twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

   

Rydyn ni’n grŵp o fyfyrwyr celf (12 - 18 oed) oedd eisiau archwilio effaith normau harddwch ar ein cyrff a’n cymunedau. Cawson ni gyfle i ddatblygu ein syniadau trwy ganolfan ymchwil ein hysgol am y pwysau i gydymffurfio â safonau arbennig sy’n diffinio beth sy’n edrych yn dda neu beidio. Dyma hanes sut mae ein prosiect wedi tyfu ac ysbrydoli eraill i weithredu. 

“Dydw i ddim yn credu y dylen ni ferched orfod newid pwy ydyn ni i fodloni stereoteip nac i fodloni unrhyw un arall” (Rotimi, Blwyddyn 13)

 

Normau harddwch

Safonau gwneud ynghylch sut mae harddwch a bod yn ddeniadol yn “edrych”;  mae pobl yn cael eu barnu  yn ôl pa mor dda maen nhw’n cyrraedd y safon honno.

“P’un ai wedi’i dawelu, ei siafio, ei liwio neu ei sythu, mae gwallt yn ddeunydd sydd wedi cael ei ddefnyddio gan bobl i greu portread. Mae gwallt pobl yn cael ei ffurfio i fod yn arwydd cymdeithasol rhwng unigolion i gyfleu eu statws a’u cysylltiadau diwylliannol. Er bod cyflwr gwreiddiol gwallt wedi’i nodweddu gan ansawdd a lliwiau cyfoethog o amrywiol, mae ein syniad o wallt wedi cael ei safoni’n raddol dros y blynyddoedd gan y diwydiant cosmetigau, y cyfryngau, a chonfensiynau cymdeithasol, gan ei wneud yn debyg i wisg unffurf. (Alex Bizet, 2015)”

Gan weithio gydag artist preswyl yr ysgol Alex Bizet, fe ddechreuon ni archwilio gwallt fel deunydd sy’n cychwyn trafodaeth am safonau harddwch cymdeithas. 

Cawson ni wahoddiad i gasglu gwallt gan drinwyr gwallt lleol, a gychwynnodd sgyrsiau am rôl salonau gwallt yn ein cymunedau ac wrth ffurfio ein hymdeimlad ein hunain o hunaniaeth. 

 

Pan oedd gennym ni’r gwallt, fe ddechreuon ni wneud ffelt ohono. Roedd defnyddio deunydd yr oedden ni’n ei ddal yn ein dwylo wedi caniatáu i ni ganolbwyntio llai ar ein geiriau ac yn fwy ar y gweithgaredd, a oedd wedi ein galluogi i feddwl yn fwy creadigol. 

 

Fe wnaethon ni greu sawl sgwâr ffelt a ddefnyddiwyd i greu darn mwy o ffelt. Yna, ffurfiwyd hwnnw’n Hwdi. Felly, roedd y gwallt yn yr hwdi yn adlewyrchu’r gymdogaeth lle y casglwyd y gwallt.

Mae’r Hwdi Gwallt wedi cael ei arddangos mewn ysgolion ac mewn lleoliadau celf lle mae llawer o fyfyrwyr wedi dod ynghyd i’w gyffwrdd a’i ddarllen. Mae’r prosiect wedi cychwyn llawer o sgyrsiau a syniadau sydd wedi ysbrydoli prosiectau eraill dan arweiniad myfyrwyr sy’n archwilio themâu a phryderon tebyg. 

Yn dilyn y prosiect Hwdi Gwallt, roedden ni eisiau parhau i feddwl trwy wneud yn ogystal â helpu myfyrwyr eraill i feddwl am ddelwedd y corff. Helpodd Rotimi a CJ, sy’n ddau fyfyriwr tecstilau Blwyddyn 10, i gynnal gweithdy dan arweiniad myfyrwyr ar normau harddwch gyda myfyrwyr Blwyddyn 8. 

Fe wnaethon nhw dorri’r iâ gyda gêm afluniaidd o wych o ganlyniadau, a ddefnyddiodd luniadu i helpu i herio syniadau o berffeithrwydd. 

Parhaodd y trafodaethau hyn wrth weithio gyda chlai. Ffurfiodd y myfyrwyr eu clai yn wahanol siapiau cyrff. Mae clai yn ddeunydd diddorol i’w ddefnyddio i feddwl oherwydd gellir ei guro, ei wasgu a’i dynnu’n amryw ffurfiau, ond mae hefyd yn anodd gwneud iddo gyfleu’r delweddau a oedd yn ein meddyliau. Roedd gweithio gyda’r clai wedi creu lle ar gyfer camgymeriadau a chwerthin, yn ogystal â chysylltu â’n brwydrau ein hunain â’n cyrff i gyflawni safonau perffeithrwydd cymdeithas. 

Pan oedd y ffigurau wedi’u cwblhau, fe aethon ni ati i greu arwyddion protestio ffeministaidd yn mynnu cydraddoldeb a pharch, a gosod y ffigurau mewn ystumiau corff herfeiddiol. 

Rydyn ni wedi parhau i feddwl am safonau harddwch, a sut maen nhw’n ffurfio agweddau tuag at ein cymuned leol. Rydyn ni’n byw mewn ardal sy’n profi llawer o newid a boneddigeiddio. Trwy weithio gyda’r artist Alix Bizet unwaith eto, cafodd Ria ac Ahamad gyfle i weithio ar brosiect o’r enw Hairytage a chyfrannu at arddangosfa leol. Roedd hyn yn cynnwys cynnal gweithdy ar sut mae boneddigeiddio’n bwysig i ni, ac archwilio ei effaith ar bobl yn yr ardal trwy fapio ac amlinellu dwylo.

Yn rhan gyntaf y gweithdy, gwahoddwyd pobl i dynnu llinell o amgylch eu dwylo ac ysgrifennu eu hatgofion o’r lle yn yr amlinelliad. Roedd gweithio gyda dwylo wedi helpu i gychwyn sgyrsiau am gymuned. Mae’r llaw estynedig yn gallu bod yn symbol o gyfeillgarwch a chefnogaeth, ond mae hefyd yn gallu cynrychioli pŵer a herfeiddiwch.

 

“Mae boneddigeiddio’n gwthio un hil benodol allan o’r ardal oherwydd nid yw’n edrych yn ‘ddeniadol’, ac maen nhw’n rhoi’r trinwyr gwallt i gyd mewn un adeilad oherwydd eu bod nhw eisiau i’r ardal edrych yn fwy ‘pert’” 
(Ria, Blwyddyn 13)

“Rydyn ni i gyd yn gwybod bod boneiddigeiddio’n digwydd. Mae’n codi yn y newyddion ond yna mae’n cael ei wthio o’r neilltu ar ôl wythnos. Roeddwn i eisiau codi’r mater eto, a gweld beth allen ni ei wneud i’w newid.” 
(Ahamed, Blwyddyn 13)

 

Boneddigeiddio

Y broses o atgyweirio ac ailadeiladu cartrefi a busnesau mewn ardal (fel cymdogaeth drefol), law yn llaw â mewnlifiad o bobl dosbarth canol neu gefnog sy’n aml yn arwain at  ddadleoli’r preswylwyr a oedd yno’n flaenorol.

(Merriam Webster 2019)

Yn dilyn hyn, fe ddefnyddion ni nodiadau gludiog siâp calon ac ysgrifennodd pobl yr holl bethau maen nhw’n eu hoffi am fyw yn yr ardal. Yna, ychwanegwyd y nodiadau gludiog at fap o’r ardal. Ysgogodd hyn bawb i drafod beth mae’n ei olygu i garu ardal, a sut mae’n teimlo pan fydd yn newid o’n hamgylch. Roedd y storïau a rannwyd yn y gweithdai hyn wedi amlygu hanesion cudd y lle. 

Gan ddilyn ymlaen o’r sgyrsiau hyn, fe wahoddon ni bobl i ddewis gair oedd yn arwyddocaol iddyn nhw, a’i wau mewn tapestri gan ddefnyddio edau wedi’i gwneud o wallt dynol. Mae’r tapestri’n gwau gwahanol elfennau o’n harchwiliad parhaus o normau harddwch at ei gilydd.

Rydyn ni’n gobeithio y bydd ein tapestri’n parhau i dyfu ac yn annog pobl i feddwl am  wyneb newidiol ein cymuned. 

 

“Roedd yn ddiddorol iawn cael gwybod am yr ystyr a’r arwyddocâd dyfnach oedd gan drinwyr gwallt yn ein cymuned leol” (Ria, Blwyddyn 13)

Dysgwch fwy am waith ac arddangosiadau Alix Bizet. 

Gwyliwch y ffilm am yr Hwdi Gwallt, Hair by Hood 

Y Ganolfan Archwilio Creadigol 

Darllenwch fwy am waith Louise Rondel sy’n defnyddio cynhyrchion harddwch i grefftio ymatebion i newid cymdogaethol (tud.(au) 25 - 28).

4 ffordd mae’r delfrydau harddwch a dderbynnir gan gymdeithas yn hiliol

A all y diwydiant harddwch weddnewid y normau rhywedd mae wedi’u creu? 

Di-flewyn-ar-dafod: myfyrdodau ar flew’r corff, ffeministiaeth a thraws-hunaniaeth

Trinwyr gwallt yn hyfforddi staff i sylwi ar arwyddion cam-drin domestig

Defnyddio clai i archwilio rhywedd a chyrff 

Rydw i eisiau dangos corff i chi: meddwl am rywedd, cyrff a chreu byd gwahanol, gan Linda Stupart 

Beth mae’r cynnydd mewn colur i ddynion yn ei olygu i wrywdod

Canllaw Gweithgareddau Gweithredaeth y Corff

Y menywod rydyn ni’n eu gweld - adroddiad ar safbwyntiau merched a menywod ynghylch rhywedd, amrywiaeth a hysbysebu mewn mannau cyhoeddus

Cliciwch yma i roi cynnig ar Stwnsh Harddwch

neu

Cliciwch yma i greu eich Cerfluniau Corff Clai eich hun!

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos yma:

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!