barn ni, yn herio neu’n cael eu cyfyngu gan stereoteipiau rhywedd, rhywiol neu hiliol.

5: Ffilmio dwylo’r athro’n troi’r tudalennau

Gan ddefnyddio iPad, fe wnaethon ni ffilmio athrawon yn troi’r tudalennau oedd yn cyfateb i’w pynciau nhw. Daeth hyn yn ffordd wych o roi’r gair ar led am ein prosiect ar draws yr ysgol. Bu llawer o athrawon yn ein holi beth roedden ni’n ei wneud a pham. Dysgodd llawer ohonyn nhw, fel ni, bethau newydd am gydraddoldeb rhywedd neu drais ar sail rhywedd. Roedd ambell athro’n meddwl ein bod ni’n dysgu digon yn barod - arweiniodd hynny at drafodaethau diddorol!

6: Trydar stori cardiau fflach #morethanourgrades

Fe ddefnyddion ni movie maker i greu ein ffilm. Ar ôl ei gorffen, fe fuon ni’n ei chwarae ar deledu’r ysgol bob dydd yn ystod ein hwythnos Bagloriaeth Cymru. Fe fuon ni’n trydar ar gyfrif Twitter pob pwnc ysgol a gofyn iddyn nhw aildrydar y neges. Fe osodon ni hefyd her grŵp dosbarth myfyrwyr-staff, sef dyfalu pa athro oedd yn troi pa dudalen. Byddwn ni’n dangos y ffilm eto ar y Diwrnod Rhyngwladol Dileu Trais yn erbyn Menywod (25 Tachwedd) ac rydyn ni’n gobeithio y bydd myfyrwyr eraill yn creu eu llyfrau cardiau fflach eu hunain y flwyddyn nesaf.

 

 

 

“Roedd yn llawer o hwyl mynd o gwmpas yn trefnu bod yr holl athrawon yn troi’r tudalennau, ac yn gwylio’u hwynebau pan oedden nhw’n sylweddoli beth oedd y llyfr yn ei drafod!”

“Roeddwn i wrth fy modd yn creu lluniau ar gyfer y llyfr - rwy’n dwlu ar Disney!”

“Fe wnes i fwynhau hyn yn fawr... achos rydyn ni’n fwy na’n graddau!”

Edrychwch ar adnodd Amnest Rhyngwladol canllaw i weithredaeth cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal ag adnodd Feminist Frequency canllaw i’ch amddiffyn eich hun rhag aflonyddu ar-lein. 

 

Cliciwch yma i gael gwybod sut i greu eich Stori Cardiau Fflach Ddim/Yn Gwybod eich hun!

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos yma::

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!