twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

 

 

Rydyn ni’n grŵp o fenywod ifanc ym Mlwyddyn 12 a Blwyddyn 13 sy’n cael cyfle i weithio gyda’n hathrawes, dawnswyr proffesiynol (Fumy, Chanelle a Kloe), cwnselydd proffesiynol (Pauline)  a gweithredwyr hawliau menywod i dynnu sylw at ein cyrff a’n teimladau mewn ffyrdd diogel, egnïol a llawen. 

Rydyn ni’n cyfarfod unwaith yr wythnos ar ôl ysgol i siarad, bwyta a dawnsio gyda’n gilydd. Rydyn ni’n gweithio gyda gwahanol arddulliau dawns a cherddorol sydd â’u gwreiddiau mewn diwylliannau Gorllewin Affricanaidd ac Affricanaidd-Caribïaidd, fel bashment, afrobeats, dancehall a mwy. Gall yr arddulliau hyn gael eu stigmateiddio gan y cyfryngau prif ffrwd fel rhai cywilyddus ac wedi’u rhywioli, heb roi llawer o sylw i hanes cyfoethog y mynegiant diwylliannol sy’n rhan o’u symudiadau. 

Trwy ddawnsio gyda’n gilydd ar ddiwedd y diwrnod ysgol, rydyn ni’n cael cyfle i ymlacio, adfer cydbwysedd a hawlio’r arddulliau dawns hyn yn ôl i’n hunain. 

Beth yw casineb at wragedd du? 

Mae casineb at wragedd du yn derm a fathwyd gan yr Athro Moya Bailey i fynd i’r afael â chroestoriad hiliaeth a rhywiaeth a gyfeirir tuag at fenywod du mewn diwylliant gweledol a phoblogaidd.

I gael mwy o wybodaeth am darddiad Casineb at Wragedd Du, cliciwch yma.

Ailweithio Arferion 

Mae cyfarfod yn wythnosol i ddawnsio, bwyta a siarad gyda’n gilydd yn darparu lle i drafod y problemau rydyn ni’n eu hwynebu yn yr ysgol, ar-lein ac yn ein cymunedau cyfoedion, lle i ddathlu ein pŵer a’n cyflawniadau, ac i archwilio beth yw nodweddion perthynas gadarnhaol. 

Mae pob sesiwn yn dechrau gydag ymarferion cynhesu ac archwilio arddull ddawnsio wahanol, sy’n caniatáu i ni symud gyda’n teimladau o’r dydd, a dathlu ein hunaniaethau. 

Rydyn ni wedi siarad am sut mae cyffyrddiadau a sylwadau digroeso yn y byd o’n cwmpas yn gallu ymosod ar ein cyrff, ond mae dawnsio gyda’n gilydd yn caniatáu i ni deimlo’n dda yn ein cyrff. Rydyn ni’n symud gyda’n gilydd i feithrin lle cefnogol a dathliadol i ferched a menywod, yn ogystal â chwalu rhai o’r rhwystrau rhyngon ni ac aelodau staff yn yr ysgol. Mae siarad a thrafod gyda’n gilydd ar ddiwedd y sesiwn yn cefnogi’r cysylltiad hwn, gan ein galluogi i rannu a dadansoddi profiadau niweidiol a chudd, ac archwilio ffyrdd y gallwn ni greu newid, yn bersonol ac yn y cymunedau rydyn ni’n rhan ohonyn nhw. 

“Mae treulio’r amser yma  gyda’n gilydd yn codi’r ysbryd” 

“Mae’n lle i glirio’n meddyliau” 

“Mae’n lle i fynegi’ch corff”

“Mae’n iawn i wneud camgymeriadau”

“Bob wythnos, rydyn ni’n atgoffa ein hunain o’n gwerth”

 

Modelu cyfeillgarwch cefnogol trwy weithdai dawns Blynyddoedd 8 a 9

Un o’r ffyrdd rydyn ni wedi bod yn gweithio i greu newid yw trwy gyflwyno gweithdai i ddisgyblion Blynyddoedd 8 a 9 mewn ysgolion lleol. Rydyn ni’n frwd ynghylch pŵer dawns i ddod â phobl at ei gilydd ac ailgydbwyso perthnasoedd. Yn y sesiynau hyn, trwy weithio gyda’n gilydd gyda dawnsiwr proffesiynol, rydyn ni’n chwarae gemau, rhannu dawnsiau a thrafod y pethau sy’n bwysig i ni mewn ffordd greadigol. 

Rydyn ni’n helpu’r merched iau i wybod ein bod ni’n eu deall nhw, ac yn gweithio gyda nhw i greu perfformiadau wedi’u seilio ar yr heriau a’r pleserau rydyn ni’n eu profi fel menywod ifanc, yn enwedig trwy ein cyfeillgarwch. Mae arwain y gweithdai hyn ar y cyd yn ein galluogi i fodelu perthnasoedd cefnogol a chydweithredol mewn ffordd ddifyr a chreadigol.

 

Ein hathrawon dawns a’u gwaith

Chanelle Hall

Kloe Dean

Fumy Opeyemi

 

Dyma rai caneuon rydyn ni wedi dwlu dawnsio iddyn nhw a’u dehongli ein hunain:

‘Get Bodied’ gan Beyonce

‘16 Shots gan Stefflon Don (gwreiddiol neu ailgymysgiad Afrobeats)

‘Walking Trophy’ gan HoodCelebrityy

‘Praying’ gan Kesha

Esboniwr: Beth yw dawns gyfoes?

Crunk Feminist Collective

Gwreiddiau Twercio: Beth ydyw, beth mae’n ei olygu, a sut cafodd ei feddiannu

Dawns hip-hop yn erbyn Donald Trump: sut daeth symudiadau robot yn wleidyddol 

Pryd mae benthyg yn dod yn feddiannu diwylliannol mewn dawns?

Does dim angen stereoteipiau gwrol i ddenu bechgyn i ddawnsio

Gweithredydd Bywydau Du yn Bwysig yn addysgu gweithredaeth wleidyddol trwy ddawns

Gweithredwyr cymdeithasol yn defnyddio dawns i frwydro yn erbyn hiliaeth 

Dawnsio gydag Anabledd 

Dawns, Anabledd a Chroestoriadedd

Gweler mwy o astudiaethau achos AGENDA ar gyrff a symud: Dan Bwysau; Pob CORFF yn Bwysig; Canfod Cydbwysedd. 

 

Cliciwch yma i roi cynnig ar Symud Gyda’n Gilydd yn Erbyn Casineb at Wragedd Du!

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos yma:

 

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!