twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

  

NEGESEUON ALLWEDDOL O’R YMCHWIL ‘CODI LLAIS!’ (plant 10-12 oed)

Mae plant yn dysgu am rywedd a rhywioldeb cyn gynted â’u bod yn ymuno â’r byd cymdeithasol - Mae plant yn llywio ac yn dysgu am y ffyrdd croesebol y mae rhyw, rhywedd a rhywioldeb yn ffurfio pwy ydyn nhw, sut maen nhw’n teimlo yn eu cyrff, beth gallan nhw ei wneud, ble gallan nhw fynd, sut maen nhw’n uniaethu â phobl eraill a sut mae pobl eraill yn uniaethu â nhw.

Dygymod â rhywiaeth pob dydd - Mae’r pwysau i gydymffurfio â normau rhywedd yn hollbresennol mewn bywydau plant, ar-lein ac all-lein. 

Mae diwylliannau sboner a wejen yn gyffredin ym myd cymdeithasol plant, ond yn cael eu profi mewn ffyrdd amrywiol - Mae rhai plant yn teimlo pwysau i gymryd rhan mewn diwylliant sboner-wejen yn yr ysgol gynradd, sy’n ei gwneud hi’n anodd i fachgen a merch gynnal cyfeillgarwch yn yr ysgol. Roedd rhai plant wedi esgus eu bod nhw’n gefndryd i osgoi gorfod ‘paru’. 

Mae plant ifanc yn dioddef aflonyddu rhywiol - Roedd aflonyddu rhywiol ar lafar (yn yr ysgol ac mewn mannau cyhoeddus)  yn gyffredin, ond ychydig o blant oedd yn gallu siarad amdano gyda rhiant, gofalydd neu athro/athrawes ac nid oeddent yn gwybod sut i ddelio â sylwadau sarhaus.

Roedd llawer o blant yn grac oherwydd bod rhaid iddynt fyw mewn cymdeithas a diwylliant cyfoedion rhywiaethol - Er bod rhai plant wedi dod o hyd i ffyrdd creadigol o reoli a/neu herio stereoteipiau rhywedd a rhywiol, nid oedd y rhan fwyaf o blant yn gwybod beth i’w wneud na sut i newid pethau, hyd yn oed pan oedden nhw eisiau gwneud hynny. Roedd ymdrechion unigol i frwydro yn erbyn rhywiaeth naill ai’n ofer neu’n rhy beryglus.

Mae angen i bolisi ac arferion gael eu llywio gan brofiadau plant - Dim ond trwy ddatblygu polisïau ac arferion sy’n berthnasol i ddiwylliannau rhywedd a rhywiol y plant eu hunain y gall ymarferwyr lwyr gefnogi dealltwriaeth a phrofiadau’r plant o’r rhesymau sydd wrth wraidd y ffordd maen nhw’n teimlo, beth mae’n ei olygu i’r ffordd maen nhw’n ymddwyn, a sut gall pethau newid.

Pam gweithdai creadigol a chyfranogol?

Mae dulliau creadigol a rhyngweithiol  (e.e. drama, celf weledol, barddoniaeth)  yn gallu darparu lle i deimlo, meddwl, cwestiynu, ymgorffori a rhannu materion personol, sy’n aml yn sensitif neu’n anodd, heb i blant a phobl ifanc ddatgelu gormod o’u hunain. Gellir cyflawni hyn trwy wahodd plant a phobl ifanc i greu senarios sy’n cysylltu â’r personol ond sy’n cynnig cyfleoedd i feddwl, deall, trafod a gweithredu dros newid ar y cyd.

Darllenwch fwy yma.

1: Tyfu mewn diwylliant rhywiaethol a diwylliant sy’n rhywioli

Llywiwyd y digwyddiad undydd hwn gan ganfyddiadau prosiect ymchwil yng Nghymru a archwiliodd beth oedd gan blant 10-12 oed i’w ddweud am sut oedd rhywedd a rhywioldeb yn bwysig iddyn nhw. 

Un o’r canfyddiadau allweddol oedd pa mor grac oedd plant yn teimlo am orfod byw mewn cymdeithas a diwylliant cyfoedion rhywiaethol ac wedi’u rhywioli. Dywedodd llawer o blant y bydden nhw’n hoffi gallu siarad yn fwy agored am y pwysau yr oedden nhw’n eu hwynebu yn 10 ac 11 oed, ac nid dim ond siarad neu ddysgu am beth allai ddigwydd yn y dyfodol. Roedd hyn arbennig o wir o ran diwylliannau perthnasoedd cynnar, delwedd y corff a diogelwch.

2: Torri’r distawrwydd, herio tybiaethau wedi’u seilio ar oed  

Trefnwyd y diwrnod yn benodol i ddarparu llwyfan, trwy gyfres o weithdai creadigol a chyfranogol, a oedd yn galluogi’r plant i leisio’u barn a dysgu beth mae plant eraill yn ei feddwl am anghydraddoldeb rhywedd a stereoteipiau rhywedd, gan gynnwys bwlio rhywiol ac ar sail rhywedd, cyfeillgarwch a pherthnasoedd yn yr ysgol, mewn cymunedau ac ar-lein. 

Canlyniad pwysig oedd torri’r distawrwydd, a herio rhai o’r tybiaethau wedi’u seilio ar oed rhwng byd plant 9-12 oed a phlant yn eu harddegau, a rhwng byd myfyrwyr ac athrawon. Roedd  hefyd yn gyfle gwych i arbrofi â chydgynhyrchu a chyflwyno diwrnod pontio addysg bersonol a chymdeithasol, gydag academyddion, athrawon, pobl ifanc ac artistiaid.

3: Trefnu’r diwrnod

Roedd yr holl blant o’r 6 ysgol gynradd fwydo wedi rhyngweithio â’i gilydd trwy gyfres o weithdai. Arweiniwyd rhai o’r rhain gan grwpiau ieuenctid ffeministaidd a gwrth-homoffobia yr ysgol uwchradd gynhaliol, a chynhaliwyd eraill gan fyfyrwyr prifysgol ac artistiaid â diddordeb ac arbenigedd mewn addysg cydraddoldeb rhywedd a rhywioldeb. Dechreuodd y diwrnod gyda myfyrwyr o’r ysgol uwchradd gynhaliol yn rhoi cyflwyniadau, yn adrodd cerddi ac yn perfformio drama fer a ysbrydolwyd gan ganfyddiadau allweddol y gwaith ymchwil ‘Girls and Boys Speak Out’.

Mae Pawb yn Dysgu: athrawon hefyd!

Ychydig iawn o athrawon sy’n cael unrhyw hyfforddiant ar sut i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb/cydraddoldeb rhywedd yn yr ysgol. 

Tra bod y plant yn cymryd rhan yn eu gweithdai, cymerodd eu hathrawon ysgol gynradd ran mewn gweithdy ar wahân tebyg i hyfforddiant mewn swydd ar ‘Herio stereoteipiau Rhywedd mewn Ysgolion Cynradd’.

5: Dim ond ffrindiau? gwers dan arweiniad cyfoedion ar ddiwylliannau perthnasoedd rhywedd

Yn seiliedig ar y ddrama ‘dim ond ffrindiau da’ a berfformiwyd yn ystod sesiwn y bore, anogwyd y plant i archwilio dynameg rywedd cyfeillgarwch cymysg ac un rhyw, a chymhlethdod diwylliannau perthnasoedd ifanc.

6: Gwersylla Gwych: gwneud llochesi cadarnhaol o ran rhywedd mewn gweithdy addurno pebyll

Addurnodd y plant bebyll bach â geiriau a lluniau i gyfleu ‘pan fydd corff yn pryderu’ (y tu mewn i’r babell) a ‘phan fydd corff yn teimlo’n dda’ (y tu allan  i’r babell) gan ddefnyddio nodiadau gludiog. Yna, fe archwilion nhw ffyrdd o ymdrin â stereoteipiau delwedd y corff.

7: Iaith y Corff: symud trwy stereoteipiau

Roedd y gweithdy hwn yn gwahodd plant i archwilio sut mae’r corff yn cyfathrebu trwy symud mewn arferion pob dydd. Yn seiliedig ar y thema “yn eu hesgidiau nhw”, rhoddwyd cyfle i grwpiau bach o blant arbrofi â phwysau cyfoedion mewn diwylliannau cyfoedion. Fe gynhwyson nhw wrthrychau ‘penodol o ran rhywedd’ (e.e. esgidiau sodlau uchel, sgarffiau, minlliw, cribau, drychau, capiau pêl-fas)  yn eu darn symud.

8: Chwalu stereoteipiau rhywedd corfforaethol: gweithdy lego

Lluniodd y plant fap meddwl o’r holl ffyrdd y mae’r cyfryngau’n creu ac yn herio stereoteipiau rhywedd. Yna, fe wnaethon nhw eu ‘peiriannau chwalu stereoteipiau rhywedd’ eu hunain gyda lego a nodiadau gludiog. 

 

 

Wal Meddyliau

Rhoddwyd cyfle i’r bobl ifanc wneud sylwadau ar yr hyn roedden nhw’n ei wneud a’i ddysgu drwy gydol y dydd trwy ychwanegu at y ‘Wal Meddyliau’. 

Plismona ein gilydd

Penderfynodd dau blentyn ddileu un sylw gwrth-hoyw, gan ddweud “paid â bod yn homoffobig”. Ychydig oriau’n ddiweddarach, ymddangosodd “sori” nesaf at y sylwadau gwreiddiol. 

Rhannu gwybodaeth

Ar ddiwedd y dydd, daeth y myfyrwyr a’u hathrawon yn ôl at ei gilydd i rannu’r hyn yr oedden nhw wedi’i greu, gan gynnwys eu “Wal Meddyliau” o’r pethau yr hoffen nhw eu newid.

 

 

 

 

Rhyddhau’r cyfyngiadau rywedd i blant yn Sweden: Mae ‘hen’ yn rhagenw niwtral o ran rhywedd

Torri’r patrwm: herio stereoteipiau rhywedd

Mynd i'r afael â stereoteipiau rhywedd yn y blynyddoedd cynnar

Prosiect Parch Rhyweddol: cefnogi plant a phobl ifanc i ddeall, cwestiynu, a herio anghydraddoldeb a thrais rhwng y rhywiau

Pam mae marchnata ar sail rhywedd yn bwysig

Nid yw bioleg yn cyfiawnhau rhannu  teganau yn ôl rhywedd

Cynlluniau gwers i helpu ysgolion i herio stereoteipiau rhywedd

 

Cliciwch yma i ddod yn Dditectif Stereoteipiau Rhywedd gyda DIY Toys R (For All Of) Us

 

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos yma:

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!