twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

  

Grŵp o 14 o fyfyrwyr ysgol uwchradd ydyn ni a gafodd gyfle i gyfarfod â Helen Walbey, rheolwr gyfarwyddwr yr unig iard hen rannau beiciau modur a sgwteri yng Nghymru. Gyda’n gilydd, gyda chefnogaeth ein hathrawon Dylunio a Thechnoleg, ein hathro Celf, pennaeth ein blwyddyn a’n swyddog cynhwysiad, rydyn ni’n creu ein ‘coeden berthnasoedd’ ein hunain o gelfyddyd sothach. Cerflun byw yw hwn, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd pobl ifanc eraill yn gallu ychwanegu ato dros y blynyddoedd gyda’u negeseuon ynghylch beth sy’n creu perthynas gadarnhaol.

DYMA EIN STORI HYD YMA...

1: Beth sy’n creu perthynas dda?

Fe lunion ni fap meddwl o’r holl berthnasoedd gwahanol, cadarnhaol roedden ni’n eu mwynhau: cariadon, ffrindiau, teulu, anifeiliaid anwes, neu fannau a gwrthrychau arbennig.

 

2: Gwau gweoedd perthynas

Fe ddewison ni ein hoff berthynas (e.e. ein ci, neu mam-gu). Fe ddefnyddion ni hyn i gwblhau fersiwn wedi’i haddasu o graff perthnasoedd BISH.COM. Gan ddewis a graddio pethau sy’n gwneud ein perthynas yn un dda, fe gysyllton ni’r dotiau i greu gwe perthynas.

 

3: Dyfeisio micro-gerfluniau sgrap

Wedi’n hysbrydoli gan artistiaid sothach a phentwr bach  o ddeunyddiau sgrap, llunion ni ein cerfluniau bach ein hunain mewn 10 munud.

 

4: Ymweld â’r iard sgrap a chael hyd i’n deunyddiau

Gyda’n llyfrau nodiadau yn ein dwylo, aethon ni ar fws mini i iard sgrap Helen. Cawson ni ddigon o syniadau o’r deunyddiau. Fe wnaethon ni restr o bopeth roedden ni’n meddwl gallai fod ei angen. Roedd teiars, drychau ochr, brêcs, ceblau lliw, a goleuadau arwyddo yn ddewisiadau poblogaidd.

Yn ôl yn yr ystafell ddosbarth, wedi’n hysbrydoli gan gerflun ‘Dandilion’ Karen Cusolito (2010) a’r geiriau o’n gweoedd perthynas, fe benderfynon ni greu cerflun byw y byddai pobl ifanc eraill ar hyd y blynyddoedd yn gallu ychwanegu ato a’i bersonoli.

 

5: Drilio, llifio, torri â laser, bolltio

Fe gawson ni lawer o hwyl yn dysgu sgiliau newydd i greu ein coeden berthynas o deiars.

Fe ddefnyddion ni’r dril llaw a’r peiriant turnio i greu’r gwaelod pren, a’r peiriant llifanu ongl a’r llif law i dorri’r teiars. Helpodd y torrwr laser ni i sgathru ein geiriau ynghylch natur perthynas gadarnhaol ar deils llechi. Byddwn ni’n hongian y rhain ar ein coeden deiars gan ddefnyddio gwifrau trydan lliwgar.

Ar hyd y ffordd, fe greon ni logo ein prosiect R&R allan o sgrap,  a chalon allan o gadwyni a drychau ochr. Mae pob drych yn adlewyrchu rhywun neu rywbeth arbennig yn ein bywydau.

 

   

Ein coeden berthnasoedd

Fe gawson ni ganiatâd arbennig i roi ein cerflun byw ar y trothwy rhwng mynedfa’r ysgol a’r gymuned leol. Pan fyddwn ni wedi gorffen, rydyn ni’n gobeithio y gallwch chi weld y drychau ochr yn disgleirio yn yr heulwen o bell.

Ein breuddwyd yw y bydd y goeden yn symbol o bwysigrwydd ein perthnasoedd i ni a’n cymuned, a pha mor bwysig gallan nhw fod.

Ar y ffordd, fe fuon ni’n rhannu ein stori ar fyrddau arddangos yn neuadd fwyd y cantîn, ac ar bosteri yn yr ystafell ddosbarth Dylunio a Thechnoleg. 

Cliciwch yma i gael mwy o syniadau ac adnoddau ynghylch sut gall celf weledol gynyddu ymwybyddiaeth a chreu newid.

 

GEIRIAU TEIMLO’N DDA

agos 

cyfartal

bod yno 

atgofion

ymddiried 

gofal 

hwyl

deall 

cwlwm

pethau da 

caredigrwydd 

sicrwydd

teimlo’n dda 

meddal

cyfeillgarwch 

teimlo’n ddiogel

annibyniaeth 

parod i helpu

cyfle i chwerthin

cael gofal 

cariad

cefnogaeth

 

ARTISTIAID CELF SOTHACH ERAILL SYDD WEDI’N HYSBRYDOLI

Asim Waqif 

Beverley Glover 

Chakai Booker 

Dilmprizulike 

Ivor Davies 

Jean Tinguely 

Marisa Merz

Tim Noble a Sue Webster Cornelia Parker

HA Shult 

Anne Carrington 

Margaret Hogan

DANDILION (2012)

gan Karen Cusolito

“Mae’r Dant-y-llew yn un o lawer sydd wedi cael hyd i ffordd trwy’r craciau ym mhalmentydd y dref. Mae mor gymdeithasol ag  y mae’n hardd, ac mae wedi’i ddylunio i oroesi yn yr amodau caletaf. Mae’n sefyll fel symbol o gryfder, gobaith a gwydnwch”

Uchder: 20 tr. Ôl troed: 14tr X 14tr. Pwysau: 2 dunnell. Cyfansoddiad: Dur a arbedwyd. Peirianneg: Yn sefyll heb gynhaliaeth

 

Cliciwch yma i ddysgu sut i wneud eich Gwe Perthnasoedd eich hun

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos yma:

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!