Grŵp cyfeillgarwch rhywedd cymysg ydyn ni ym Mlwyddyn 10, a’r tymor diwethaf, fe gawson ni wers ar drais domestig gan ein helusen Cymorth i Ferched leol. Bryd hynny sylweddolon ni cyn lleied roedden ni’n ei wybod am y mater hwn ac am gynifer o faterion eraill cysylltiedig.
Roedden ni’n gwybod llawer am bob pwnc arall yn y cwricwlwm, ond y nesaf peth i ddim am berthnasoedd iach, na llesiant rhywedd a chydraddoldeb rhywedd. Doedden ni ddim yn sylweddoli bod herio anghydraddoldeb rhywedd yn gallu helpu i ymdrin â thrais yn erbyn merched a menywod. Fe ddechreuon ni gysylltu’r dotiau a meddwl am anghydraddoldeb rhywedd a pha mor annheg mae’r byd yn gallu bod i fechgyn, merched, dynion a menywod.
Wedi’n hysbrydoli gan storïau cardiau flach ar YouTube lle mae pobl yn codi arwyddion gyda negeseuon a ysgrifennwyd â llaw i bobl eu darllen, fe benderfynon ni greu ein bwrdd stori ein hunain, a rhoi’r gair ar led ein bod ni’n fwy na’n graddau (#morethanourgrades).
Gall creu storïau Cardiau Fflach dienw fod yn ffordd syml, ddiogel ac effeithiol o gynyddu ymwybyddiaeth o faterion sensitif.