NEGESEUON ALLWEDDOL O’R YMCHWIL ‘CODI LLAIS!’ (plant 10-12 oed)
Mae plant yn dysgu am rywedd a rhywioldeb cyn gynted â’u bod yn ymuno â’r byd cymdeithasol - Mae plant yn llywio ac yn dysgu am y ffyrdd croesebol y mae rhyw, rhywedd a rhywioldeb yn ffurfio pwy ydyn nhw, sut maen nhw’n teimlo yn eu cyrff, beth gallan nhw ei wneud, ble gallan nhw fynd, sut maen nhw’n uniaethu â phobl eraill a sut mae pobl eraill yn uniaethu â nhw.
Dygymod â rhywiaeth pob dydd - Mae’r pwysau i gydymffurfio â normau rhywedd yn hollbresennol mewn bywydau plant, ar-lein ac all-lein.
Mae diwylliannau sboner a wejen yn gyffredin ym myd cymdeithasol plant, ond yn cael eu profi mewn ffyrdd amrywiol - Mae rhai plant yn teimlo pwysau i gymryd rhan mewn diwylliant sboner-wejen yn yr ysgol gynradd, sy’n ei gwneud hi’n anodd i fachgen a merch gynnal cyfeillgarwch yn yr ysgol. Roedd rhai plant wedi esgus eu bod nhw’n gefndryd i osgoi gorfod ‘paru’.