twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Hafan
  • Croeso
  • Gwybodaeth
  • Diogelwch a Chymorth
  • Dechrau Arni
  • Syniadau ar Gyfer Newid
  • Gwneud I Bethnasoedd Cadarhaol Gyfri
  • DIY
  • Gwneud I Agenda Gyfrif
  • Lawrlwytho Agenda
  • Adnodd Agenda
  • Crush

1: Meddyliwch am y pethau sy’n bwysig i chi mewn perthynas. Beth ydych chi ei eisiau, a pham?

2: Dewiswch berthynas sy’n arbennig i chi. Gallai fod yn rhywun rydych chi’n mynd allan gyda nhw, ffrind, aelod o’r teulu neu anifail anwes. Gallai fod yn wrthrych (e.e. ffotograff neu degan  meddal) neu’n lle (e.e. cuddfan neu fan ymgynnull leol).

3: Ewch i www.bishuk.com ac argraffu graff perthynas. Gweithiwch eich ffordd drwy’r segmentau a nodwch rai o’r pethau sy’n creu perthynas dda. Graddiwch nhw o 0-9.

4: Cysylltwch y dotiau i greu eich gwe berthynas bersonol.

5: Torrwch y siâp terfynol allan a’i ddefnyddio fel templed i greu eich addurniadau eich hun. Gallen nhw fod o bren, acrylig, cerdyn - pa ddeunyddiau bynnag gallwch chi ddod o hyd iddyn nhw. 

6: A oes coeden ar dir yr ysgol neu’r ganolfan gymuned lle gallwch chi hongian eich addurniadau? Efallai gallwch chi greu eich strwythur hongian eich hun o wifrau neu ffyn? Beth am eu harddangos ar un o’r diwrnodau cynyddu ymwybyddiaeth?

   Cliciwch yma i ddarllen yr astudiaeth achos Adfer Perthnasoedd!

Cyn i chi ddechrau addasu’r gweithgaredd hwn ar gyfer y plant a’r bobl ifanc yn eich lleoliad, darllenwch yr adran ar Ddiogelwch a Chefnogaeth.

Lawrlwythwch y gweithgarwch DIY hwn yma:

PDF ICON

Lawrlwythwch yr adnodd AGENDA cyfan yma!