Ein Clwb Amrywiaeth Ysgol a’n Cyfrif Cyfryngau Cymdeithasol ar Amrywiaeth
Rydyn ni’n Glwb Amrywiaeth sy’n cynnal cyfarfodydd amser cinio wythnosol yn yr ysgol, gyda chefnogaeth tri o’r athrawon a’n pennaeth. Darparu “lle diogel” i fyfyrwyr yn ein hysgol yw prif flaenoriaeth ein grŵp. Rydyn ni hefyd yn hyrwyddo amrywiaeth a chydraddoldeb ar draws yr ysgol, rydyn ni wedi cynnal gwasanaethau, ac fe wnaethon ni greu fideo ‘amrywiaeth’ ysgol yn ddiweddar i hybu agwedd gadarnhaol a derbyniol tuag at y corff, rhywedd a rhywioldeb, a ddangoswyd o amgylch yr ysgol mewn grwpiau tiwtor dosbarth. Mae rhai myfyrwyr hefyd wedi cynrychioli ein hysgol ar y materion hyn trwy gymryd rhan mewn cynadleddau a digwyddiadau addysgol.
Mae pedwar myfyriwr yn ein grŵp hefyd yn gweithredu cyfrif Instagram ar y cyd ar ‘amrywiaeth’ sy’n hybu negeseuon cadarnhaol a chefnogol am bobl LGBTQA+. Rydyn ni fyfyrwyr yn cynnal y cyfrif hwn fel unigolion preifat, ond mae ein hysgol yn rhoi cefnogaeth anffurfiol i ni. Fel myfyrwyr sy’n cynnal y cyfrif, rydyn ni’n gwerthfawrogi nad yw’r ysgol yn ceisio ei reoli. Rydyn ni’n trafod y cynnwys rydyn ni’n ei rannu yn aml yng Nghlwb Amrywiaeth ein hysgol, ac yn meddwl am beth sy’n cael ei ddysgu am rywedd a rhywioldeb trwy’r cyfrif. Rydyn ni’n gwybod ein bod ni hefyd yn gallu trafod gyda’r athrawon sy’n hwyluso ein Clwb Amrywiaeth sut gallen ni ymdrin ag unrhyw faterion sensitif am rywedd a rhywioldeb a allai godi ar-lein.