twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

Paratoi

Cyn i chi ddechrau, darllenwch yr adran ar ddiogelwch a chefnogaeth. Mae’n hollbwysig cynllunio dadl nad yw’n atgyfnerthu stereoteipiau sydd eisoes yn bodoli.

Gweler yr adran ‘Deall Rhywedd’ yng Nghanllawiau Addysg Rywioldeb Gynhwysfawr 2018 UNESCO ar gyfer amcanion dysgu priodol o ran datblygiad a’r berthynas rhwng normau rhywedd, anghydraddoldeb rhywedd a thrais rhywiol ac ar sail rhywedd. 

Casglwch adnoddau o ffynonellau rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw, fel y rhain (mae mwy wedi’u rhestru ar y diwedd):

Gadewch i Deganau fod yn Deganau

Mae stereoteipiau’n eich atal rhag gwneud pethau

Gweithgaredd

1: Dewiswch stereoteip doeddech chi ddim yn gwybod amdano o’r blaen,  er enghraifft: ‘Mae pob plentyn yn gwisgo ffrogiau’. (Mae rhai annisgwyl wedi’u crynhoi yma).

2: Gyda’r dosbarth, ymchwiliwch i hyn a stereoteipiau eraill o amgylch y byd ac ar hyd hanes.

3: Crëwch ddwy linell ddychmygol sy’n mynd ar draws eich ystafell ddosbarth neu’ch lle. Mae un yn llinell hanes ac mae’n croestorri â llinell arall o leoliadau ar draws y byd. Gosodwch nodiadau gludiog i nodi cyfnodau a lleoliadau.

4: Rhannwch eich stereoteipiau annisgwyl ac yna gofynnwch i’r disgyblion leoli eu hunain ar y llinellau mewn amser a lle.

5: Cychwynnwch ddadl trwy ddilyn y stereoteip ar draws y byd ac ar hyd hanes. A yw stereoteipiau’n ddefnyddiol? Os nad ydyn nhw’n sefydlog,  beth mae hyn yn ei ddweud wrthyn ni?

Defnyddiwch gymhorthion gweledol a ffeithiau diddorol i ysgogi’r trafodaethau,  fel yr erthygl hon am wisgo trowsus am fechgyn. 

Gweithgaredd Estyn

Dewch o hyd i stereoteip nad oeddech chi’n gwybod amdano o’r blaen a dysgwch amdano, pa mor hir y mae wedi bodoli ac a yw’n bodoli ar draws y byd.

Defnyddiwch hyn i’ch ysbrydoli a llenwch gapsiwl amser â’r stereoteipiau rydych chi’n credu y byddan nhw’n diflannu yn y dyfodol a’r rhesymau pam.

Ewch â’ch capsiwl amser ar daith a rhannwch ef â dosbarth mewn grŵp blwyddyn gwahanol.

Helpwch nhw i ymuno â’r ddadl a chreu a rhannu eu capsiwlau amser eu hunain!

 

I weithio mwy gyda stereoteipiau rhywedd, darllenwch a gwyliwch ymgyrch #dymafi Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â chydnabod sut gall normau rhywedd ac anghydraddoldeb rhywedd effeithio ar ein bywydau.

Rhowch gynnig ar FINGO GWYLIO RHYWEDD! sy’n archwiliad creadigol cyfranogol o ddull gweithredu ysgol gyfan tuag at gydraddoldeb rhywedd.

DYLECH...

wneud yn siŵr eich bod yn defnyddio iaith gadarnhaol wrth gyflwyno stereoteipiau. Yn lle dweud ‘nid yw pobl yn’, neu ‘nid yw plant ysgol yn gallu’, gwnewch y datganiad yn gadarnhaol, fel ‘mae pawb yn gallu’. Mae cyflwyno pynciau yn y modd hwn yn sicrhau nad oes neb yn teimlo fel petai’n cael ei osod ar wahân os yw eisoes yn ddigon ffodus i fod yn chwalu’r stereoteip hwnnw!

    Cliciwch yma i ddarllen yr astudiaeth achos Dadlau Ynghylch Stereoteipiau Rhywedd!

Lawrlwythwch y gweithgarwch DIY hwn yma:

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!