twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

Weithiau gall ein syniadau ar gyfer sut gall y byd ddod yn lle mwy diogel, cyfartal a theg o ran rhywedd redeg i ffwrdd â ni. Os oes gennych chi lwyth o syniadau, ac mae angen eu rhyddhau - dyma’r gweithgaredd CELF cychwynnol i chi. Beth am greu eich baner eich hun fel rhan o’r broses?  

1: Rholio rholio rholio

Rholiwch y papur i’r hyd rydych chi ei eisiau. Gallech ei rolio ar draws bwrdd, neu ar draws llawr ystafell ddosbarth neu neuadd ysgol. 

2: Rhedfa Tasgu Meddyliau

Mewn grwpiau bach, neu fel gweithgaredd grŵp cyfan, tasgwch feddyliau am yr holl bethau y mae angen iddyn nhw stopio digwydd i wneud y byd yn lle mwy teg, cyfartal a diogel o ran rhywedd. 

3: Goleuo a Dileu 

Cyfunwch y rholiau, gan ddefnyddio’r tâp gludiog. Diffoddwch y golau. Defnyddiwch eich tortshys i ddarllen y negeseuon ar y rholiau rhedfa, a goleuwch y pwynt rydych chi eisiau dysgu mwy amdano a chynyddu ymwybyddiaeth ohono. Trowch y golau ymlaen. Ffurfiwch linell ar un pen o’r rholyn. Cerddwch ar y rholyn, gan stampio’n uchel i ddileu’r holl bethau rydych chi eisiau eu stopio rhag digwydd yn y byd.

4: Baner Rhedfa 

Addurnwch eich rhedfa. Lluniwch ymyl. Lliwiwch yr olion traed sydd wedi marcio’r papur o’ch gweithgaredd stampio. Defnyddiwch amlygwyr i nodi’r meysydd newid rydych am roi sylw iddyn nhw yn eich ysgol/grŵp ieuenctid. Ar ôl gorffen, gwnewch y rholyn yn ddigon cryf (e.e. cysylltu ffon bren wrth un o’r ymylon hir) i’w hongian fel baner ar y wal. Os yw’n hir iawn, torrwch ef yn rhannau llai.

5: Beth nesaf? 

Nawr eich bod chi wedi amlygu maes ar gyfer newid, defnyddiwch yr adnodd AGENDA  i ddysgu mwy amdano. Rhowch gynnig ar y Chwilair Ffeministiaid i weld a oes unrhyw sefydliadau neu grwpiau a all eich helpu. Gwnewch eich gwaith ymchwil eich hun. Cliciwch ar “Syniadau ar gyfer Newid” i weld ffyrdd creadigol o gychwyn arni. 

Darllenwch am sut defnyddiodd y prosiect Ruler HeART y rhedfa at newid 

Cyn i chi ddechrau addasu’r gweithgaredd hwn ar gyfer y plant a’r bobl ifanc yn eich lleoliad, darllenwch yr adran ar Ddiogelwch a Chefnogaeth.

Lawrlwythwch y PDF Gweithgaredd StARTer yma:

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!