Teithiodd plant o grŵp ieuenctid lleol yn y cymoedd i ganol dinas Caerdydd ar y bws i ddathlu 100 mlynedd o ymgyrchu dros y bleidlais i fenywod, gyda miloedd o bobl eraill.
Buon nhw’n chwifio’u baneri cartref oedd â negeseuon o blaid ‘heddwch’, ‘rhyddid’, ‘cryfder’ a ‘phŵer merched’ ar bawb oedd yn mynd heibio ar hyd eu ffordd yno.