twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

   

Rydyn ni’n ysgol gynradd fawr ar gyrion un o’r dinasoedd mwy yng ngogledd Lloegr. Mae tua 700 o ddisgyblion yn dod i’n  hysgol ni; mae 97% yn dod o gefndiroedd du ac ethnig lleiafrifol ac mae Saesneg yn iaith ychwanegol i lawer ohonyn nhw. Mae ein cwricwlwm Addysg Bersonol, Gymdeithasol ac Iechyd ysgol gyfan, sef ‘Byw a Thyfu’, wedi ymrwymo i ddysgu gyda’n pobl ifanc am y materion maen nhw’n eu hwynebu yn eu bywydau. Rydyn ni’n annog adborth gan ein pobl ifanc fel rhan annatod a hanfodol o’r broses hon ac rydyn ni’n gwneud hynny mewn nifer o ffyrdd allweddol. 


  

“Gall ein ‘Basged Gofyn’ ein helpu ni i archwilio’r materion hynny efallai nad yw pobl ifanc eisiau eu codi’n bersonol. Mae cwestiynau’n cael eu hysgrifennu ar ddarn o bapur a’u rhoi yn y fasged. Mae’r cwestiynau hynny’n cael eu casglu ac yna, trwy wersi, amser dosbarth, y cyngor ysgol neu efallai gwasanaeth ysgol, maen nhw’n derbyn sylw.”  (Nyrs Ysgol)

Celfyddiaeth

“Mae celfyddiaeth yn derm sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio celf sydd wedi’i gwreiddio yng ngweithred ‘gwneud’ ac sy’n mynd i’r afael â materion gwleidyddol neu gymdeithasol”

www.tate.org.uk

Mae Guerrilla Girls yn defnyddio celfyddiaeth a chelf brotestio yn effeithiol iawn. Gallwch ddysgu mwy amdanyn nhw yma. 

“Rydyn ni hefyd yn gweithredu polisi  dim tabŵ yn ein hysgol ni. Mae hyn yn golygu, beth bynnag fo’r pwnc, heb unrhyw eithriadau, ein bod ni’n rhoi’r wybodaeth mae ein pobl ifanc ei heisiau, sy’n dod o ganllawiau cenedlaethol, arfer gorau ac ymchwil gyfredol. 

Rydyn ni’n sylweddoli, mewn cymdeithas sydd wedi’i gorlwytho â chyfryngau, ein bod ni’n gallu bod yn ffynhonnell gwybodaeth ddibynadwy a diogel i’n pobl ifanc. I wneud hyn yn effeithiol, mae’n rhaid i ni wrando ar y cwestiynau maen nhw’n eu gofyn i ni” (Pennaeth  Cynorthwyol)


  

Rydyn ni’n cynnal deialog barhaus gyda’n bobl ifanc. Yn ystod amser dosbarth, gall pobl ifanc godi materion maen nhw angen gwybod mwy amdanyn nhw gyda’r athrawon dosbarth, sy’n bwydo’r wybodaeth hon ymlaen i gyngor yr ysgol. 

Gyda chefnogaeth staff mewn sesiynau ffocws, mae aelodau’r cyngor yn datblygu adnodd, gan drafod syniadau a chasglu gwybodaeth cyn datblygu cynllun gwers ar y pwnc. Mae’r wybodaeth yn cael ei rhannu â’r dosbarthiadau gyda hyfforddiant cyfoedion gan aelodau cyngor yr ysgol sy’n cyflwyno’r sesiwn. Mae hyn yn caniatáu i ni edrych ar bynciau cyfredol o’r cyfryngau a’n cymunedau lleol a’u harchwilio trwy hyfforddiant cyfoedion mewn ffordd sy’n teimlo’n gyfforddus ac yn briodol o ran profiad. 

Mae cofnodion cyfarfodydd cyngor yr ysgol yn cael eu rhannu â llywodraethwyr yr ysgol a chyngor y rhieni, fel bod pawb yn gwybod am y gwaith rydyn ni’n ei wneud.

Mae ystafell y cyngor ysgol yn llawn enghreifftiau o’r gwaith celf brotestio sydd wedi cael ei chynhyrchu. 

Mae’r cynghorwyr yn dewis mater maen nhw eisiau ei amlygu a gweithio tuag ato. Mae’r delweddau hyn ar ystod eang o bynciau yn dangos bod yr hyn sy’n cael ei ddysgu yn yr ysgol  yn arwain at ymwybyddiaeth uwch  o amrywiaeth o faterion cymdeithasol.

Mae rhai enghreifftiau o gelf brotestio enwog iawn i’w gweld yma.

 

 

Edrychwch ar enghreifftiau eraill o gelfyddiaeth

 Dysgwch fwy am hawliau plant

Dysgwch fwy am y celfyddydau creadigol ar gyfer iechyd a lles

 Darllenwch am brotestio creadigol wedi’i seilio ar gelf

 Mae llyfrau da ar bosteri ar gyfer newid

Oriel Tate ar gelfyddiaeth

Celfyddiaeth Ai Wei Wei

Nid yw celfyddiaeth ar gyfer oedolion a phobl ifanc yn eu harddegau yn unig

Mae Katy Bauer, artist celfyddiaeth sydd wedi’i lleoli ym Mryste, yn cyflwyno artistiaid celfyddiaeth poblogaidd eraill

Darllenwch fwy am ymwneud â llais myfyrwyr yn feirniadol yn ein hadran, “Gwneud i Lais Gyfri’n Wahanol”. 

I gael gwybod sut mae’r ysgol hon yn gweithio’n greadigol ar rai o feysydd mwy sensitif a heriol Addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb, gweler DIM TABŴS.

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos yma:

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!