twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Hafan
  • Croeso
  • Gwybodaeth
  • Diogelwch a Chymorth
  • Dechrau Arni
  • Syniadau ar Gyfer Newid
  • Gwneud I Bethnasoedd Cadarhaol Gyfri
  • DIY
  • Gwneud I Agenda Gyfrif
  • Lawrlwytho Agenda
  • Adnodd Agenda
  • Crush

Mae cerddoriaeth, gyda geiriau neu hebddynt, wedi cael ei defnyddio ers tro fel offeryn ar gyfer mynegiant gwleidyddol a hybu newid cymdeithasol a diwylliannol, o anthemau yn erbyn rhyfel i rapiau protestio.

Trwy gyfuno cân a ffilm, gwnaeth grŵp o blant yn eu harddegau fideo cerddoriaeth yn erbyn anffurfio organau rhywiol merched (FGM). Gwnaed ‘My Clitoris’ gan bobl ifanc o’r elusen Integrate UK. Mae’r gân yn pwysleisio’n eglur nad yw unrhyw fath o FGM yn dderbyniol, yn ogystal ag adennill y gair ‘clitoris’ a pherchenogaeth menywod ar eu cyrff eu hunain. 

Dechreuodd tair mam ffeministaidd angerddol gôr i bobl ifanc 10-16 oed, o’r enw #SHARP! Roedden nhw’n canu caneuon drwy gydol misoedd yr haf a oedd yn hwyliog, yn gyfredol ac yn cynnwys negeseuon cadarnhaol ac ysbrydoledig i fenywod a merched. Yn ogystal â chanu, fe wnaethon nhw hefyd ddefnyddio’r corff fel offeryn taro!  

16 cerddor sydd wedi herio rhywiaeth yn  y diwydiant cerddoriaeth.

Mae pum merch yn eu harddegau yn brwydro yn erbyn ymosodiadau rhywiol mewn gigiau cerddoriaeth  - @girlsagainst. 

Dysgwch fwy am sut mae cerddoriaeth yn cyfrannu at siarad yn erbyn anghyfiawnder trwy Justice Through Music, Campaign Choirs a Girls Rock Camp Alliance.

Mae Rewind-Reframe yn blatfform ac ymgyrch ar-lein, a gefnogir  gan Roi Terfyn ar Drais yn erbyn Menywod (EVAW), Imkaan ac OBJECT, er mwyn i fenywod ifanc adnabod a herio  hiliaeth a rhywiaeth mewn fideos cerddoriaeth.

 

Lawrlwythwch y PDF Syniad am Newid yma:

PDF ICON

Lawrlwythwch yr adnodd AGENDA cyfan yma!