twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

 

Eleni rydyn ni wedi bod yn dysgu am gydraddoldeb a hawliau rhywedd a rhyw ar draws y cwricwlwm, ac ym mhob rhan o’r byd.

Gan ddefnyddio’r ‘Rhedfa at Newid’ fe lunion ni fap meddwl o’r holl weithgareddau gwych rydyn ni wedi’u gwneud hyd yma. 

“Wrth wneud y prosiect yma, roeddwn i’n rhyfeddu at bopeth rydyn ni wedi’i wneud” (myfyriwr, 11 oed)

 

 

Mae CYFIAWNDER cymdeithasol yn ymwneud â chydraddoldeb, tegwch a lles i bawb.

Mae’n ymwneud â dosbarthu cyfoeth, cyfleoedd a breintiau o fewn cymdeithas.

“Mae unigoliaeth yn yn ildio i’r frwydr dros gyfiawnder cymdeithasol”

 

“Un o’r nodau yn ein hysgol ni yw meithrin disgyblion sy’n ymwybodol o’u rôl mewn cymdeithas, sy’n cofleidio amrywiaeth a goddefgarwch i bawb, beth bynnag yw eu rhywedd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hil neu eu crefydd.

Mae’r arddangosfa yn ein cyntedd yn meithrin yr ethos hwn, gan fod y geiriau yma i’w gweld yno: ‘Bod yn wahanol yw’r unig beth sydd gennym ni’n gyffredin. Dewch i ddathlu ein cymuned” (Pennaeth)

Ymdrin â stereoteipiau rhywedd trwy ymgyrchu celfyddydau mynegiannol)

Fe lunion ni ymgyrch a wnaeth i bobl feddwl am effaith niweidiol stereoteipiau rhywedd. Buon ni’n gwisgo mewn pinc a glas am ddiwrnod i gynyddu ymwybyddiaeth o liwiau stereoteipio.

Buon ni hefyd yn creu rhubanau yn null yr ymgyrchwyr dros hawl menywod i bleidleisio (suffragettes) i amlygu’r ffaith bod ein hymgyrch yn ymwneud â materion ehangach hawliau cyfartal. 

Yna fe ddechreuon ni ddeiseb ar change.org i gynyddu ymwybyddiaeth o stereoteipio rhywedd. Ein nod yw parhau i ddatblygu ein hymgyrch yn ystod yr wythnos i entrepreneuriaid, a chyflwyno’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni i wasanaeth ysgol gyfan!  

Creu iMovie i roi sylw i stereoteipiau rhywedd ym myd hysbysebu (Gallu digidol a TGCh)

Fe lunion ni hysbyseb ar iMovie i dynnu sylw at wahanol fathau o stereoteipio rhywedd - dillad, chwaraeon, hobïau, byd hysbysebu a llawer mwy.

 

Cliciwch ar y ddelwedd i ddarllen mwy am sut mae Mali, sy’n 11 oed, yn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhywedd ym myd addysg, cyflogaeth, perthnasoedd a mwy... 

 

Trafod hawliau rhywedd a rhywiol yn ein sesiwn athroniaeth (iechyd a lles)

 

Yn ein sesiynau athroniaeth i blant (P4C) rydyn ni wedi bod yn trafod effaith stereoteipio rhywedd; hawliau rhywedd a rhywioldeb, delwedd y corff, hunaniaeth rhywedd a rhywiol; mynediad cyfartal at addysg.

 

Rydyn ni’n eistedd mewn cylch. Ac rydyn ni’n dilyn ein rheolau, sy’n cynnwys:

  • Llaw allan â’r cledr i fyny os ydych chi eisiau dweud rhywbeth

  • Gwrandewch ar yr unigolyn sy’n siarad. 

  • Parchwch farn pawb arall hyd yn oed os ydych chi’n anghytuno  â nhw. 

 

Fel plant, rydyn ni’n creu ein cwestiynau athronyddol ein hunain  i’w trafod mewn ymateb i sbardun:

“Pam mae rhai merched a menywod yn y byd yn dal i fethu cael addysg?”

“Pam nad yw pobl yn teimlo eu bod nhw’n gallu bod yn nhw eu hunain mewn gwirionedd?”

“A ddylai menywod fedru dewis priodi pwy maen nhw eisiau? “

Pam nad yw menywod yn gallu dewis eu dyfodol? #hawliaucyfartal

In our philosophy for children (P4C) sessions we have been debating the impact of gender stereotyping; gender and sexuality rights, body image, gender and sexual identity; equal access to education.

 

 

Hawliau Merched i gael Addysg

Buon ni’n astudio stori Malala Yousafzai ac ymchwilio i hawliau merched i gael addysg ar draws y byd. 

Fe ddefnyddion ni iaith darbwyllo i ymateb i amrywiaeth o ddyfyniadau gan Malala, gan gynnwys:

“Gall un plentyn, un athro, un llyfr, un pin ysgrifennu, newid y byd.”

“Rydw i’n gryfach nag ofn.”

Fe ddefnyddion ni’r goeden addysg i archwilio beth sy’n gwneud i addysg dyfu.

Fe wnaeth pawb ohonon ni ysgrifennu anerchiad ar hawliau menywod.

 

Rhywedd ac Arweinyddiaeth: ein prosiect arloesol (Dyniaethau, Gwyddoniaeth, Mathemateg a’r Celfyddydau Mynegiannol)

Bu ein Prosiect Arloesol yn canolbwyntio ar ddeall nodweddion arweinydd da. Buon ni’n ymchwilio i sut mae dynion a menywod wedi brwydro dros gyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol ar draws y byd. Hyd yma, maen nhw’n cynnwys Martin Luther King, Gandhi, Rosa Parks, Amelia Earhart, Harvey Milk a Ruby Bridges.

Buon ni’n trafod dyfyniadau, anerchiadau a gweithredaeth oedd yn perthyn iddyn nhw. Fe wnaethon ni ymateb i’r rhain yn ein gwaith ysgrifenedig, mewn anerchiadau, mewn dyfyniadau dyddiadur ac ar ffurf drama.  

Buon ni hefyd yn defnyddio ein sgiliau rhifedd i gasglu ffeithiau am faint o bobl aeth i’w clywed yn annerch neu yr oedd eu gweithredaeth o blaid creu newid wedi effeithio arnyn nhw.  

Merched sy’n Gwrthryfela a Bechgyn sy’n Mentro  bod yn Wahanol (Iaith a Llythrennedd)

Rydyn ni wedi bod yn darllen y llyfrau Rebel Girls a Stories for Boys Who Dare to be Different. Maen nhw’n cynnwys portreadau bywgraffyddol a ffeithiau am bobl arwrol sydd wedi newid y byd, ac wedi herio neu anwybyddu stereoteipiau rhywedd a rhywiol mewn rhyw ffordd. 

Mae rhai ohonon ni wedi creu pamffledi ar fechgyn a dynion rydyn ni’n eu hedmygu. 

Gan ddewis un ffigur arwrol, buon ni’n creu stribedi cartŵn a hefyd yn ysgrifennu am pam roedden nhw’n haeddu eu lle yn y llyfrau.

Dysgwch fwy am y rolau pwerus mae menywod wedi’u cyflawni ym mywyd a hanes Cymru.

 

Menywod ym myd Gwyddoniaeth (Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Mathemateg a Rhifedd) 

Gan barhau â’n thema arweinyddiaeth, buon ni’n archwilio rolau arloesol menywod ym myd Gwyddoniaeth, a chreu i-movie am eu gwahanol effeithiau ar gymdeithasol. 

Er enghraifft, fe ddysgon ni am wrthiant aer trwy lunio awyrennau papur wrth i ni drafod cyflawniadau rhyfeddol Amelia Earhart. 

Mae hanes menywod ym myd gwyddoniaeth yn dangos bod y frwydr yn werth ei hymladd. 

Merched mewn STEM - cenhedlaeth newydd o fenywod ym myd gwyddoniaeth yng Nghymru

 

 “Mae menywod a merched yn parhau i ddioddef gwahaniaethu a thrais ym mhob rhan o’r byd.

Mae cydraddoldeb rhywedd nid yn unig yn hawl ddynol sylfaenol, ond yn sylfaen angenrheidiol ar gyfer byd heddychlon, ffyniannus a chynaliadwy.

Bydd sicrhau bod menywod yn cael mynediad cyfartal at addysg, gofal iechyd, gwaith gweddus, a chynrychiolaeth mewn prosesau gwneud penderfyniadau gwleidyddol ac economaidd yn sbarduno economïau cynaliadwy ac o fudd i gymdeithasau a’r ddynoliaeth yn gyffredinol” (UNESCO) 

Mae’n bwysig dysgu am sut mae pobl eraill wedi newid y byd, oherwydd mae’n ysbrydoli pobl eraill.

Rwy’n teimlo mor falch wrth wneud hyn. 

O’r holl brosiectau rydyn ni wedi’u gwneud, rwy’n credu mai Harvey Milk yw’r GORAU.

Rwy’n teimlo bod beth rydyn ni wedi bod yn ei wneud wedi fy neffro. 

Roeddwn i wrth fy modd yn gwneud y prosiect hwn, oherwydd mod i’n wahanol. Dydw i ddim yn hoffi ffrogiau pinc, ac mae’n well gen i chwarae pêl-droed. Ac mae’r gwersi hyn wedi dangos mod i’n gallu gwneud hynny. 

Roeddwn i’n dwlu ar bob rhan ohono fe!

Rydw i’n hapus oherwydd bod pobl yn gwneud rhywbeth am y broblem hon. 

Mae’n fy ngwneud i’n drist pan fydda i’n clywed pobl yn cael eu stereoteipio yn ôl rhywedd. 

Roeddwn i wrth fy modd yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, oherwydd mae’n dangos angerdd pawb sy’n hoffi gwahanol bethau, p’un a ydych chi’n fachgen, yn ferch, yn fenyw neu’n ddyn. 

Roeddwn i wrth fy modd yn creu’r rhubanau hawliau rhywedd, oherwydd bod pawb ym mlwyddyn 6 wedi’u gwisgo nhw! 

Roeddwn i’n teimlo’n hapus yn dysgu am hyn, oherwydd mae’n ysbrydoli pobl sy’n hoyw neu’n lesbiaidd. 

 

 

Yn y Prosiect Parch at Rywedd, cewch adnoddau i athrawon sy’n ceisio helpu plant a phobl ifanc i ddeall, cwestiynu, a herio anghydraddoldeb rhywedd a thrais.

I gael rhagor o syniadau ac adnoddau ar sut i wreiddio dull gweithredu ysgol gyfan o ymdrin â chydraddoldeb rhywedd i sicrhau perthnasoedd iach, ewch i’r Bingo Gwylio Rhywedd.

Rhowch gynnig ar ein Chwilair Gweithredwyr Ffeministaidd

30 llyfr plant ffeministaidd y dylai pob plentyn eu darllen

Cydraddoldeb Rhywedd yw 5ed Nod Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig. Mae rhagor o wybodaeth amdano yma.

Mae’r ymgyrch #DYMAFI, sy’n ymdrin â stereoteipiau rhywedd niweidiol, ac @bywhebofn yn ffordd wych o ddechrau trafodaeth ar ffyrdd unigol ac ar y cyd o frwydro dros gyfiawnder rhywedd mewn gwers P4C. 

 

 

Cliciwch yma i greu rhubanau Enfys dros Gydraddoldeb rhwng y rhywiau!

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos yma:

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!