twitter logo
facebook logo
email icon
English  search icon
  • Archwilio Agenda
    • Croeso
    • Gwybodaeth
    • Diogelwch a Chymorth
    • Dechrau Arni
    • Syniadau ar Gyfer Newid
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • DIY
    • Gwneud I Agenda Gyfrif
    • Lawrlwytho Agenda
  • Archwilio Crush
    • Croeso
    • Dechrau arni ag Archwiliad Creadigol
    • Lawrlwythio Crush
    • Cardiau Crush
  • Adnoddau
    • Adnoddau print
    • Adnoddau fideo

   

SIARAD A GWNEUD

Fe sefydlon ni glwb cinio Materion Perthnasoedd gyda’r athro Emma Renold i siarad am beth sy’n creu perthynas â pharch, a pha fath o broblemau mae pobl ifanc yn eu hwynebu yn yr ysgol, ar-lein ac yn ein cymunedau. Roedd Emma wedi recordio ein sgyrsiau a theipio ein geiriau, ac fe ddefnyddion ni nhw i wneud llawer o wahanol bethau, o fapiau meddwl a rapiau i galonnau wedi’u tagio a sgertiau pren mesur! Dyma ein stori...

 

MAPIAU MEDDWL A RAPIAU

Fe lunion ni fapiau meddwl ac ysgrifennu cerddi. Enw’r gerdd hon yw ‘Sgrechian, Gweiddi, Codi Llais’ (Scream, Shout, Speak Out’).

Gwrandewch arnon ni’n ei darllen yma!

CALON WEDI’I THAGIO

Mae’n anodd trafod rhai teimladau. I’n helpu i fynegi’r teimladau hyn mewn gwahanol ffyrdd, darllenodd Emma rai o’r geiriau a’r ymadroddion (o’n trafodaethau grŵp a’n cyfweliadau) roedden ni’n teimlo eu bod wedi’n brifo. Yn y diwedd, fe wasgon ni’r papur yn ein dyrnau a’i rwygo i fynegi sut roedden ni’n teimlo heb siarad. Mewn 10 munud roedden ni wedi creu pentwr mawr o ddarnau wedi’u rhwygo. Nid rhywbeth “tebyg i’n teimladau” oedd y darnau hyn - nhw “oedd ein teimladau”.

Doedden ni ddim eisiau taflu ein teimladau i ffwrdd. Yn lle hynny, fe gasglon ni’r cyfan a phenderfynu creu calon. Fe dynnon ni lun clociau ar y calonnau i ddangos bod amser yn gallu gwella. Ond mae craciau ar y clociau hefyd, i ddangos nad yw amser yn gallu gwella popeth. 

Fe roeson ni’r geiriau oedd yn brifo y tu allan i’r galon - doedden ni ddim eisiau cuddio beth sy’n digwydd i ferched mwyach.

 

Y SGERT PREN MESUR

Mae rhai bechgyn yn defnyddio pren mesur i godi sgertiau merched. Daeth y syniad ar gyfer y sgert pren mesur o awydd i gynyddu ymwybyddiaeth a newid y pethau sy’n cael eu defnyddio i godi cywilydd ar ferched. Roedd y sgert yn ffordd o wneud y profiadau sy’n brifo merched, sy’n aml yn guddiedig, yn weladwy a’u troi nhw’n rhywbeth cadarnhaol - rhywbeth a allai greu newid. Ar y prennau mesur fe ysgrifennon ni’r pethau negyddol doedden ni ddim eisiau eu clywed eto a rhai pethau cadarnhaol roedden ni eisiau eu clywed a’u newid. Mae’r sgert hon wedi cael ei gwisgo gennym ni, gan bobl ifanc eraill, gan ymarferwyr a llunwyr polisi ledled Cymru a’r tu hwnt. Mae ganddi ei nerth ei hun!

 

 

“mae’r negeseuon ar y prennau mesur yn anodd eu darllen, yn union fel mae profiadau merched o aflonyddu rhywiol yn anodd eu trafod ac yn anodd eu clywed”

 

RHEDFA AMHARCHU

Fe ddefnyddion ni rolyn hir o bapur ac ysgrifennu arno’r holl eiriau a sylwadau atgas rydyn ni’n eu clywed bob dydd yn yr ysgol a’r tu allan i’r ysgol. Fe wnaethon ni ei ddefnyddio yn ein gwasanaeth ysgol, gan ofyn i fyfyrwyr “stampio’r geiriau cas allan”. Ein henw ar y darn hwn oedd ‘rhedfa  amharchu’.

 

GWRANDO, YMGYNNULL A STAMPIO

Fe gyflwynon ni ddau wasanaeth ysgol i fyfyrwyr a staff ym Mlynyddoedd 7, 8 a 9 i gynyddu ymwybyddiaeth o drais rhywiol mewn perthnasoedd a diwylliannau cyfoedion.

Fe rannon ni ein holl weithiau celf, o’r ‘galon wedi’i thagio’ i’r ‘sgert pren mesur’. 

Fe wnaethon ni drosglwyddo’r galon wedi’i thagio o law i law fel bod y bobl ifanc yn cael cyfle i deimlo ein teimladau a’r mathau o eiriau sy’n ein brifo yn yr ysgol ac ar-lein. Fe ddarllenon ni ein cerdd, ‘Sgrechian, Gweiddi, Codi Llais’ a gofynnon ni i’r myfyrwyr stampio’r geiriau cas allan ar ein ‘Rhedfa Amharchu’.

RULER HEART: CREU TRWY DORRI A STWNSHO

Fe ddatblygon ni ein calon wedi’i thagio trwy weithio gyda chlai. Fe ddefnyddion ni’r prennau mesur fel offer i dorri, siapio, crafu a thrywanu’r calonnau. Fe wnaethon ni droi’r prennau mesur a’r geiriau (o’n sgyrsiau gwreiddiol am fod yn ddiogel ac yn anniogel) a’u gosod ym mhob calon. Roedd yn gathartig iawn.

Cafodd y ‘rhedfa amharchu’ ei lamineiddio ar fwrdd caled, gyda phrennau mesur sy’n gallu cael eu codi a’u troi i ddatgelu’r geiriau sydd wedi’u stampio allan.

Fe ddewison ni sylwadau myfyrwyr o’r gwasanaeth ysgol ‘materion perthnasoedd’, eu rholio i fyny a’u rhoi mewn jariau gwydr siâp calon.

Mae ein stori a’n holl arteffactau wedi cael eu darllen, eu clywed, eu cyffwrdd a’u gwylio mewn arddangosfeydd lleol a chenedlaethol ledled Cymru. Mae wedi bod yn brofiad sydd wedi newid bywyd – nid ein bywydau ni yn unig, ond bywydau pobl eraill hefyd, gobeithio.

BLE BYDD EIN ‘RULER  HEART YN MYND NESAF?

"Pan ddechreuon ni siarad am beth oedd yn bwysig i ni, ’doedd dim syniad gennym y bydden ni’n gwneud y pethau anhygoel hyn - a phethau sy’n gwneud i bobl sylweddoli sut brofiad yw aflonyddu rhywiol go iawn”

Pa ddulliau dienw gallech chi eu defnyddio i gasglu safbwyntiau a phrofiadau myfyrwyr a staff ar fater rydych chi’n cynyddu ymwybyddiaeth ohono?

Sut chi wneud eich gwasanaeth ysgol dan arweiniad myfyrwyr yn fwy rhyngweithiol?

Darllenwch am sut mae ffrogiau yn hongian o leiniau dillad ar draws cae pêl-droed yn Pristina, Kosovo, yn cynyddu ymwybyddiaeth ar gyfer goroeswyr trais rhywiol yn ystod Rhyfel Kosovo.

16 menter gelf sy’n ymdrin â thrais yn erbyn merched a menywod.

Darllenwch fwy am sut i greu negeseuon effeithiol trwy’r celfyddydau gweledol i gynyddu ymwybyddiaeth o brofiadau pob dydd o drais rhywiol.

I gael gwybod am fwy o weithredaeth sgertiau gan bobl ifanc, dilynwch #iammorethanadistraction

Ydy rheolau gwisg ysgol yn rhywiaethol?

Lawrlwythwch yr astudiaeth achos yma:

PDF ICON

Download the entire AGENDA resource here!