twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

 

Grŵp o ferched Blwyddyn 11 ydyn ni a oedd wedi cydweithio ar y prosiect Materion Perthnasoedd. Fe gawson ni gyfle i ddatblygu ein syniadau ynghylch teimlo’n ddiogel ac yn anniogel yn ein cymuned. Dyma hanes beth wnaethon ni.

 

  • Fe roeson ni gylchoedd o amgylch mannau ar fap lleol lle roedden ni’n teimlo’n ddiogel ac yn anniogel.

  • Fe ddewison ni ffilmio yn ein parc lleol gan fod hwnnw’n lle sy’n gallu bod yn ddiogel ac yn anniogel.

  • Fe gasglon ni luniau a sain: ein sgyrsiau, cyrn ceir, seirenau, gatiau’n gwichian, chwerthin, sŵn traed, chwarae ar y siglenni a’r chwyrligwgan.

  • Fe ffilmion ni symudiad a sŵn ‘y sgert pren mesur’ a lunion ni yn ein clwb cinio Materion Perthnasoedd.

  • Fe wylion ni’r lluniau a thaflunio delweddau ar ein hwynebau, ein dwylo a’n stumogau gan ddefnyddio taflunydd bach.

  • Fe greon ni’r gerdd, “Chaiff Geiriau Ddim fy Nghaethiwo”.

  • Daeth ein ffilm fer 5 munud yn rhan o ffilm fwy am ble rydyn ni’n byw. Enw’r ffilm yw GRAPHIC MOVES. Fe fuon ni’n gweithio gyda llunwyr ffilmiau proffesiynol, ond gallech chi ei chreu eich hun yn ddigon rhwydd.

  • Mae ‘Graphic Moves’ wedi cael ei dangos mewn gwasanaethau ysgol, lleoliadau celfyddydau a digwyddiadau ar gyfer pobl sy’n gweithio gyda phlant.

"Roedd yn wirioneddol dda gwneud plant eraill yn ymwybodol o brofiadau merched - ac fe wnaeth i ni deimlo'n well”

“Roedd hwn yn brofiad newid bywyd – nid dim ond i ni, ond i eraill hefyd”

BETH YW AFLONYDDU AR Y STRYD?

“Aflonyddu ar sail rhywedd ar y stryd yw sylwadau ac ystumiau digroeso, a gweithredoedd sy’n cael eu gorfodi arnoch chi mewn man cyhoeddus heb eich cydsyniad ac sydd wedi’u cyfeirio atoch chi oherwydd eich rhyw neu eich rhyw canfyddedig, eich rhywedd, eich mynegiant o rywedd, neu eich cyfeiriadedd rhywiol. Gall gynnwys chwibanu a syllu digroeso, ymddygiad rhywiaethol, homoffobig neu drawsffobig sarhaus, ceisiadau cyson am eich enw, eich rhif neu ble rydych chi’n mynd ar ôl i chi wrthod, enwau, sylwadau a gofynion rhywiol, dilyn, fflachio, gafael ynoch, ymosodiad rhywiol, a threisio”.

Addaswyd o www.stopstreetharassment.org/about/what-is-street-harassment

CHAIFF GEIRIAU DDIM FY NGHAETHIWO

Fe waeddoch chi rywbeth arna i 

ac roeddwn i eisiau ymladd nôl

Roeddwn i’n rhy ofnus achos 

roeddwn i’n meddwl byddech chi’n ymosod

Peidiwch â’m beirniadu 

Peidiwch â’m rheoli 

Peidiwch â’m darllen 

Peidiwch â bîpio arna i

Nes i chi gerdded milltir 

yn fy esgidiau

Ond hyd yn oed wedyn 

Fyddwch chi byth yn gwybod

Beth rwy wedi gorfod ei wynebu

Siaradwch â fi 

Gwrandewch arna i 

Deallwch fi 

Teimlwch beth rwyf fi’n teimlo

Dyw sgwrs ddim

 yn brifo neb

â dweud y gwir,

gallai wneud i fi deimlo 

ychydig yn llai crac

TEIMLWCH BETH 

RWYF FI’N TEIMLO

Gwrandewch arnon ni’n darllen ein cerdd yma.

Fe gyflwynon ni ein stori i ymchwiliadau’r Pwyllgor Dethol ar Fenywod a Chydraddoldeb ynghylch aflonyddu rhywiol mewn mannau cyhoeddus a thrais ac aflonyddu rhywiol mewn ysgolion.

 

Mudiad rhyngwladol yw hollaback! i ddileu aflonyddu mewn mannau cyhoeddus.

Gwyliwch y fideo pwerus yma gan Imkaan ac EVAW ar fenywod ifanc du ac o leiafrifoedd ethnig yn y Deyrnas Unedig yn codi llais aflonyddu rhywiol mewn mannau cyhoeddus. 

imkaan.org.uk

www.endviolenceagainstwomen.org.uk

Darllenwch am gasineb at fenywod fel trosedd gasineb a gwneud ‘up-skirting’ yn drosedd

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos yma:

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!