Grŵp o fyfyrwyr Blwyddyn 6 (10-11 oed) ydyn ni. Dyma stori ein gwaith gydag ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd er mwyn archwilio cyfeillgarwch, teimladau a pherthnasoedd iach.
Ar y dechrau
Pan ddechreuon ni, roedden ni’n cael trafferth siarad am ein teimladau a’u mynegi.Fe sylweddolon ni fod hynny’n gwneud i ni ymateb mewn ffyrdd annymunol weithiau;
“dadlau pan oedden ni’n methu esbonio wrth ein ffrindiau beth oedd yn bod” (Leo)
“esgus bod popeth yn iawn er ein bod ni’n teimlo’n drist, yn ddig neu’n grac” (Sarah)
Sut datblygodd ein meddyliau
Fe ddysgon ni nad ydyn ni bob amser yn gallu rheoli sut rydyn ni’n teimlo.
Fe sylweddolon ni fod hynny’n iawn, a’n bod ni’n gallu gwneud rhywbeth am y teimladau hynny a’u defnyddio nhw.
Buon ni’n cymryd rhan mewn gweithdai oedd yn ein helpu i siarad am ein teimladau a’u mynegi trwy gelf a chrefft. Gan ddefnyddio iPads, Camerâu a GoPros fe wnaethon ni greu fideos, tynnu ffotograffau a defnyddio’r ‘ap glitsho’ i ddelweddu a newid ein meddyliau a’n teimladau.
Roedd hyn yn wirioneddol bwysig i ni, ac fe wnaeth ein helpu i “ddod â theimladau’n fyw” (Moktar, 11 oed).
Ar ddiwedd y prosiectac wedyn
Nawr rydyn ni’n gwella am fynegi’n teimladau mewn ffyrdd nad ydyn nhw’n brifo nac yn digio pobl eraill. Fe sylweddolon ni hefyd ein bod ni’n profi llawer o deimladau, nid dim ond rhai ‘da neu ddrwg’, ‘iawn neu ddim yn iawn, ‘trist neu hapus’. Weithiau rydyn ni’n teimlo’r rhain i gyd ar yr un pryd, neu ychydig o un a llawer o un arall!
“Cyn y prosiect yma, roedden ni’n cadw’n teimladau i mewn,doedden ni ddim yn trafod teimladau, nawr gallwn ni ddweud wrth bobl sut rydyn ni’n teimlo” (Samara, 10 oed)
Glitsho teimladau, meddyliau a ffrindiau, trwy symud, atomau a sonigraffau
1: Fe ddefnyddion ni ap glitsho symud i ddod â theimladau’n fyw. Yn ein grwpiau o ffrindiau, buon ni’n archwilio’r gwahanol effeithiau glitsho. Roedd hynny’n gadael i ni weld a gwrando ar ein teimladau mewn ffyrdd gwahanol.
2: Fe wnaethon ni ddarganfod,o fynd yn rhy agos at ein gilydd, bod y ffin rhyngon ni’n mynd ynannelwig;
“Roedd yn anoddach symud”
“Anoddach gweld ein gilydd”
“Gwybodaeth yn mynd yn aneglur”
Roedd yr ap hwn yn golygu bod modd i ni archwilioffiniau corfforol a phersonol
3: Roedden ni hefyd yn gallu gweld y cysylltiad rhwng teimladau a sut maen nhw’n teithio ar draws ein cyrff.
“os bydd rhywun yn drist,mae’n symud ymlaen i rywunarall, ac yna i rywun arall”
4: Nesaf, fe ddefnyddion ni’r ap atom flow i feddwl am sut mae symud yn ffurfio teimladau:
“mae teimladau, fel gronynnau, yn arnofio yn yr awyr”
“Mae ein cyrff a’n hymddygiad yn helpu teimladau i deithio”
“pan fydda i’n gweld rhywun yn cael ei oglais, mae’n effeithio arna i hefyd, rwy’n gallu ei deimlo”
“mae fel cysylltiad Wi-Fi, rydyn ni’n cysylltu â’n gilydd” Khalid, 10 oed
5: Roedd yr ap ‘Sonograph’ yn gwneud i hidlwyr y camera newid yn ôl y seiniau roedden ni’n eu gwneud. Buon ni’n archwilio sut mae geiriau’n effeithio ar ein cyrff a’n teimladau.
(Delwedd gyntaf) Dyma ni yn ddistaw/cyn dweud unrhyw beth. Dyma ni pan fuon ni’n llefaru geiriau gwahanol yn uchel.
(Ail ddelwedd) Roedd geiriau gwahanol yn cael effaith wahanol ar ein cyrff.
(Trydedd delwedd) “Maen nhw’n gallu ein brifo ni”, “maen nhw’n cyfyngu arnon ni”, “maen nhw’n gallu teimlo’n dda”
Deunyddiau ddefnyddion ni
Dyfeisiau iPad/tabled: mae llawer o apiau ar gael i’w harchwilio, ond ‘sonograph’, ‘El alef’ ac ‘Atom flow’ oedd ein ffefrynnau
Roedd apiau glitsho fel Sonograph ac ‘El alef’ yn caniatáu i ni archwilio sain a symud
Roedd hidlwyr yr apiau glitsho hefyd yn caniatáu i ni aros yn ddienw
Camerâu fideo/iPads: trwy ddefnyddio’r camera fideo gallwch greu fideos y mae modd eu golygu, eu hidlo, eu harafu a’u cyflymu er mwyn helpu i archwilio eich pynciau eich hun!
Bod yn ddiogel ac yn ddienw
Roedd y gwahanol dechnolegau digidol y buon ni’n eu defnyddio yn caniatáu i ni archwilio ein teimladau ein hunain (ac eraill) mewn gwahanol ffyrdd, a thrwy ddefnyddio’r ap glitsho, mewn ffyrdd diogel a chyfforddus.
Mae llawer o blant yn barnu ei gilydd, o ran beth rydyn ni’n ei ddweud, ei wisgo, ei wneud, ei feddwl a’i deimlo. Trwy weithio gyda chamerâu (delweddau a fideo) a’r ap glitsho, llwyddon ni i weithio mewn grwpiau a thrafod pynciau heb ddatgelu gormod, a thrwy ddefnyddio’r hidlwyr glitsho, roedden ni’n gallu siarad, symud a meddwl yn ddienw.
Teimladau mewn gofod ac amser
Buon ni hefyd yn defnyddio technoleg i archwilio sut mae teimladau’n teithio o fewn (ac ar draws) gwahanol ofodau.
1: Yn gyntaf, fe dynnon ni fapo’r lle chwarae a ble rydyn ni’n symud. Buon ni’n archwilio sut mae mannau gwahanol yn y lle chwarae yn gwneud i nifeddwl, teimlo a gwneudpethau gwahanol.
2: Mae gwahanol dechnegau ffilmioyn creu gwahanol ‘bersbectif gwylio’. Fe ddefnyddion ni gamerâu i archwilio persbectif pobl eraill!
3: Y camera GoPro oedd ein ffefryn oherwydd ei fod yn symud gyda’n cyrff; yn ysgwyd, yn siglo ac yn symud drwy’r amser wrth i ni symud o gwmpas y lle chwarae.
4: Drwy ddefnyddio iPads, fe wnaethon ni gyflymu ac arafu’r fideo i archwilio pa mor fedrus ydyn ni wrth symud. Trwy arafu’r fideos, llwyddon ni i weld bod rhai pobl yn cael y bêl yn amlach nag eraill, a bod rhai pobl yn chwarae’n rhy galed!
5: Buon ni’n archwilio persbectif pobl oedd yn teimlo eu bod nhw’n cael eu gadael allan, yn newydd i’r ysgol, yn ofnus, yn bryderus.
Glitsho Braw
1: Fe ddefnyddion ni’r glitsh i archwilio a thrawsffurfio ein teimladau niferus am bynciau oedd yn destun pryder i ni. Dyma rai o’r teimladau a ddaeth i’r amlwg i ni o derfysgaeth.
“Mae terfysgaeth yn hidlo teimladau da allan”
2: Archwilio rôl y cyfryngau o ran dylanwadu ar ein dealltwriaeth a’n teimladau
“mae’r cyfryngau’n helpu’r hidlydd yma trwy beidio â rhoi’r stori gyfan i ni”
“Roedden nhw ond yn sôn wrthyn ni am y rhan wael, heb ddweud am y gorymdeithio”
3: Rydyn ni eisiau clywed a rhannu rhai hanesion mwy cadarnhaol, felly fe fuon ni’n defnyddio’r ap glitsho i archwilio rhai protestiadau
“Doedden ni ddim yn ddigon hen i fynd i orymdeithio, ond roedden ni’n teimlo’n dda ar ôl Glitsho a siarad amdanyn nhw”
Trawsffurfio teimladau trwy dâp hwyliau a gludwaith
1: Fe ysgrifennon ni’r holl bethau nad ydyn ni’n eu hoffi ac roedden ni eisiau eu newid.
2: Yna, fe dorron ni nhw i fyny, a chreu gludwaith o’n ‘teimladau’, a’u trawsffurfio’n rhywbeth newydd.
3: Buon ni hefyd yn creu siart o deimladau ac emosiynau gyda phennau a thâp lliw.
4: Roedd y tâp hwyliau yn caniatáu i ni archwilio’r teimladau niferussydd gennym ni a pha mor gryf ydyn nhw.
5: Fe greon ni enwau ar gyfer yr holl deimladau gwahanol sydd gennym, weithiau un, weithiau llawer (llun isod).