twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

 

Rydyn ni’n grŵp o fenywod ifanc (11-16 oed) a gafodd gyfle i greu ein cylchgrawn ein hunain i sôn am y materion sy’n effeithio arnon ni yn ein cymuned. Rydyn ni’n cyfarfod bob wythnos ar ôl ysgol ac yn cael ymchwilio, ysgrifennu, golygu a dylunio ein cylchgrawn ein hunain, ‘Eastern Chatter’, sy’n cael ei gynhyrchu ar-lein ac mewn print. 

Mae gweithio ar ein cylchgrawn i ferched, ‘Eastern Chatter’, yn ein helpu ni i deimlo ein bod ni’n gallu chwarae rôl weithredol yn ein cymuned, a chael llais i rannu’r pethau rydyn ni a menywod ifanc eraill yn eu profi, o ddelwedd negyddol o’r corff a phwysau gan gyfoedion i gydraddoldeb rhywedd ac arweinyddiaeth.

Rydyn ni wedi gwahodd amrywiaeth o fenywod i gael eu cyfweld a’u cynnwys yn ein cylchgrawn, gan gynnwys newyddiadurwr a ffotograffydd ffasiwn, ac mae cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn gweithdai ar themâu i’w cynnwys yn y cylchgrawn, gan gynnwys bwlio, delwedd o’r corff a pherthnasoedd.

Beth yw barn merched y cylchgrawn am gydraddoldeb rhywedd?

“Dylen ni frwydro i sicrhau bod pobl yn gwneud penderfyniadau gwell. Does dim gwahaniaeth rhwng dynion a menywod. Ond nid yw merched yn credu eu bod nhw’n gallu arwain a rheoli - mae’r rhan fwyaf o ferched eisiau gwneud colur a gwallt yn unig, ond stereoteip yw hynny”

“Rydw i’n teimlo gyffrous i fod yn rhan o’r prosiect. Rydw i’n credu fy mod i wedi dod yn fwy hyderus, mae fy Saesneg a fy sgiliau cyfrifiadur wedi gwella, ac rydw i wedi gwneud ffrindiau”

“Rydyn ni’n credu bod cydraddoldeb rhywedd yn bwysig iawn, ond nid yw’n bwnc sy’n cael ei drafod yn aml iawn”

 

Dyma rai cylchgronau ysbrydoledig dan arweiniad pobl ifanc: 

• Cylchgrawn Gal Dem

• Cylchgrawn Man Dem

• Muslim Girl

• Black Girl Dangerous 

• Spare Rib

I gael mwy o wybodaeth am gydraddoldeb rhywedd, ymwelwch â’r canlynol:

• Cymdeithas Fawcett

Dysgwch am ymgyrchoedd #becauseIamagirl a #learnwithoutfear Plan International. 

Darllenwch eu hadroddiadau:

• Busnes Anorffenedig Hawliau Merched 

• Hawliau Merched yn y Deyrnas Unedig

Dilynwch #whatireallyreallywant a chymerwch ran mewn camau gweithredu i Drechu Tlodi Eithafol, Brwydro yn erbyn Anghydraddoldeb ac Anghyfiawnder a Rhoi Terfyn ar y Newid yn yr Hinsawdd.

Yn 2015, addawodd arweinwyr y byd i roi merched a menywod yn gyntaf pan lofnodon nhw’r Nodau  Datblygu Cynaliadwy i drechu tlodi, datrys y newid yn yr hinsawdd a mynd i’r afael ag anghydraddoldebau. Dilynwch eu hymgyrch: www.globalgoals.org

Cliciwch yma i gael gwybod sut i greu eich Cylchgrawn Cydraddoldeb Rhywedd eich hun!

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos yma:

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!