twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

CREFFT + GWEITHREDAETH = CREFFTYDDIAETH

Rydyn ni’n ddosbarth o fyfyrwyr Blwyddyn 5 (9 a 10 oed) oedd eisiau gweithio gyda’n teimladau ar ôl gwers perthnasoedd iach ar FGM (anffurfio organau rhywiol merched). Fe dreulion ni ddiwrnod cyfan yn dysgu am grefftyddiaeth a gweithredaeth pwythau croes. 

Gan ddefnyddio gweithgareddau cychwynnol AGENDA (Beth sy’n Aflonyddu arnoch chi, a Rhedfa at Newid), fe greon ni faner pwythau croes ar ffurf calon i bawb ei darllen.

DYMA EIN STORI...

“Mae crefftyddiaeth yn golygu mynd i’r afael â materion nid trwy weiddi a bod yn ddig, ond ar ffurf protest dyner. Nid yw tynerwch yn wan, mae’n galw am hunanreolaeth yn wyneb dicter, anghyfiawnder a thristwch. Mae protestio tyner yn caniatáu i ni sgwrsio yn hytrach na dadlau, trafod yn hytrach na gweiddi, a chydweithio oyn hytrach na thynnu’n groes”

gan Sarah Corbett

1: Dysgu am hawliau dynol, cydraddoldeb rhywedd ac FGM (anffurfio organau rhywiol merched)

Fe ddysgon ni am FGM o’n gwers gyda Phrosiect Sbectrwm a sut mae’n mynd yn erbyn hawliau dynol. Roedd rhai ohonon ni eisoes wedi clywed am FGM gan ein rhieni, a hefyd ar y teledu a’r cyfryngau cymdeithasol. 

2: Gwneud rhesi o faneri P.A.N.T.S.

Ar ddiwedd y wers, fe ddysgon ni am ein hawliau i breifatrwydd a bod ein corff yn eiddo i ni a neb arall. Fe ddefnyddion ni adnodd P.A.N.T.S. yr NSPCC i greu ein rhesi ein hunain o faneri bach. Roedd hynny’n help mawr i ni gofio am ein hawliau i breifatrwydd, amddiffyniad, diogelwch a chodi llais!!

 

3: Gwneud i’n teimladau gyfri 

Fe wnaeth dysgu am FGM i ni deimlo’n grac, yn bryderus, mewn sioc ac yn sâl. Roedd gennym ni lwyth o gwestiynau. Roedd llawer ohonon ni eisiau defnyddio sut oedden ni’n teimlo i wneud rhywbeth.  

 

4: Creu jariau hwyliau a datod ein teimladau

Fe sonion ni am sut roedden ni’n teimlo pan fydd hawliau pobl YN cael eu clywed a’u hamddiffyn, a phan dydyn nhw DDIM yn cael eu clywed a’u hamddiffyn. I’n helpu i fynegi ein teimladau, fe lunion ni fwrdd hwyliau gan ddefnyddio botymau lliw i gynrychioli pob teimlad. Yna rhoeson ni’r botymau yn ein jariau a’u haddurno. 

5: Ein rhedfa at newid 

Fe lunion ni fap meddwl o’r holl newidiadau roedden ni eisiau eu gweld yn y byd ar ein baneri Rhedfa at Newid. Fe ysgrifennon ni am ein hawliau, beth sy’n deg ac yn annheg, a beth sy’n ein gwylltio ni. 

 

 

 

 

Fe ddewison ni un mater neu fwy i’w cynnwys ar ein sgwariau pwythau croes. Defnyddiodd rhai ohonon ni styffylwyr, a rhai ohonon ni nodwyddau. Fe dynnon ni ffotograffau ohonyn nhw. Yna fe garion ni nhw i mewn i’r neuadd a’u cyfuno’n galon anferth â phinnau cau. 

 

 

Mae ein baner CALON CYDRADDOLDEB bellach yn cael ei harddangos ar wal y dosbarth i bawb ei gweld.

 

 

“Roedd yn bwysig iawn i ni ddysgu bod ein corff yn eiddo i ni a pha hawliau sydd gennym ni”

“Roedd yn dda ein bod ni wedi cael cyfle i ddewis ein lliwiau ein hunain ar gyfer emosiynau personol, oherwydd gallai fod gan bobl liwiau gwahanol ar gyfer teimladau gwahanol”

“Rydych chi’n gallu ychwanegu botymau at eich jar i gynrychioli’r gwahanol emosiynau buoch chi’n eu teimlo ar hyd y dydd”

“Roeddwn i’n dwlu ar y galon. Roeddwn i wrth fy modd yn creu pethau”

“Roedd yn ffordd dda o gael gwared o’ch holl emosiynau crac trwy eu rhoi nhw yn y jar”

“Fe dynnon ni lun wyneb trist oherwydd mae pobl eisiau newid rhywbeth, ond efallai eu bod nhw’n methu ei newid...ac mae gennym ni wyneb sâl oherwydd bod y pethau mae pobl yn eu gwneud i’w gilydd yn gwneud i ni deimlo’n sâl”

“Fe gawson ni fwy o ffrindiau oherwydd ein bod ni wedi helpu ein gilydd. Roedden ni’n dod yn ffrindiau agosach trwy wneud hyn”

 

MWY O BROSIECTAU PWYTHAU CROES a CHREFFTYDDIAETH

Maniffesto Crefftyddiaeth

Crefftyddiaeth Cwiltio

Bomio Edau 101

Lleisiau wedi’u Pwytho

Y Prosiect Ôl Troed

 

 

 

 

Prosiect Sbectrwm: Addysgu Ysgolion yng Nghymru am Berthnasoedd Iach

Adnodd Let’s talk P.A.N.T.S.

Llyfrau plant ar themâu cydraddoldeb, amrywiaeth, gwleidyddiaeth a gweithredaeth

Byw Heb Ofn: canllawiau i athrawon ac adnoddau addysgu ar VAWDASV

Beth yw FGM?

Darllenwch Ein Negeseuon o blaid Newid

Mae cariad yn cyfri... 

oherwydd dylai pawb gael eu caru a’u gwerthfawrogi

Mae heddwch yn cyfri... 

oherwydd mae angen heddwch ar bawb…

Mae cydraddoldeb yn cyfri... 

oherwydd rydyn ni eisiau i’r byd fod yn gyfartal 

Mae cydraddoldeb rhywedd yn cyfri… 

oherwydd dylai pobl gael yr un hawliau, beth bynnag yw eu rhywedd (hunaniaeth neu fynegiant)

Mae cydraddoldeb hil yn cyfri... 

oherwydd sut bynnag rydych chi’n edrych neu beth bynnag yw lliw eich croen, dylai pawb fod yn gyfartal 

Mae LGBTQ+ yn cyfri... 

oherwydd rydyn ni’n credu bod unrhyw un yn gallu hoffi neu garu pwy bynnag maen nhw eisiau

Cliciwch yma i Bwytho eich Hawliau!

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos yma:

 

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!