twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Hafan
  • Croeso
  • Gwybodaeth
  • Diogelwch a Chymorth
  • Dechrau Arni
  • Syniadau ar Gyfer Newid
  • Gwneud I Bethnasoedd Cadarhaol Gyfri
  • DIY
  • Gwneud I Agenda Gyfrif
  • Lawrlwytho Agenda
  • Adnodd Agenda
  • Crush

 

Mae’r term ‘drama’ yn dod o air Groeg sy’n golygu “gweithred”: “gwneud” neu “weithredu”. Mae drama yn aml yn ffordd bwerus o gynyddu ymwybyddiaeth o faterion cymdeithasol sensitif mewn modd anfygythiol.

Gweithiodd Spectacle Theatre gyda theuluoedd, oedolion, plant ac athrawon i gydgynhyrchu darn o theatr ryngweithiol wedi’i seilio ar brofiadau pobl ifanc i archwilio seiber-fwlio ac aflonyddu rhywiol ar-lein gyda theuluoedd, grwpiau oedolion, plant ac athrawon. Mae Special wedi’i seilio ar ddau gymeriad canolog: merch un ar ddeg mlwydd oed sy’n gweld digwyddiad bwlio, a dyn pum deg mlwydd oed ag anghenion arbennig, y mae ei chwaer yn gofalu amdano oherwydd bod ei fam yn yr ysbyty.

Yn ystod yr wythnos gwrthfwlio, wedi’u hysbrydoli gan waith Comisiynydd Plant Cymru ‘Stori Sam: Gwrando ar brofiadau plant o fwlio yng Nghymru’ , bu plant yn cynllunio a pherfformio drama chwarae rôl. Roedd pob chwarae rôl yn arddangos peth o’r ymddygiad allweddol a drafodwyd gan y plant er mwyn archwilio ymddygiad bwlio. Gallwch ddysgu mwy am natur dull ysgol gyfan sy’n parchu hawliau o ymdrin â pherthnasoedd iach drwy ddefnyddio Stori Sam yma.

Gwyliwch y rhaglun ar gyfer My Normal Life, sef drama a grëwyd ar y cyd gyda phobl ifanc sy’n edrych  ar drais yn erbyn menywod a merched (VAWG), anffurfio organau rhywiol merched (FGM) a’r ymdrech i ganfod eich hunaniaeth eich hun.

I gael rhagor o syniadau a gwybodaeth am weithio gyda theatr a’r celfyddydau i atal trais trwy hybu perthnasoedd iach, gweler Prosiect Bridge Tender. Elusen yw Tender sy’n gweithio gyda miloedd o bobl ifanc bob blwyddyn i helpu i atal ac ymdrin â  pherthnasoedd camdriniol.

I gael gwybod mwy am ddrama a theatr ar gyfer pobl ifanc, ewch i wefan y Theatr Ieuenctid Genedlaethol

I gael rhagor o wybodaeth am ryw, perthnasoedd ac anabledd, gweler  www.scope.org.uk

Darllenwch fwy o gyngor a chymorth am seiber-aflonyddu rhywiol.

Lawrlwythwch y PDF Syniad am Newid yma:

PDF ICON

Lawrlwythwch yr adnodd AGENDA cyfan yma!