twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

I gyd-fynd â’r dathliadau ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Ferch, cynhaliodd y Ganolfan Antur Dŵr ym Manceinion ddigwyddiad undydd o weithdai a gweithgareddau celf wedi’u seilio ar ddŵr, gan wahodd merched o grwpiau ieuenctid lleol ar draws yr ardal.

Nod y diwrnod oedd hybu ymwybyddiaeth o’r hunan, pobl eraill a’r amgylchedd, a rhoi lle i ferched 12-19 oed siarad am hawliau merched, gan ymgysylltu â nhw trwy weithgareddau a oedd wedi’u llunio i feithrin ymddiriedaeth a gweithio fel tîm. 

Mae’r Ganolfan Antur Dŵr yn cynnal digwyddiadau i bobl ifanc yn rheolaidd a ‘Noson Menywod Ifanc’ unwaith yr wythnos. Dysgwch fwy yma.

Mae’r Ganolfan Antur Dŵr yn defnyddio dŵr i ymgysylltu â phobl ifanc a’u helpu i ddatblygu perthnasoedd cadarnhaol â nhw eu hunain a phobl eraill. 

Mae canfod cydbwysedd ar y dŵr yn golygu profi eich corff eich hun mewn perthynas â chyrff pobl eraill a’r amgylchedd, gydag adborth yn y fan a’r lle am bob symudiad rydych chi’n ei wneud. 

 Wrth i ni benlinio neu geisio sefyll neu eistedd yn y dŵr ar rywbeth sy’n arnofio, mae’n rhaid ymdopi ag amrywiaeth o rymoedd anghyfarwydd. Mae rhai’n cael eu hysgogi’n awtomatig gan allu ein cyrff i wybod sut i gydbwyso. 

Nid yw cydbwyso’n broses wirfoddol neu wybyddol. Er ein bod ni’n gallu meddwl ‘mae angen i mi gydbwyso’, mae rheoli cydbwysedd yn rhan o waith awtomatig y corff. Mae cydbwysedd dan reolaeth y system nerfol somatig. 

 

 

Nid yw’r teimladau rydyn ni’n eu synhwyro trwy ein cyrff yn gweithio yn yr un ffordd â siarad ac iaith. Mae ein cyrff yn gweithio mewn ffyrdd anwirfoddol (anymwybodol neu awtomatig) yn ogystal â gwirfoddol (ffyrdd ymwybodol). Mae gweithgareddau corfforol fel bod ar gwch neu fwrdd padlo sefyll i fyny ar y dŵr yn ysgogi mathau o gyfathrebu trwy allu ein cyrff i deimlo. 

Mae gweithwyr ieuenctid y ganolfan gamlas yn gweld newidiadau cyflym yn y ffordd mae grwpiau’n gweithredu ar ôl mynd allan ar y dŵr unwaith yn unig ar fwrdd padlo sefyll i fyny enfawr. Efallai nad yw’r merched yn adnabod ei gilydd nac yn rhannu rhyw lawer yn gyffredin. Mae carfanau’n chwalu’n gyflym pan fyddan nhw ar y bwrdd padlo sefyll i fyny yn y gamlas. Mae’r angen i oroesi mewn amgylchedd anghyfarwydd yn ffurfio cysylltiadau. Mae’r cysylltiadau hynny’n parhau yn ôl ar y tir lle mae’r grwpiau’n dod yn llawer mwy na chyfres o unigolion. Mae’r profiad yn parhau ac yn dod yn adnodd y gellir galw arno yn y dyfodol. Gall hyn helpu pobl ifanc i gydweithio’n well, a gall gweithgaredd corfforol gyfryngu’r broses o greu cysylltiadau.

Pan oedden nhw’n cael diodydd a bisgedi ar ôl y sesiwn ar y gamlas, cynigiwyd amrywiaeth o weithgareddau celf â’r nod o siarad am faterion sy’n wynebu llawer o ferched ifanc a menywod. 

Roedd un gweithgaredd, yn arbennig, wedi cynnig canlyniadau cyflym ond trawiadol. Gan ddefnyddio paent crisial a dŵr, crëwyd siapiau a phatrymau ar bapur yn gyntaf, cyn eu blotio â phadiau misglwyf. 

Mae tlodi misglwyf wedi cyrraedd y newyddion fel mater cenedlaethol a rhyngwladol sy’n wynebu llawer o ferched a menywod, gydag un gweithiwr ieuenctid yn dweud bod “Tua 40% o’n merched yn colli’r ysgol ar adeg eu misglwyf”. 

 

 

Mae www.ukyouth.org yn lle da i ddechrau i ddod o hyd i brosiectau gwaith ieuenctid yn eich ardal chi.

Nod y Prosiect Blwch Coch yw darparu cynhyrchion misglwyf rhad ac am ddim i ferched mewn ysgolion ar draws y wlad.

Gweler ymchwil Plan International ar Dlodi Misglwyf a Stigma

Myfyrwyr yn erbyn tlodi misglwyf: pam mae gweithredwyr ifanc wedi gwylltio, gan Emma Jacbs

About Bloody Time: Cyfarfod â’r Gweithredwyr Tlodi Misglwyf

Celf mislif

Blog Ymchwil: Y Wal Fawr o amgylch mislif:  Credoau ac agweddau tuag at fisglwyf yn Tsieina, gan Jessica Lin

Ar Twitter: @feministwebs (grŵp ar-lein sy’n hybu arfer da gwaith ieuenctid ac adnoddau i fenywod a merched) Yr ymgyrchoedd: #endperiodpoverty #freeperiods

Canfu ymchwil a gynhaliwyd gan Faer Llundain, Sadiq Khan, fod tlodi misglwyf yn effeithio ar tua 80,000 o fenywod a merched a bod 17% o ferched yn Llundain yn colli’r ysgol adeg eu misglwyf. Darllenwch y datganiad i’r wasg amdano yma.

 

Dechreuodd Amika George, sydd yn ei harddegau, yr ymgyrch #freeperiods a deiseb ar-lein i’w chyflwyno i’r llywodraeth i fynd i’r afael â thlodi misglwyf. Gwyliwch ei sgwrs TedX “Tlodi Misglwyf : Torri’r Distawrwydd” yma.

 

 

Cliciwch yma i ddefnyddio gallu’r corff i deimlo, canfod a chreu cydbwysedd yn Colli Cydbwysedd

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos yma:

 

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!