1: Cyflwynwch y cymeriad dychmygol ‘Sam’. Dywedwch fod Samyr un oed â nhw ac yn dod o’u cymuned, ond peidiwch â rhoi unrhyw fanylion eraill, fel rhywedd neu ffydd neu anabledd.
2: Trafodwch amrywiol ystyron CWTSH(h.y. cwpwrdd, cwtsho, lle diogel).
3: Rhowch flwch a glanhawr pibell lliw i bob plentyn (neu bâr o blant). Dywedwch wrthyn nhw y byddan nhw’n creu ffigur ffyn o Sam a ‘Cwtsh’ lle bydd Sam yn byw.
4: Defnyddiwch y glanhawr pibell i greu siâp person. Dyma fydd Sam. Wrth iddyn nhw greu Sam, anogwch y plant i feddwl beth allai stori Sam fod. Pwy yw Sam? Sut mae Sam yn edrych? Ble mae Sam yn byw a chyda phwy? Beth mae Sam wir yn mwynhau ei wneud? A oes unrhyw beth sy’n gwneud Sam yn ofnus?Pa freuddwydion allai fod gan Sam at y dyfodol?
5: Rhowch y blwch ar ei ochr, fel bod y ddau fflap sy’n agor yn troi’n ddrysau mynediad. Addurnwch y tu allan i’r blwch (ond nid y drysau) â’r holl wahanol bethau, pobl a lleoedd sy’n creu bywyd Sam.
6: Ar ochr allanol y drysau, ysgrifennwch beth allai pobl ei feddwl neu ei ddweud wrth Sam wrth weld Sam ar y stryd. Dewiswch ysgrifennu dau beth neu fwy.
7: Ar ochr fewnol UN o’r drysau, ysgrifennwch ddau beth (neu fwy) y gallai rhywun eu darganfod am Sam petaen nhw’n siaradâ Sam am 5 munud.
8: Ar ochr fewnol y drws arall, ysgrifennwch ddau beth (neu fwy)y gallai cydnabod (e.e. cymydog, rhywun arall yn y dosbarth, ffrind i’r teulu) ei wybod am Sam.
9: Y tu mewn i’r cwtsh, ysgrifennwch rywbeth na fyddai neb ond rhywun sy’nadnabod Sam yn dda iawn yn ei wybod, neu efallai na fyddai neb ond Sam ei hun yn ei wybod [os yw’n anodd ysgrifennu tu mewn, agorwch y blwch ac yna’i gau eto â thâp]
10: Gan ddefnyddio’r papur a ddarniwyd, rhowch Sam (y ffigur glanhawyr pibell) rywle y tu mewn neu’r tu allan i’r Cwtsh. Os oes digon o lanhawyr pibell ac amser, gallai’r plant greu ffigurau eraill i fod gyda Sam (e.e. ffrindiau, teulu, anifeiliaid anwes, beiciau ac ati)
Myfyrdodau
Gofynnwch am wirfoddolwyr i rannu eu cwtsh gyda’r grŵp. Archwiliwch nodweddion tebyg a gwahaniaethau. Trafodwch sut brofiad oedd y dasg iddyn nhw:
Oedden nhw’n meddwl byddai eu fersiwn nhw o Sam neu eu cwtsh yr un fath ag unrhyw un arall yn y dosbarth? Yn y byd?
Beth nad yw pobl yn sylwi arno wrth edrych ar y tu allan yn unig?
Pam mae hawliau hunaniaeth yn bwysig?
Beth sydd ei angen ar blant er mwyn diogelu a gwireddu eu hawliau hunaniaeth?
Sut gallen ni rannu’r pethau rydyn ni wedi’u dysgu gydag eraill?
Cloi
Atgoffwch pawb fod gan bob unigolyn hunaniaeth unigryw y gallan nhw ymfalchïo ynddi.Atgoffwch nhw fod unigoliaeth pawb yn bwysig i’r gymuned, a soniwch am hynny yng nghyswllt gwerthoedd eich grŵp neu eich ysgol. Gwnewch yn siŵr fod yr holl blant yn gwybod at bwy y gallan nhw droi i siarad a chael cefnogaeth neu gyngor (gweler yr adran Diogelwch a Chefnogaeth).
Gweithgareddau estyn
Defnyddiwch y blychau i greu wal Hunaniaeth Cwtsh, neu fobeil sy’n hongian, a’i arddangos yn rhywle lle gall eraill ei weld (e.e. gallech chi greu siâp esgid fawr, a’i alw’n ‘Cerdded yn Esgidiau Sam’). I gyd-fynd â’r arddangosfa, gallech chi roi dyfyniadau ysbrydoledig am hawl plant i gael hunaniaeth; a rhyddid rhag gwahaniaethu neu gam-drin ar sail hunaniaeth (Erthygl 8 CCUHP).
Lluniwch gerdd, cân neu ddrama o rai o’r hanesion sy’n disgrifio nodwedd wahanol a amddiffynnir.
Cyn i chi ddechrau addasu’r gweithgaredd hwn ar gyfer y plant a’r bobl ifanc yn eich lleoliad, darllenwch yr adranar Ddiogelwch a Chefnogaeth.