twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

 

 

MAE CYDRADDOLDEB  RHYWEDD  YN BWYSIG!

Grŵp o fyfyrwyr Blwyddyn 11 ydyn ni a ddechreuodd grŵp amser cinio ffeministaidd o’r enw Newid-Ffem.

Rydyn ni’n cwrdd unwaith yr wythnos amser cinio i ddweud ein dweud am bopeth sy’n ymwneud â chyfiawnder rhywedd.

Ein nod yw cynyddu ymwybyddiaeth o anghydraddoldeb rhywedd a beth gallwn ni ei wneud amdano.

 

Yn 2014, cynhaliodd Newid-Ffem ddau weithdy gyda mwy na 40 o blant ysgol gynradd Blwyddyn 6 mewn cynhadledd leol i blant ar les rhywedd a pherthnasoedd iach. Yn y bore, fe roeson ni gyflwyniad ar yr holl wahanol faterion roedden ni’n teimlo eu bod yn bwysig yn ein bywydau.

EIN GWEITHDY LEGO

Fe ddechreuon ni’r sesiwn 45 munud trwy ofyn i’r plant Blwyddyn 6 ysgrifennu ar nodyn gludiog enw eu hoff degan pan oedden nhw’n tyfu i fyny. Yna, fe gymharon ni sylwadau’r merched a’r bechgyn a gofyn a allai bechgyn hoffi ‘my little pony’ neu a allai merched hoffi ‘power-rangers’. Roedd hynny wedi ein hysgogi ni i drafod sut mae llawer o deganau’n cael eu marchnata’n wahanol i ferched a bechgyn (e.e. lliw, adrannau gwahanol yn y siopau, hysbysebion ac ati).

Fe rannon ni’r ffaith mai lliw poblogaidd i fechgyn oedd pinc yn wreiddiol, ac mai dim ond yn y 1950au y dechreuodd gael ei gysylltu â merched a benyweidd-dra!  Yna, buon ni’n trafod ychydig ar hanes rhywedd Lego, a sut mae’n cael ei farchnata’n wahanol i ferched erbyn hyn (gweler brand ‘Lego Friends’). “Ystyr Lego yw chwarae’n dda,” medden ni, “ond sut gallwn ni chwarae’n dda os yw Lego’n atgyfnerthu stereoteipiau rhywedd?”

 

PAM LEGO?

“Dydyn ni ddim yn credu ei bod yn deg bod LEGO yn atgyfnerthu stereoteipiau rhywedd trwy farchnata eu cynhyrchion yn wahanol i ferched a bechgyn. Felly, fe benderfynon ni gael hwyl yn gofyn i’r myfyrwyr greu peiriannau lego a allai chwalu stereoteipiau rhywedd a gwrthwynebu rhywiaeth.”

 

“Fe wnaeth y gweithdy lego i mi feddwl beth bynnag yw eich rhywedd, y gallwch chi hoffi beth bynnag rydych chi eisiau” 

“Roedd yn rhyfeddol gweld sut gallai rhywbeth difrifol, fel rhywiaeth, gael ei harchwilio mewn ffordd ddifyr”

“Roeddwn i’n synnu pa mor agored oedd y plant Blwyddyn 6 i siarad am rywedd”

Fe wnes i fwynhau’n fawr gweld sut roedden nhw’n meddwl am stereoteipiau rhywedd am y tro cyntaf”

“Roedd defnyddio lego i siarad am stereoteipiau rhywedd yn ei wneud yn llawer mwy o hwyl”

“Roeddwn i wrth fy modd gyda’r ffordd yr oedd y myfyrwyr yn dod  â’u profiadau eu hunain i’r dasg”

“Roeddwn i’n teimlo bod y plant yn mwynhau’r gweithgaredd oherwydd ein bod ni ddim yn pregethu arnyn nhw”

 

Merch saith oed yn herio Lego am adeiladu stereoteipiau rhywedd

Marchnata ‘Lego Friends’ ar sail rhywedd

Lego yn troi’n wleidyddol

Sut mae hysbysebion teganau’n atgyfnerthu stereoteipiau rhywedd

Mae stereoteipiau rhywedd yn eich atal rhag gwneud pethau

Pethau bechgyn a phethau merched? 

Cynlluniau gwersi ar gyfer athrawon

Beth yw’r cysylltiad rhwng sylwadau rhywiaethol a cham-drin domestig? Gwyliwch yr hysbyseb deledu hon o Awstralia i ddysgu mwy

 

Cliciwch yma i geisio adeiladu eich Peiriant Chwalu Rhywiaeth Fasnachol eich hun!

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos yma:

 

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!