Enghraifft: Stori a ysgrifennwyd gan ddisgybl ysgol gynradd
Un tro, roedd yna ferch fach o’r enw Sam, ac roedd hi’n newydd yn ei hysgol. Roedd hi’n ffrindiau gyda’r holl ferched poblogaidd, ond yna’n sydyn, fe welodd hi bêl-droed tu allan.
Dywedodd hi, “Ydych chi eisiau chwarae pêl-droed?” wrth y merched poblogaidd.
“Ewww, na. Ti’n un od! Gêm i fechgyn yw hwnna” meddai’r merched poblogaidd. Pam wyt ti’n hoffi hwnna?”
Dechreuodd Sam deimlo’n drist ac yn bryderus. Roedd hi eisiau dweud wrth rywun, ond roedd hi’n pryderu y byddai’n wneud pethau’n waeth. Roedd hi’n teimlo emosiynau cymysg o hyn oherwydd eu bod nhw’n cadw dilyn hi o gwmpas a galw enwau cas arni.
Felly dechreuodd hi ystyried y peth yn fwlio oherwydd eu bod nhw’n gwneud e drwy’r amser. Roedd hi eisiau dweud wrth rywun, ond roedd hi’n ofni petai hi’n gwneud hynny, y byddai’n newid o fwlio geiriol i fwlio corfforol.
Eisteddodd Sam i lawr i gael cinio, ar ei phen ei hun, yna daeth merch arall oedd yn eistedd ar ei phen ei hun draw ati.
Dywedodd “Helo, wyt ti eisiau bod yn ffrindiau?”
Dywedodd Sam “Ydw, ond wna i dy rybuddio di... rwy’n dipyn o ‘tomboy’”
“Mae hynny’n iawn, fi hefyd”