twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

 

Ymdrin â diwylliant bwlio mewn ysgolion trwy gelf, storïau, drama, help llaw a chwtsh.

Mae ‘Stori Sam’ yn benllanw ymgynghoriad mawr gan Gomisiynydd Plant Cymru, lle casglwyd barn dros 2,000 o blant a phobl ifanc a bron 300 o weithwyr proffesiynol ynghylch profiadau cyfoes o fwlio yng Nghymru. Cynhyrchodd dadansoddiad o’r deunydd gan blant a phobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ganfyddiadau allweddol mewn adroddiad gydag argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, ysgolion ac awdurdodau lleol a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2017.

‘Stori Sam:  Gwrando ar brofiadau plant a phobl ifanc o fwlio yng Nghymru.’

Mae’r astudiaeth achos hon yn rhannu peth o’r broses ac yn rhoi syniadau i ymarferwyr ynghylch sut mae defnyddio ‘Stori Sam’ i archwilio bwlio rhywiol  ac ar sail rhywedd yng nghyd-destun ehangach hawliau plant a thegwch.

Pan gaiff plant eu bwlio, mae eu hawliau, o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP), yn cael eu torri. Elfen allweddol o atal bwlio yw sefydlu dull gweithredu seiliedig ar hawliau mewn ysgolion. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn adroddiad Comisiynydd Plant Cymru ‘Y Ffordd Gywir, dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant i addysg yng Nghymru’.

Casglu profiadau trwy storïau

I archwilio canfyddiadau plant o fwlio, fe wnaeth ‘Stori Sam’ gynnwys plant a phobl ifanc mewn ymarferion alldaflol a oedd yn caniatáu iddyn nhw fynegi eu teimladau a’u profiadau trwy gymeriad dychmygol o’r enw ‘Sam’. Gofynnodd tîm y Comisiynydd i blant adrodd ‘Stori Sam’, a dywedwyd wrthyn nhw fod Sam yr un oed â nhw, yn dod o’u cymuned ac yn cael ei fwlio.  Ni nodwyd rhywedd Sam. Ar gyfer plant oed cynradd, darparwyd amrywiaeth o dempledi syml i’w helpu i greu darlun, cartŵn neu naratif ysgrifenedig.  Ochr yn ochr â’r templedi, darparodd tîm y Comisiynydd gwestiynau sgaffaldio y gellid eu defnyddio i helpu plant i strwythuro eu hymatebion er mwyn cynnwys atebion posibl ar gyfer newid yn ogystal â phrofiadau Sam.

Galluogodd ‘Stori Sam’ dîm y Comisiynydd i ddeall sut olwg a theimlad sydd i fwlio ar sail hunaniaeth. Mae bwlio ar sail hunaniaeth yn cyfeirio at unrhyw fath o fwlio sy’n gysylltiedig â’r nodweddion sy’n cael eu hystyried yn rhan o hunaniaeth unigolyn neu ei grŵp hunaniaeth canfyddedig (Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, 2010). Gall hyn gynnwys anabledd, rhywedd, hunaniaeth rhywedd, hil, crefydd neu gred, neu gyfeiriadedd rhywiol. Mae Deddf Cydraddoldeb 2010  yn cyfeirio at y rhain fel nodweddion gwarchodedig.

 

Cipolwg ar brofiad Sam: gweithdai drama a storïau

Trwy’r holl ddelweddau gweledol a storïau ysgrifenedig a ddaeth i law am ‘Sam’, daeth ‘Sam’ yn llais i’r rhai oedd yn cael eu bwlio, i’r bwli, a hefyd i’r rhai oedd yn sefyll gerllaw, a daeth byd cymdeithasol cymhleth o ddiwylliannau bwlio i’r amlwg. Roedd ‘Sam’ yn aml yn rhywun oedd yn wahanol i blant eraill mewn rhyw ffordd, ac roedd cysylltiad yn cael ei awgrymu neu’n benodol rhwng hynny a bod yn darged diwylliannau bwlio. Roedd y pwysau cymdeithasol i gydymffurfio ag amrywiaeth o normau yn cynnwys pethau fel ymddangosiad corfforol, anabledd, tlodi, ethnigrwydd, crefydd, rhywioldeb a pheidio â chydymffurfio â stereoteipiau rhywedd. Soniodd rhai plant ba mor anodd oedd torri’n rhydd o normau cymdeithasol, hyd yn oed os oedden nhw am wneud hynny.

 

 

Yn ogystal â chasglu deunydd ysgrifenedig a gweledol, bu tîm y Comisiynydd yn cynnwys grwpiau mewn gweithdai drama fframiau rhewi. Roedd hynny’n galluogi’r cyfranogwyr i’w rhoi eu hunain mewn senarios a allai adlewyrchu profiadau Sam. Bu’r grwpiau yn trafod effeithiau bwlio ac atebion posibl i sicrhau newid. I roi cynnig ar hyn, ewch i’r gweithgaredd DIY, Fframiau Rhewi Bwlio. Cafodd yr holl ddeunydd ysgrifenedig a gweledol, yn ogystal â nodiadau a recordiwyd o’r gweithdai fframiau rhewi, eu dadansoddi a’u cyflwyno fel canfyddiadau, ynghyd ag argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru, Ysgolion, ac Awdurdodau Lleol yn yr adroddiad ‘Stori Sam: Gwrando ar brofiadau plant a phobl ifanc o fwlio yng Nghymru.’

Enghraifft: Stori a ysgrifennwyd gan ddisgybl ysgol gynradd

Un tro, roedd yna ferch fach o’r enw Sam, ac roedd hi’n newydd yn ei hysgol. Roedd hi’n ffrindiau gyda’r holl ferched poblogaidd, ond yna’n sydyn, fe welodd hi bêl-droed tu allan. 

Dywedodd hi, “Ydych chi eisiau chwarae pêl-droed?” wrth y merched poblogaidd.

“Ewww, na. Ti’n un od! Gêm i fechgyn yw hwnna” meddai’r merched poblogaidd. Pam wyt ti’n hoffi hwnna?”

Dechreuodd Sam deimlo’n drist ac yn bryderus. Roedd hi eisiau dweud wrth rywun, ond roedd hi’n pryderu y byddai’n wneud pethau’n waeth. Roedd hi’n teimlo emosiynau cymysg o hyn oherwydd eu bod nhw’n cadw dilyn hi o gwmpas a galw enwau cas arni. 

Felly dechreuodd hi ystyried y peth yn fwlio oherwydd eu bod nhw’n gwneud e drwy’r amser. Roedd hi eisiau dweud wrth rywun, ond roedd hi’n ofni petai hi’n gwneud hynny, y byddai’n newid o fwlio geiriol i fwlio corfforol.

Eisteddodd Sam i lawr i gael cinio, ar ei phen ei hun, yna daeth merch arall oedd yn eistedd ar ei phen ei hun draw ati. 

Dywedodd “Helo, wyt ti eisiau bod yn ffrindiau?” 

Dywedodd Sam “Ydw, ond wna i dy rybuddio di... rwy’n dipyn o ‘tomboy’”

“Mae hynny’n iawn, fi hefyd”

Mae nifer o hawliau plant a geir yn CCUHP yn cael eu bygwth neu eu gwrthod yn y disgrifiadau niferus o fwlio a gawson ni yn rhan o ‘Stori Sam’. 

Dyma rai arbennig o berthnasol:

 

“Mae angen addysgu pawb ynghylch pam mae pobl yn wahanol, cynyddu ymwybyddiaeth e.e. mae fy ffrind yn cael plyciau ac yn gwneud seiniau yn ddiarwybod, ac mae pobl yn meddwl ei bod hi’n dwp oherwydd ei bod hi’n methu siarad, felly maen nhw’n chwerthin am ei phen - mae hi’n deall hyn i gyd ac yn ddeallus dros ben” (grŵp llysgenhadon cymunedol)

 

“Dylai pob myfyriwr gael wythnosau gwrthfwlio pan fyddan nhw’n meddwl am ganlyniadau bwlio a sut mae’n gwneud i bobl deimlo, gan drafod atebion a pha mor bwysig yw siarad - fe wnaethon ni hynny  yn fy ysgol i, ac roedd yn help” (grŵp llysgenhadon cymunedol)

Lleoli ‘Stori Sam’ mewn dull gweithredu ysgol gyfan o ymdrin ag addysg perthnasoedd iach

Ar ôl gwrando ar brofiadau pobl ifanc o fwlio, un o argymhellion allweddol y Comisiynydd o’r gwaith hwn oedd bod plant a phobl ifanc o bob oed yn cael amser i fyfyrio ar eu perthnasoedd a’u trafod. Mae plant yn elwa o gyfleoedd fel amser cylch a fforymau eraill lle gallan nhw fyfyrio a thrafod perthnasoedd ac ymddygiad cyfoedion.  

Creodd gweithgareddau ‘Stori Sam’ le i drafod a myfyrio ymhellach ar y profiadau y bu plant yn eu rhannu trwy gymryd rhan yn y gweithgareddau. Ym mis Tachwedd 2017, cyhoeddodd y Comisiynydd adnoddau ar gyfer Ysgolion Cynradd ac Uwchradd, ac mae’r adnoddau hynny’n darparu syniadau ymarferol a gweithgareddau i athrawon ac i swyddogion cymorth bugeiliol sy’n gysylltiedig â’r cwricwlwm.  

 

Defnyddiodd Ysgol Gynradd Penygawsi ddull ysgol gyfan o gyflawni tasg arbennig wreiddiol ‘Stori Sam’, gan ddatblygu cyfres o gynlluniau gwersi wedi’u gwahaniaethu ar gyfer pob cyfnod allweddol ac addasu adnoddau oedd eisoes ar gael. Gweithiodd tîm y Comisiynydd gydag athro yn yr ysgol i gydgynhyrchu adnodd gwrthfwlio oedd yn arddangos dull addysgu ysgol gyfan Penygawsi. Gallwch ei ddarllen yma.

Yn ein hesgidiau ni: Mynd â  negeseuon Stori Sam i Gynulliad Cenedlaethol Cymru

Ym mis Tachwedd 2017, bu’r Comisiynydd yn arddangos detholiad o ddelweddau a geiriau, a grëwyd ac a ysgrifennwyd gan blant a phobl ifanc, a gasglwyd ynghyd fel rhan o ymgynghoriad ‘Stori Sam’. Roedd hwn  

yn gyfle i amlygu effaith wirioneddol cael eu bwlio ar fywydau plant yng Nghymru, a chyflwyno’r negeseuon hynny’n uniongyrchol i ymwelwyr cyhoeddus â Chynulliad Cenedlaethol Cymru a’r llunwyr penderfyniadau sy’n gweithio yno.

Cyfrannodd grŵp o artistiaid ifanc, fel rhan o’r grŵp Criw Celf, ymateb artistig i’r deunydd a gasglwyd gennym yn wreiddiol, ac archwilio’r syniad o’u rhoi eu hunain yn ‘esgidiau Sam’. Rhoddwyd detholiad o’r delweddau gweledol, y storïau ysgrifenedig a’r blogiau a gawson ni i’r grŵp fyfyrio arnyn nhw a’u trafod. Defnyddiodd y grŵp hen bâr o esgidiau yn fan cychwyn ar gyfer eu hymatebion unigol, gan addasu ac ychwanegu deunyddiau a gwrthrychau newydd i greu eu gwaith celf 3-dimensiwn cyfoes eu hunain. 

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED)

Mae Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yn gofyn bod ysgolion yn gweithredu i wella canlyniadau i ddisgyblion ag amrywiol nodweddion a amddiffynnir. Mae’n gyfreithiol ofynnol, o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Gall y Ddyletswydd hon gael ei defnyddio’n ddull hwylus o fynd i’r afael â bwlio ar sail hunaniaeth a rhoi dull gweithredu ysgol gyfan, ataliol, ar waith sy’n dysgu sgiliau perthnasoedd da a datrys gwrthdaro i blant yn ifanc, ac yn sicrhau strategaethau clir ar gyfer adnabod a mynd i’r afael â bwlio ar sail hunaniaeth pan fydd yn digwydd. 

Mynd i’r Afael â Diwylliannau Bwlio yn yr Ysgol 

 

Beth yw bwlio? 

Bwlio yw camddefnyddio perthynas o bŵer cymdeithasol a diwylliannol gyda’r nod parhaus o dargedu pobl neu grwpiau o bobl dros amser. Gall fod yn gudd neu’n amlwg a chael ei fynegi mewn ffyrdd geiriol, corfforol, seicolegol, materol neu dechnolegol.

Beth gall ysgolion ei wneud? 

Mae ymddygiad bwlio yn fynych yn ategu’r hyn sy’n dderbyniol yn gymdeithasol ac yn ddiwylliannol (e.e. beth gall ‘bachgen’ ei wisgo neu ble y dylai plentyn fyw). Mae unigolion neu grwpiau o blant a phobl ifanc sy’n cael eu hystyried yn rhai sy’n ‘wahanol’ i’r ‘norm’ yn dargedau mynych ar gyfer bwlio. 

Os yw ymddygiad bwlio’n cael ei ddeall fel micro-fynegiant o anghydraddoldeb cymdeithasol ehangach parhaus, yr arfer gorau i ysgolion yw gweithio tuag at ymyriadau sy’n ymdrin â diwylliannau bwlio yng nghyd-destun hawliau, tegwch a chyfiawnder cymdeithasol. 

Mae arfer gorau yn cynnwys datblygu polisïau ac arferion ysgol gyfan gyda phlant, rhieni/gofalwyr a’r gymuned ehangach i ddatblygu ymyriadau rhagweithiol a chadarnhaol sy’n:

 

 

Cyfres o gynlluniau gwersi a gweithgaredd gwrthfwlio ar gyfer plant cynradd i gyd-fynd â ‘Stori Sam’ sy’n darparu syniadau ymarferol i athrawon a swyddogion cymorth bugeiliol. 

Ymgyrch gan Lywodraeth Cymru yw Byw Heb Ofn / Dyma Fi sy’n herio stereoteipiau rhywedd mewn modd cadarnhaol, gyda’r nod o gychwyn sgyrsiau am rywedd ac annog pobl i ‘fyw heb ofn’ cyfyngiadau rhywedd a normau rhywedd.

Herio diwylliannau rhywedd yn ystod plentyndod er mwyn mynd i’r afael â bwlio mewn ysgolion 

Pam gall agweddau dim goddef bwlio LGBTQ ddod yn rhan o’r broblem

Sut mae pethau gwahanol am drais yn cael eu dysgu i fechgyn a merched 

Sut i herio hiliaeth mewn ysgolion ym Mhrydain

Bwlio sy’n gysylltiedig â rhywedd neu rywioldeb yw’r math mwyaf cyffredin o drais y mae myfyrwyr yn dod ar ei draws mewn ysgolion, ond yn aml does dim yn cael ei wneud i’w atal

Pam na fydd dweud wrth blant fod homoffobia ddim yn iawn yn rhoi stop ar fwlio mewn ysgolion  

Cychwyn Arni: Pecyn offer ar gyfer atal a threchu bwlio homoffobig, deuffobig a thrawsffobig mewn ysgolion cynradd

Dathlu Amrywiaeth trwy Lais y Disgybl: canllaw ar gyfer ysgolion cynradd

Canllaw Arfer Gorau Cynradd: sut mae ysgolion cynradd yn dathlu gwahaniaeth ac yn mynd i’r afael â homoffobia, deuffobia a thrawsffobia.

 

Cliciwch yma i greu Cwtsh Hunaniaeth!

neu

Cliciwch yma ar gyfer Rhoi Bwlio mewn Fframiau Rhewi!

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos yma:

 

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!