twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

 

CROESO I’R PROSIECT  DAN BWYSAU?

Grŵp o fyfyrwyr Blwyddyn 11 ydyn ni a gafodd gyfle i weithio gyda choreograffydd, adroddwr storïau digidol ac arbenigwr ar ddiwylliannau perthnasoedd pobl ifanc.

Fe wnaethon ni gyfarfod am 5 sesiwn wythnosol 1 awr o hyd i arbrofi sut gallai’r cwricwlwm ‘grymoedd’ ym maes ffiseg ein helpu i archwilio ein teimladau ynghylch perthnasoedd trwy sain a symud.

  • A all rhannau eraill o’r cwricwlwm ein helpu i archwilio ein teimladau am berthnasoedd?

  • A allwn ni fynegi ein hunain heb ddatgelu gormod?

  • A allwn ni gael hwyl wrth archwilio materion difrifol fel cydsyniad, gorfodaeth a rheolaeth?

Beth yw glitsh? 

Yn y byd digidol, pan fydd nam ar beiriant, yr enw ar hynny yw glitsh. Mae glitsh yn aml yn cael ei ddeall fel rhywbeth y mae angen ei drwsio.

Beth yw Apiau Glitsh?

Mae apiau glitsh yn gallu trin a llygru ar hap (pure-glitch) neu’n fwriadol (glitch-alike) y data digidol sy’n creu delweddau, fideos a/neu seiniau.  

Beth yw Glitsho?

Mae glitsho yn gallu bod yn ffordd ddifyr o edrych yn wahanol ar sut rydych chi’n clywed, yn gweld, yn meddwl ac yn ymgysylltu â chi’ch hun, pobl eraill a’r byd o’ch cwmpas. 

GRYMOEDD A’N SYMUDODD

Fe wnaethon ni argraffu’r cysyniadau ffiseg ar gyfer ‘grymoedd’. Roedden nhw’n ein helpu i feddwl am sut mae ein perthynas a’n rhyngweithio ag eraill yn gwneud i ni deimlo’n ddiogel ac yn anniogel, yn hapus ac yn drist, wedi’n rheoli ac yn rhydd. Fe feddylion ni am y grymoedd sy’n gwneud rhai teimladau neu symudiadau’n bosibl neu’n amhosibl:

Elastigedd: “pan fydd perthnasoedd yn dod yn fusnes i bawb”

Disgyrchiant: “poeni am rywbeth”, “teimladau sy’n eich llethu”

Pellter stopio: “gwybod pryd i stopio”, “peidio â mynd yn rhy bell”

Pwysedd atmosfferig: “pan fydd pwysau arnoch chi i wneud rhywbeth”, “pan fyddwch chi’n teimlo eich bod yn cael eich barnu”

Cyflymder: “mynd yn rhy gyflym mewn perthynas”

Fe ysgrifennon ni’r holl bethau roedden ni eisiau  cynyddu ymwybyddiaeth ohonyn nhw. Roedd y cysyniadau gwyddoniaeth yn ddefnyddiol iawn.

SYMUD GYDA GRYMOEDD

Fe fuon ni’n symud ein cyrff ac yn chwarae  â sain i arbrofi â’n meddyliau a’n teimladau ynghylch grymoedd.

Rhoddodd yr ap glitsh ffyrdd newydd i ni weld a chlywed ein seiniau a’n symudiadau. Fe greon ni berfformiad i ddod â’n teimladau  a’n cysyniadau’n fyw.

Gwyliwch ein darn terfynol yma:

Under Pressure? from Emma Renold on Vimeo.

“Os nad ydych chi’n un mawr am siarad gallwch ei ddangos trwy symud”

“Roedd angen rhywbeth fel hyn arnon ni”

“Roeddwn i’n dwlu gwneud y sain-luniau gyda’n lleisiau”

“Mae’n gwneud i chi feddwl am bethau”

Crëwyd y gerdd hon o’n holl feddyliau llafar neu ysgrifenedig:

DAN BWYSAU?

[GRYM]

Yn gaeth 

Methu siarad 

Ofni dweud

 

[PWYSAU]

Mae teimladau ac 

emosiynau’n cronni 

y tu mewn i ni 

ein cyrff,

y bydysawd

 

[DISGYRCHIANT]

Gair 

Edrychiad 

Pryder 

Yn pwyso’n drwm arnon ni

 

AWYRGYLCH [CYMDEITHASOL]

Perthnasoedd  

yn dod yn  

fusnes  

i bawb

Wrth bwy dylwn 

i sôn?

Pwy allai farnu? 

Gormod o embaras

[FFRITHIANT]

Teimlo’n sownd 

Fel petai hyn heb  

ddigwydd i neb ond ni

Ddim yn gwybod beth 

allai ddigwydd

 

[SOLIDAU, HYLIFAU  a NWYON]

Gall teimladau ein codi a’n dal i lawr Cael ein tynnu ar wahân a’n rhannu fel celloedd DIrgrynu yn erbyn ein gilydd

Teimlo’n rhydd ac mewn cysylltiad ar yr un pryd

Yn unedig yn ein rhaniadau

 

[ARBED YNNI]

Bydd teimladau, fel ynni, bob amser yn llifo

Dydyn nhw ddim yn cael eu creu na’u dinistrio 

Bob amser yn trawsnewid o un ffurf i un arall

Bob amser yn ein cysylltu Bob amser yn fwy na ni

Gadewch i ni weithio ar y cyd â’r grymoedd sy’n gwneud symudiad yn bosibl

Yn ein perthnasoedd 

Yn ein bywydau

Ar gyfer ein dyfodol

“doeddech chi ddim yn gwybod eich bod chi’n gallu symud mewn ffordd arbennig!”

“rydych chi’n dysgu pethau trwy eich corff”

“roedd yn llawer o hwyl”

“roedd yn help mawr i ddod â phethau’n fyw”

“Weithiau mae’n anodd siarad am bethau personol. Roedd y gweithdai’n help i ni fynegi a rhannu ein teimladau gyda phobl eraill, heb orfod eu henwi’n uchel”

Beth yw perthynas iach?

Edrychwch ar #lovedontfeelbad a Chanllaw rhyngweithiol Cymorth i Ferched ar berthnasoedd iach:

Dysgwch beth sy’n creu perthynas iach

Ai perthynas iach yw hon?

Mythau am reolaeth drwy orfod a cham-drin domestig

Popeth mae angen i chi ei wybod am reolaeth drwy orfod

Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud am reolaeth drwy orfod

Lawrlwythwch y poster Byw Heb Ofn hwn am berthnasoedd iach ac afiach

 

Sut gall y celfyddydau helpu i hyrwyddo perthnasoedd iach?

TENDER www.tender.org.uk

Elusen yw Tender sy’n gweithio i hyrwyddo perthnasoedd iach sydd wedi’u seilio ar gydraddoldeb a pharch. Maen nhw’n defnyddio theatr a’r celfyddydau i sicrhau bod pobl ifanc yn ymgysylltu ag atal trais a’u galluogi i adnabod ac osgoi camdriniaeth a thrais.

 

Cymorth ar-lein i’ch helpu i ddeall cam-drin mewn perthynas, a sut i gymryd camau cadarnhaol os yw’n digwydd i chi.

The Hideout

This Is Abuse

Byw Heb Ofn 

Galop LGBT

Brook
Elusen iechyd a lles rhywiol yw Brook  sy’n gweithio mewn ysgolion cynradd ac uwchradd i addysgu plant a phobl ifanc am ryw a pherthnasoedd, gan gynnwys cydsyniad,  perthnasoedd iach, aflonyddu rhywiol, anfon negeseuon testun rhywiol a mwy. 

 

Cliciwch yma i roi cynnig ar wneud Celf Perthnasoedd Glitsh eich hun!

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos yma:

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!