EIN GWEITHDY LEGO
Fe ddechreuon ni’r sesiwn 45 munud trwy ofyn i’r plant Blwyddyn 6 ysgrifennu ar nodyn gludiog enw eu hoff degan pan oedden nhw’n tyfu i fyny. Yna, fe gymharon ni sylwadau’r merched a’r bechgyn a gofyn a allai bechgyn hoffi ‘my little pony’ neu a allai merched hoffi ‘power-rangers’. Roedd hynny wedi ein hysgogi ni i drafod sut mae llawer o deganau’n cael eu marchnata’n wahanol i ferched a bechgyn (e.e. lliw, adrannau gwahanol yn y siopau, hysbysebion ac ati).
Fe rannon ni’r ffaith mai lliw poblogaidd i fechgyn oedd pinc yn wreiddiol, ac mai dim ond yn y 1950au y dechreuodd gael ei gysylltu â merched a benyweidd-dra! Yna, buon ni’n trafod ychydig ar hanes rhywedd Lego, a sut mae’n cael ei farchnata’n wahanol i ferched erbyn hyn (gweler brand ‘Lego Friends’). “Ystyr Lego yw chwarae’n dda,” medden ni, “ond sut gallwn ni chwarae’n dda os yw Lego’n atgyfnerthu stereoteipiau rhywedd?”